Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg newydd fis yma, wedi’i anelu at annog rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn y sir erbyn 2028.
Fe ddaeth ar ôl i adroddiad ddangos, yn ôl Cyfrifiad 2021, mai dim ond 13.5% o bobol dros dair oed yng Nghastell-nedd Port Talbot sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n ostyngiad ers Cyfrifiad 2011, lle mai 15.3% oedd y ffigwr.
Mae’n golygu gostyngiad o bron i 2% dros y cyfnod o ddeng mlynedd, er bod y strategaeth bum mlynedd newydd yn anelu i wella’r ffigwr drwy sicrhau bod “y Gymraeg i’w chlywed a’i gweld lawer mwy mewn cymunedau lleol a’i defnyddio gan fwy o bobol yn eu bywydau bob dydd”.
Fe dynnodd sylw hefyd at sut mai ardaloedd megis Cwm Tawe uchaf a Dyffryn Aman yw’r ardaloedd yn y bwrdeistref sirol sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd.
Bydd nifer o gamau’n cael eu cymryd fel rhan o’r cynllun, gan gynnwys cefnogi a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol a’r gweithle, a chydweithio â phartneriaid i gynyddu gweladwyedd y Gymraeg mewn lleoliadau hamdden, busnes a diwylliannol.
Byddan nhw hefyd yn edrych ar ddarparu cyrsiau ymwybyddiaeth iaith a hyfforddiant ar gyfer staff addysgu a staff nad ydyn nhw’n addysgu ar draws y bwrdeistref sirol, yn ogystal ag archwilio’r rhesymau tros ychydig iawn o ddefnydd o’r Gymraeg ymhlith cymunedau penodol.
Strategaeth ddigidol
Dilynwyd ail fersiwn y strataegaeth, gafodd ei mabwysiadu yn ystod cyfarfod llawn misol y Cyngor fis Gorffennaf, gan strategaeth debyg i hyrwyddo’r defnydd o Strategaeth Data a Thechnoleg Ddigidol, sydd wedi’i dylunio i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cyflwyno i drigolion gan ddefnyddio’r technolegau digidol diweddaraf sydd ar gael.
Mae’r cynllun yn amlinellu gweledigaeth strategol sy’n dangos sut y bydd y Cyngor yn mynd i’r afael â dulliau newydd o ran technolegau newydd i drigolion eu defnyddio ar ystod o wasanaethau, megis ymgysylltu â meddyg teulu neu drefnu i gasglu sbwriel ar raddfa fawr.