Mae adroddiadau bod bom wedi’i ganfod yn Rachub yn Nyffryn Ogwen.

Mae golwg360 yn deall bod yr heddlu wedi bod ar Stryd Britannia a Stryd y Dŵr, a’u bod nhw wedi gofyn i bobol adael yr ardal.

Mae lle i gredu bod y Weinyddiaeth Amddiffyn ar y safle, ac yn ôl rhai, bom o’r Ail Ryfel Byd sydd wedi’i ganfod yno.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Heddlu’r Gogledd.