Mae’r Uchaf Lys wedi gorchymyn nad oes hawl gan brotestwyr rwystro mynediad at Westy Parc y Strade yn Llanelli.
Bydd y gwesty yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynnal ceiswyr lloches, ac roedd disgwyl i 241 o bobol gyrraedd y safle ar Orffennaf 10.
Fodd bynnag, mae protestiadau wrth fynedfa’r safle wedi arwain at rwystrau.
Cyflwynodd perchnogion y gwesty, Gryphon Leisure Ltd, gais i’r llys i osod gorchymyn brys i atal unrhyw rwystro a thresmasu gan brotestwyr ar y safle.
Bydd y gorchymyn newydd yn ei le hyd at Ionawr 27 y flwyddyn nesaf, meddai’r barnwr yn ystod gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Iau (Gorffennaf 27).
Yn ystod y gwrandawiad, clywodd y barnwr gan bobol leol, gan gynnwys trigolion a chynrychiolwyr Pwyllgor Gweithredu Ffwrnes, sydd wedi bod yn protestio yn erbyn defnyddio’r gwesty i gynnal ceiswyr lloches.
‘Tensiynau cymunedol’
Yn ôl Robert Lloyd, sy’n aelod o’r Pwyllgor, maen nhw’n “siomedig” ynghylch canlyniad yr achos llys.
Er hynny, dywed eu bod nhw’n parchu’r penderfyniad, ac nad yw’r frwydr ar ben.
Bydd y dyfarniad yn codi heriau i brotestwyr ar y safle, gan fod posibilrwydd y bydd yr heddlu’n defnyddio camau llymach er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw brotestwyr.
“Dim ond rhan o’r frwydr rydyn ni wedi ei golli,” meddai.
“Mae gennym ni dal arfau eraill yn ein hymgais i geisio stopio’r cynllun gwirion yma gan y Swyddfa Gartref i ddefnyddio’r gwesty ar gyfer ceiswyr lloches.”
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, eisoes wedi ysgrifennu llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yn honni nad yw’r cynlluniau’n gynaliadwy.
“Mae angen dybryd i’r Swyddfa Gartref oedi ac adolygu’r broses o wasgaru ceiswyr lloches i Westy Parc y Strade, Llanelli, er mwyn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau lleol ac i fynd i’r afael â’r tensiynau difrifol a chynyddol bosibl,” meddai.
“Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod camau cyfreithiol a ‘gwaharddeb’ wedi’u cyflwyno mewn perthynas â mynedfa anghyfreithiol honedig, sydd wedi’i chreu ar ochr tir y gwesty.
“Mae anghydweld amlwg a chwestiynau dros hawl cyfreithiol contractwyr preifat a gyflogir gan y Swyddfa Gartref i gael mynediad i’r safle; mae hyn wedi cynyddu tensiynau cymunedol ac wedi arwain at bresenoldeb sylweddol iawn gan yr heddlu yn y lleoliad.
“Nid yw hyn yn gynaliadwy, ac maent yn asesu galluoedd staffio a lles swyddogion yn barhaus, a fydd yn debygol o arwain at dynnu swyddogion o’r lleoliad yn fuan.”
Yn ôl y Swyddfa Gartref, maen nhw “wedi ymroi i wneud pob ymdrech i leihau’r defnydd o westai a’r baich ar y trethdalwr”.
Heddlu’n awyddus i gydweithio’n bositif
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, maen nhw’n awyddus i barhau i gydweithio’n bositif â’r protestwyr.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “deall cryfder y teimladau o fewn y gymuned leol ac ehangach”, a’u bod nhw’n “trin eu pryderon yn ddifrifol iawn”.
Eu cyfrifoldeb yw “rheoli’n effeithiol unrhyw densiynau cymunedol” a “chydbwyso hawliau pawb sydd wedi’u heffeithio gan y defnydd o’r gwesty i gynnal ceiswyr lloches”.
Ar y safle, eu nod yw “hwyluso protest heddychlon a pharhau i ymgysylltu a chynnal sgwrs gyda phob ochr”.