Mae Meri Huws, cyn-Gomisiynydd y Gymraeg, wedi’i phenodi’n gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth.

Ymunodd Meri Huws â Chyngor y Brifysgol yn 2019, gan wasanaethu fel dirprwy i Dr Emyr Roberts, y cadeirydd presennol, ers Awst 2021.

Daw’n gadeirydd ar Ionawr 1 y flwyddyn nesaf.

Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Meri Huws oedd Comisiynydd y Gymraeg cyntaf Cymru, gan wasanaethu yn y rôl rhwng 2012-2019.

Cyn hynny, bu’n gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Roedd ei rolau blaenorol yn cynnwys swyddi Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei sir enedigol, Sir Gaerfyrddin.

‘Braint’

“Bydd yn fraint dod yn gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth,” meddai Meri Huws.

“Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i gyfrannu at fy alma mater fel aelod o’r Cyngor am y bedair blynedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at wasanaethu fel Cadeirydd am y cyfnod sydd i ddod.

“Fel Prifysgol sy’n tyfu, ac ar fin penodi Is-Ganghellor newydd, bydd fy ffocws i ar gefnogi datblygiad a momentwm parhaus y sefydliad gwych a hanesyddol hwn.

“Mae’n Brifysgol sy’n rhagori mewn addysgu ac ymchwil ac rwy’n falch iawn o’n record fel sefydliad o bwys byd-eang sydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd ein hardal, ein ranbarth a’n cenedl.”

‘Record mor nodedig ac ymrwymiad diamheuol i’r brifysgol’

“Llongyfarchiadau gwresog i Meri ar ei phenodiad i’m olynu fel Cadeirydd y Cyngor,” meddai Dr Emyr Roberts.

“Rwyf wrth fy modd y bydd gan y Cyngor unigolyn wrth ei lyw sydd â record mor nodedig, ac ymrwymiad diamheuol i’n prifysgol.

“Pan ddaw fy nhymor i ben ar ddiwedd 2023, byddaf yn gweld eisiau fy ngwaith gyda’r brifysgol yn fawr.

“Fodd bynnag, gadawaf gyda’r hyder o wybod fod gennym gadeirydd newydd yn ei lle sy’n ymgorffori gwerthoedd Aberystwyth, sydd wedi ein gwasanaethu cystal wrth i ni ddatblygu’r Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf.”