Mae pleidiau annibyniaeth Catalwnia wedi addo cydweithio a “sefyll gyda’i gilydd” wrth drafod y ffordd ymlaen gyda’r Sosialwyr yn dilyn etholiad cyffredinol Sbaen dros y penwythnos.

Senedd grog oedd y canlyniad, ac mae’r Sosialwyr yn dibynnu ar gefnogaeth pleidiau eraill er mwyn ffurfio llywodraeth.

Does gan Blaid y Bobol ddim mwyafrif er mai nhw enillodd y nifer fwyaf o seddi, sy’n golygu bod y Sosialwyr, plaid Prif Weinidog Sbaen Pedro Sánchez, bellach yn ceisio cefnogaeth yn y gobaith o allu ffurfio llywodraeth.

Collodd y pleidiau annibyniaeth gyfanswm o 770,000 o bleidleisiau rhyngddyn nhw, gan ennill dim ond saith sedd yr un, ond mae’r 14 gyda’i gilydd yn hanfodol i obeithion y Prif Weinidog o aros mewn grym.

Bydd angen cefnogaeth pleidiau llai ar y bloc Sosialwyr-Sumar er mwyn ffurfio llywodraeth.

‘Dewr’

Dywed Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia, fod rhaid i Brif Weinidog Sbaen fod yn “ddewr”, ac mae’n galw ar Junts per Catalunya i “fanteisio ar y cyfle”.

“Byddwn ni’n gwneud yn well pe baen ni’n ei wneud e gyda’n gilydd,” meddai.

“Gyda’i gilydd, mae gan [Junts ac Esquerra] 14 Aelod Seneddol penderfynol yn y Gyngres.

“Mae cynrychiolwyr y ddwy blaid yr un mor benderfynol â’i gilydd, ond dim ond pe bai’r 14 yn cydweithredu.”

Yn ôl Albert Batet, un o aelodau seneddol Junts, fydd ei blaid “ddim yn rhedeg i ffwrdd” o’r sefyllfa, ond mae’n galw ar Brif Weinidog Sbaen i fod yn glir ynghylch a yw’r Sosialwyr “eisiau trafodaeth wleidyddol neu beidio”.

Fe fu’r Sosialwyr yn dweud bod rhaid cynnal trafodaethau “o fewn fframwaith y Cyfansoddiad”, sy’n golygu ei bod hi’n debygol fod amnest ar gyfer arweinwyr annibyniaeth a refferendwm annibyniaeth arall am gael eu rhoi o’r neilltu.

Mae Salvador Illa, arweinydd Sosialwyr Catalwnia, yn galw ar y pleidiau annibyniaeth i fod yn “gyfrifol”, tra bod un o bleidiau clymblaid Sumar yn galw am gytundeb er mwyn osgoi etholiad cyffredinol arall.

Yr asgell dde

Yn y cyfamser, mae’r blaid asgell dde Vox yn dweud na fyddan nhw’n ceisio atal Plaid y Bobol rhag ffurfio llywodraeth gyda chefnogaeth y Sosialwyr.

Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl iddyn nhw ddweud eu bod nhw’n barod i weld etholiad cyffredinol arall pe na baen nhw’n cael bod yn rhan o’r llywodraeth.

Mae gan Vox a Phlaid y Bobol gyfanswm o 169 o seddi rhyngddyn nhw, saith sedd yn brin o fwyafrif.

Dydy hi ddim yn debygol, serch hynny, y byddai’r Sosialwyr yn barod i gefnogi Plaid y Bobol i ffurfio llywodraeth – rhywbeth sydd wedi cael ei gadarnhau gan Blaid y Bobol hefyd.