Mae Croeso Cymru wedi ymuno â’r cynllun Mentro’n Gall Cymru er mwyn annog pobol i fod yn ddiogel wrth fwynhau’r awyr agored dros wyliau’r haf.
Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar dair prif neges er mwyn sicrhau bod pobol yn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.
Maen nhw eisiau i bobol ystyried a oes ganddyn nhw’r wybodaeth neu’r sgiliau sydd eu hangen, yr offer cywir, a bod y tywydd yn addas cyn mentro ar eu diwrnod allan.
Maen nhw hefyd yn annog pobol i dalu sylw i arwyddion a chyngor diogelwch lleol.
Yn ôl y cyd-arweinydd Emma Edwards-Jones, cychwynnodd yr ymgyrch yn 2018 yn dilyn ymgyrch gan Croeso Cymru, oedd yn annog pobol i ddod i Gymru ar gyfer blwyddyn antur.
“Er ein bod ni eisiau i bawb ddod a mwynhau tirwedd fendigedig Cymru, roedden ni eisiau i bobol wneud hynny mewn ffordd oedd yn ddiogel,” meddai wrth golwg360.
“Yn anffodus, mae galwadau’r Mountain Rescue ac RNLI yn cynyddu bob blwyddyn, ac mae llawer o’r galwadau yna yn rhai y gellir eu hosgoi wrth i bobol gymryd camau syml i baratoi a chynllunio am y diwrnod.”
Mae gan yr ymgyrch 130 o sefydliadau sy’n bartneriaid, er mwyn casglu’r wybodaeth orau ynglŷn â sut i fod yn ddiogel.
Trwy hyn, maen nhw’n gallu cydlynu’r holl gyngor diweddaraf ar amryw o bynciau, gan gynnwys nofio gwyllt.
“Wrth gysylltu’r cyngor gyda brand cryf Mentro’n Gall rydym yn gobeithio y bydd pobol yn gweld y logo ac yn cael eu hatgoffa o’r cyngor,” meddai Emma Edwards-Jones.
“Y syniad yw, yn y pen draw, y bydd yn eistedd wrth law’r cod cefn gwlad.
“Mae’r cod cefn gwlad yn ymwneud â hamdden gyfrifol, ac rydyn ni eisiau i Mentro’n Gall ganolbwyntio ar ddiogelwch yn yr awyr agored.”
Ap a map
Er bod y cynllun yn canolbwyntio ar wyliau’r ysgolion, mae’r cyngor “wedi’i anelu tuag at bawb”, ac nid dim ond plant.
“Wrth gwrs, mae peth o’r cyngor yn targedu grwpiau penodol; er enghraifft, os ydych chi’n mynd allan i nofio gyda phlant ifanc, i beidio â’u hannog nhw i fynd at y tonnau gydag inflatables pan mae gwyntoedd alltraeth,” meddai.
“Ond mae yna hefyd negeseuon cryf ar gyfer pobol o bob oedran, megis rheiny sy’n mynd allan i’r mynyddoedd am ddiwrnod o gerdded, a pha offer maen nhw ei angen.
“Y dyddiau hyn, mae mwy a mwy o bobol yn defnyddio apiau i ffeindio’u ffordd, ac mae hynny’n grêt.
“Ond mae hefyd angen map papur, achos rydyn ni i gyd yn gwybod fod problemau’n gallu codi gyda ffonau symudol.
“Os yw’r ffôn yn marw ac maen nhw wedi bod yn dilyn map papur, gobeithio y gallan nhw ddefnyddio hwnnw i ffeindio’u ffordd at gymorth neu adref yn ddiogel os ydyn nhw’n mynd ar goll.”
Dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, fod angen i bawb feddwl cyn cychwyn ar eu hantur.
“Mae pawb am gael gwyliau eleni, ond mae angen hefyd wneud yn siŵr ein bod yn gofalu amdanon ni ein hunain a phobol eraill wrth wneud hynny,” meddai.
“Bydd cymryd munud i feddwl cyn ichi gychwyn ar eich antur nesaf yng Nghymru yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’ch mwynhad a’ch diogelwch.”