Mae’n debyg bod haf poeth 2022 yn arwydd o’r hyn sydd i ddod ac yn dystiolaeth o gynhesu byd eang, yn ôl adroddiad diweddaraf y Swyddfa Dywydd.

Haf 2022 oedd yr un poethaf yn y Deyrnas Unedig yn ôl cofnodion, gyda’r tymheredd mor uchel â 40 gradd ar un adeg.

Arweiniodd hyn at effeithiau dinistriol mewn sawl achos, gan gynnwys tanau gwyllt mewn rhai rhannau o’r wlad.

Er yr haf gwlyb sydd yn wynebu’r Deyrnas Unedig dros yr wythnosau nesaf, dywed y Swyddfa Dywydd fod y tymheredd wedi bod yn codi uwchben 36 gradd yn fwy rheolaidd nag erioed o’r blaen.

Yn ôl rhagamcanion hinsawdd, mae “hafau poethach a sychach” ar y gweill.

Dywed Oli Claydon o’r Swyddfa Dywydd fod cyrraedd 40 gradd yn cael ei ystyried yn enghraifft o “dywydd eithafol”, ond mae’n debygol iawn y daw’n ddigwyddiad mwy cyson dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae’r tebygolrwydd o fynd heibio (tymheredd o 40 gradd) yn y Deyrnas Unedig wrth symud ymlaen bellach wedi cynyddu oherwydd newid hinsawdd gaiff ei achosi gan ddyn,” meddai.

“Felly, yn ogystal â’r angen i liniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, rydym eisoes yn profi effeithiau newid hinsawdd, felly mae angen addasu i’r mathau o eithafion tywydd rydym yn eu gweld yn barod yn y Deyrnas Unedig.”

Cofnodi’r tywydd gwlypaf

Er hynny, mae pump allan o’r deg o flynyddoedd gwlypaf sydd wedi’u cofnodi ers 1836 yn y Deyrnas Unedig yn ystod y ganrif hon.

Yn yr un modd, mae lefelau’r môr yn parhau i godi wrth i rew ddadmer yn y pegynau ar gyfradd o bron i ddwbwl yr hyn yr oedd hi yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Mae Fritha West, gwyddonydd ymchwil gyda Choed Cadw, yn dweud bod tywydd 2022 wedi bod yn arwydd o wanwyn cynnar, gyda Hydref cynnes a Chwefror mwyn.

Bu i hyn ddod i’r amlwg trwy arferion y byd natur wrth i ddail aros ar goed am 16 diwrnod yn hirach na’r cyfartaledd blaenorol, ac i rai anifeiliaid a phlanhigion ymddangos yn gynharach nag arfer.

Yn ôl arbenigwyr, dydy’r Deyrnas Unedig ddim wedi gwneud digon i baratoi at newidiadau yn yr hinsawdd, gan nad yw seilwaith y Deyrnas Unedig wedi’i ddylunio gan ystyried tymheredd uchel.