Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi lansio ymchwiliad er mwyn canfod pam fod pobol ifanc yn symud allan o’u cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Er i boblogaeth Cymru dyfu gan 5.5% rhwng 2001 a 2011, roedd cwymp o 2.5% yn nifer y bobol rhwng 15 a 64 mlwydd oed rhwng 2011 a 2021.
Mae rhai trefi neu ddinasoedd megis Caerdydd, Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi gweld twf yn eu poblogaeth, tra bod ardaloedd mwy gwledig wedi gweld gostyngiad.
Mae hyn wedi codi pryderon am ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad fwyaf, megis Gwynedd a Cheredigion lle mae gostyngiad wedi bod yn y boblogaeth.
Dywed Stephen Crabb, cadeirydd y pwyllgor, mai pwrpas yr ymchwiliad yw ceisio deall pam fod pobol yn gadael eu hardaloedd, a beth yw effaith y gostyngiad yn y boblogaeth.
Bydd hefyd yn edrych ar y camau y gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cymryd yn sgil yr heriau.
Pobol iau yn gadael
“Mae’r boblogaeth yn heneiddio ar draws Cymru gyfan, a Chaerdydd, Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr yw’r unig leoedd sydd wedi profi cynnydd yn nifer y bobol oed gwaith,” meddai Stephen Crabb.
“Mae ein pwyllgor eisiau tynnu sylw at y tueddiadau hyn, a gofyn beth maen nhw’n ei olygu i Gymru.
“Rydym yn arbennig o awyddus i ddeall pam fod pobol iau i’w gweld yn gadael Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith.
“Byddwn yn edrych yn benodol ar effaith y tueddiadau hyn ar economi a marchnad lafur Cymru, a’r goblygiadau i wasanaethau cyhoeddus.”
Mae hyn yn bryder sydd gan Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
“Mae’n rhaid i ni gael pobol ifanc i aros yn yr ardal a chael tai a chyfleoedd, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael hyfforddiant ac yn y blaen,” meddai.
Bydd y Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig ar y newidiadau hyd at ddydd Gwener, Medi 22.