Bydd pymtheg o arwyddion newydd yn tynnu sylw at asedau lleol ac yn helpu i gysylltu tair ardal arwyddocaol Amlwch, yn ôl Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae arwyddion a dehongliadau newydd wedi cael eu codi o amgylch y dref yn ystod yr wythnos ddiwethaf i dynnu sylw at ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog.

Mae croeso mawr wedi bod i’r arwyddion, y byrddau dehongli a’r arwyddion dynodi llwybr modern, fydd yn helpu i gysylltu canol y dref gyda Phorth Amlwch, Llwybr Arfordir Ynys Môn a Mynydd Parys gerllaw.

Cafodd y prosiect ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Magnox NDA, gyda chefnogaeth gan Gyngor Tref Amlwch.

Hanes

Ar un adeg, Mynydd Parys oedd mwynglawdd copr mwyaf y byd ac fe drawsnewidiodd Amlwch o fod yn bentref pysgota bach i fod yn un o drefi mwyaf diwydiannol Cymru yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ei anterth, roedd y mwynglawdd copr yn cyflogi dros 1,500 o bobol oedd yn gweithio uwchben ac o dan y ddaear, yn cloddio ac yn hidlo’r mwyn copr gwerthfawr am geiniog y dydd yn unig.

Gwelodd yr ardal gyfnod o dwf sylweddol oherwydd y cynnydd mewn adeiladu llongau, echdynnu a phrosesu copr ynghyd â diwydiannau cysylltiedig oedd yn cefnogi’r gweithwyr.

Denu mwy o bobol i’r dref

Yn ôl Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu’r Economi, Llinos Medi bydd yr arwyddion o fudd mawr i’r ardal.

“Bydd y pymtheg arwydd newydd yn tynnu sylw at asedau lleol ac yn helpu i gysylltu’r tair ardal arwyddocaol,” meddai Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu’r Economi, Llinos Medi.

“Byddant hefyd yn ddefnyddiol wrth adrodd straeon am hanes cyfoethog lleol a’r diwydiannau a’r unigolion oedd yn flaenllaw o ran datblygu’r dref i’r hyn sydd ohoni heddiw.

“Mae Amlwch dal i ddenu pobol sydd â diddordeb mewn treftadaeth ddiwydiannol, ac rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn denu mwy o bobol i’r dref ac yn helpu i gryfhau ei chysylltiadau gyda’r porthladd, Mynydd Parys a’r llwybr arfordir poblogaidd.”

“Ychwanegiad arbennig” i Amlwch

Mae arwyddion newydd hefyd wedi cael eu gosod ar hyd Llwybr Arfordir Ynys Môn ar Lwybr Arfordir Cymru, sy’n denu nifer fawr o ymwelwyr i’r ardal.

Mae darn bach o’r llwybr wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar er mwyn gallu mwynhau mwy o’r golygfeydd gwych sydd gan Borth Amlwch i’w cynnig.

Yn ôl cynghorwyr, mae’r ychwanegiad yma o fudd mawr i Amlwch.

“Mae’r arwyddion newydd yn ychwanegiad arbennig i Amlwch, ac mae’n rhoi teimlad mwy modern i’r ardal yn ogystal â chofio am ein treftadaeth,” meddai Liz Wood.

“Gyda gobaith, bydd yr arwyddion hyn yn arwain at nifer o welliannau yn ein hardal.”

“Mae’r arwyddion hyn yn helpu i dynnu sylw at dreftadaeth gyfoethog ardal Amlwch, gan gynnwys y dref, y porth a’r mynydd copr sydd wedi cysylltu â’i gilydd,” meddai Aled Morris-Jones, sydd hefyd yn gadeirydd Grŵp Rhanddeiliaid Safle Wylfa.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Wylfa – NDA/Magnox am gefnogi’r prosiect pwysig hwn.”

“Rwy’n falch iawn fod yr arwyddion newydd yn cael eu gosod yn Amlwch cyn gwyliau’r haf,” meddai Derek Owen.

“Byddant yn helpu ymwelwyr i fynd o amgylch y dref, y porth ac i ymweld â Mynydd Parys.”