Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod “cam pwysig ymlaen wedi ei gymryd”, wrth iddyn nhw ailddatblygu ysgol ac adnoddau cymunedol Bontnewydd.
Maen nhw wedi penodi’r penseiri fydd yn dylunio’r adeiladau newydd.
Bu cyfle i gynrychiolwyr o gwmni TACP yn Wrecsam gwrdd â theulu’r ysgol yn ystod ymweliad diweddar, er mwyn iddyn nhw gael gweld beth yw anghenion y disgyblion, y staff a’r gymuned wrth i waith ar y cynllun gwerth hyd at £12m symud yn ei flaen.
Yn ystod eu hymweliad ag Ysgol Bontnewydd, roedd cyfle i’r penseiri glywed gan y disgyblion beth hoffen nhw ei weld yn eu hysgol newydd, ac i drafod anghenion staff yr ysgol gyda’r pennaeth.
Mewnbwn yr ysgol
Bydd mewnbwn yr ysgol gyfan a defnyddwyr y ganolfan gymunedol yn allweddol i ddyluniad yr adeilad, a bydd cyfres o gyfarfodydd efo’r penseiri yn cael eu cynnal yn fuan yn y tymor newydd i drafod syniadau.
Nid dyma’r tro cyntaf i’r penseiri siarad efo’r plant, gan fod y disgyblion wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r broses benodi.
Dros y misoedd nesaf, bydd y broses gynllunio, dylunio ac adeiladu’r ysgol newydd yn gyfle euraid i’r plant ddysgu am y maes ac i agor eu llygaid o oed ifanc i’r posibiliadau o ran gyrfa mewn meysydd technegol.
Eco- gyfeillgar
Un o gonglfeini’r ysgol newydd fydd ei hethos eco-gyfeillgar.
Bydd hyn yn amlwg yn ystod y gwaith adeiladu, gyda’r bwriad o ailddefnyddio cymaint ag sy’n bosib o ddeunyddiau gwreiddiol yr ysgol a’r ganolfan gymunedol bresennol, gan leihau cylch bywyd carbon yr adeilad ac adnoddau newydd.
Wedi i’r ysgol newydd agor, bydd yr adeilad yn sero net o ran ei allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan wneud defnydd o ynni adnewyddol, insiwleiddio effeithlon ac annog teithio cynaliadwy.
Adeilad yn nwylo’r gymuned
Mae Aimee Jones o gwmni Penseiri TACP yn dweud ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r dysgwyr, yr ysgol, y gymuned a’r awdurdod lleol ar y prosiect arloesol hwn.
“Rydym yn falch iawn o gael ein penodi i wireddu’r prosiect hwn fydd yn enghraifft wych o ysgol o’i math,” meddai.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r ysgol, y gymuned, yr awdurdod lleol a’r holl ymgynghorwyr eraill a benodwyd i wireddu’r cynllun arloesol hwn.
“Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig am gael gweithio gyda dysgwyr yr ysgol i sicrhau ein bod gyda’n gilydd yn darparu adeilad yn y gymuned y byddant yn falch ohono am flynyddoedd lawer i ddod.”
Croesawu’r penseiri
Yn ôl y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod o Gyngor Gwynedd dros Bontnewydd, mae’n braf croesawu’r penseiri i gael barn y plant er mwyn cael adeilad mwy modern.
Wrth galon y prosiect mae’r amgylchedd a chynaliadwyedd.
“Roedd yn braf iawn cael croesawu’r penseiri i Bontnewydd heddiw ac roedd yn gyfle gwych i ni ddechrau trafod ein dymuniadau ar gyfer yr ysgol a’r adnoddau cymunedol efo nhw,” meddai.
“Roedd yn fendigedig cael mewnbwn y plant a dwi’n edrych ymlaen at gael cyfleoedd pellach i gydweithio i’r dyfodol.
“Er bod yr hen ysgol yn agos at galonnau pawb ohonom ac mae’n le hapus, does dim dwywaith fod pawb yn edrych ymlaen yn fawr at weld y cynlluniau’n siapio a’r ysgol newydd yn cael ei chodi.
“Rydw i’n falch y bydd yr ysgol newydd yn fwy o ran ei maint gydag amgylchedd ac adnoddau dysgu sy’n gweddu gofynion modern.
“Dwi hefyd yn falch y bydd cyfle trwy hyn i’r plant ddysgu am gynaliadwyedd a phensaernïaeth drwy gydol y prosiect.”
Her Ysgolion Cynaliadwy
Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r holl gyllid ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd, wedi i Gyngor Gwynedd gyflwyno cais llwyddiannus am arian drwy Her Ysgolion Cynaliadwy.
Dyma un o dair ysgol yn unig drwy Gymru gyfan, a’r unig un yn y gogledd, sydd wedi llwyddo i ennill y buddsoddiad hwn.
Yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, bydd y plant a’r gymuned yn rhan o ddatblygu’r adeilad amgylcheddol cyfeillgar.
“Rwy’n falch iawn bod adeilad newydd Ysgol Bontnewydd yn symud ymlaen mor dda diolch i £12m o gyllid o’n Her Ysgolion Cynaliadwy,” meddai.
“Pa ffordd well o ymgorffori ein hymrwymiadau tuag at leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, nag i blant, staff a chymunedau helpu gyda dylunio, adeiladu a rheoli’r amgylchedd dysgu di-garbon newydd hwn?”
Bydd cynlluniau manwl ar gyfer yr ysgol newydd yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.
Bydd trafodaethau pellach gyda’r holl gymuned, gyda’r gobaith y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2024, a’r ysgol newydd yn agor yn ystod 2026.