Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio â chyffwrdd unrhyw adar gwyllt sâl neu farw yn Sir Benfro, ac i gadw eu cŵn draw oddi wrthyn nhw hefyd.

Mae’r adar yn cael eu tynnu oddi ar y traethau’n rheolaidd, ond mae mwy ohonyn nhw’n cael eu golchi i’r lan rhwng yr ymgyrchoedd glanhau.

Gwylogod yw’r rhain fwyaf ohonynt, ond mae gweilch y penwaig a gwylanwyddau wedi’u cofnodi yno hefyd.

Cafodd profion eu cynnal ar sampl o’r adar meirw, ac mae ffliw adar wedi’i gadarnhau yr wythnos hon.

Mae ymateb amlasiantaeth ar waith i ymdrin â’r mater.

Beth yw ffliw adar?

Mae ffliw adar bellach yn gyffredin ledled gwledydd Prydain, ac mae’n effeithio’n arbennig ar adar y dŵr, gwylanod ac adar ysglyfaethus.

Er bod y clefyd yn cael ei ystyried yn llai o broblem mewn poblogaethau adar sydd i’w gweld yn yr ardd, y cyngor o hyd yw i osgoi trin adar sydd wedi tyfu i’w maint llawn.

Mae’r clefyd yn ddinistriol i adar gan ei fod yn lledaenu’n gyflym iawn, ac er bod gan rai mathau y potensial i neidio o adar i fodau dynol, mae hyn yn brin iawn.

Wrth siarad â golwg360 dywed llefarydd ar ran elusen anifeiliaid yr RSPCA fod camau mae modd eu cymryd i helpu i atal ymlediad y salwch.

“Fel arfer, rydym yn annog perchnogion cŵn i gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn o amgylch bywyd gwyllt ac i beidio â chaniatáu i’ch ci fwyta adar marw,” meddai llefarydd.

“Os canfyddir adar gardd babanod y tu allan i nyth a bod angen eu trin, dylai pobol bob amser wisgo menig a golchi eu dwylo’n drylwyr yn syth wedyn i leihau’r risg o drosglwyddo clefydau.

“I gael cyngor am ffliw adar a chlefydau eraill, gall y cyhoedd ymweld â gwefan yr RSPCA.

“Mae’r RSPCA wedi creu animeiddiad i egluro sut y gall pobol helpu anifeiliaid mewn angen orau.”

Perchnogion a cheidwaid adar

Er nad oes Parth Atal Ffliw Adar ar waith ar hyn o bryd, cyngor Llywodraeth Cymru yw y dylai ceidwaid adar barhau i lenwi’r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch.

Bioddiogelwch gofalus yw’r dull mwyaf effeithiol o reoli clefydau sydd ar gael, a dylai pob ceidwad adar ddilyn mesurau bioddiogelwch manylach bob amser i atal y risg o gynnydd mawr mewn achosion yn y dyfodol.

Mae camau eraill y gall perchnogion a cheidwaid adar eu cymryd hefyd.

“Mae’r RSPCA yn argymell yn gryf bod perchnogion a cheidwaid adar yng Nghymru yn dilyn yn llawn mesurau a chyngor Llywodraeth Cymru,” meddai’r llefarydd wedyn.

“Er nad oes parth atal yn ei le bellach, cynghorir ceidwaid adar i barhau i gwblhau’r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch.”

‘Rhyddhau achubwyr’

Gydag anifeiliaid yn dioddef yn ofnadwy am esymau eraill hefyd, y mwyaf mae pobol yn helpu, y mwyaf mae’r achubwyr yn gallu helpu anifeiliaid eraill.

“Bob tro mae anifail gwyllt bach yn cael cymorth gan y cyhoedd mae’n rhyddhau achubwyr arbenigol hanfodol yr elusen i gyrraedd anifeiliaid sy’n dioddef o greulondeb ac esgeulustod torcalonnus, swydd nad oes unrhyw elusen arall yn ei gwneud,” meddai’r llefarydd.

“Mae angen mwy o bobol ar y RSPCA i helpu, felly rydym wedi cynhyrchu offer cyflym a hawdd yn rspca.org.uk/reportcruelty i gefnogi pobol i gael yr help sydd ei angen arnynt i fywyd gwyllt cyn gynted â phosibl.”

Cydweithio

Y sefydliadau sy’n cydweithio â’i gilydd i ymdrin â’r mater yw Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, a Llywodraeth Cymru.

“Gwnewch yn siŵr fod gennych wybodaeth wrth law am ble a pha bryd y cafodd yr aderyn neu’r adar eu darganfod,” meddai’r Cynghorydd David Simpson, arweinydd Cyngor Sir Penfro.

“Mae defnyddio ap lleoli, fel what3words, i gofnodi lleoliad yr aderyn/adar sâl neu farw yn ddefnyddiol dros ben hefyd.”

Yn ôl James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, maen nhw’n rhagweld cynnydd yn nifer yr adar fydd yn cael eu golchi i’r traethau yn sgil tywydd gwael yn ddiweddar.

Dylid rhoi gwybod I’r mudiadau cywir os ydych yn dod ar draws adar sal neu feirw.

“Mae’n bwysig iawn nad yw aelodau’r cyhoedd yn cyffwrdd adar sâl neu feirw, ond hefyd eu bod yn ein helpu i ddeall yr effeithiau cadwraeth ar ein poblogaethau rhyngwladol bwysig o adar y môr trwy barhau i roi gwybod am unrhyw rai y byddant yn dod ar eu traws,” meddai Lisa Morgan o Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin a De Cymru.

“Byddem yn annog y cyhoedd i roi gwybod i DEFRA am unrhyw adar gwyllt meirw trwy ei linell gymorth neu’r ffurflen ar-lein (03459 335577 neu www.gov.uk/guidance/report-dead-wild-birds.

“Dylid rhoi gwybod i’r RSPCA am unrhyw adar sâl neu sydd wedi’u hanafu (0300 1234 999),” meddai llefarydd Llywodraeth Cymru:

“Rydym yn drist i ddarganfod adar meirw ar draws rhai o’r traethau rydym yn gofalu amdanynt yn Sir Benfro,” meddai Rhian Sula, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Sir Benfro.

“Rydym yn gwybod ei fod yn peri gofid i bobl weld adar sâl a meirw a byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â sefydliadau partner ac asiantaethau’r llywodraeth i fonitro’r sefyllfa.”

Dylid rhoi gwybod am adar meirw mewn mannau cyhoeddus drwy ffonio 01437 764551 (neu 0345 601 5522 y tu allan i oriau) er mwyn i Gyngor Sir Penfro drefnu i’w casglu’n ddiogel.

Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sâl neu wedi’u hanafu (ar dir cyhoeddus neu breifat), cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999.

Dylid rhoi gwybod i CSP am adar marw ar y niferoedd uchod at ddibenion casglu gwybodaeth a DEFRA ar 03459 33 55 77 neu ymweld â https://www.gov.uk/guidance/report-dead-wild-birds