Mae sefyllfa’r Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot yn “adlewyrchu i raddau’r sefyllfa ar draws Cymru”, yn ôl cynghorydd sir.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio adolygiad pum mlynedd i’w Strategaeth y Gymraeg.
Bwriad y cynllun yw cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lleol dros y pum mlynedd nesaf.
Daw hyn wedi i’r Cyfrifiad ddangos bod ffigyrau ar gyfer siaradwyr wedi gostwng o 15.3% yn 2011 i 13.5% yn 2021.
Er bod y nifer o siaradwyr yn isel ar y cyfan a cyn lleied â 5.3% mewn rhai ardaloedd megis Gwynfi a Chroeserw, mae 48.6% o boblogaeth Gwaun-Cae-Gurwen a Brynaman Isaf yn gallu siarad Cymraeg.
‘Angen bod yn bositif’
Alun Llewelyn yw dirprwy arweinydd y Cyngor, ac mae’n cynrychioli ward Cwmllynfell ac Ystalyfera, lle mae 41% yn gallu siarad Cymraeg.
Dywed fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot heb lwyddo i gyrraedd eu targedau blaenorol, ond fod angen bod yn bositif wrth ystyried sut i gryfhau’r sefyllfa.
“Mae’r amseru’n eithaf priodol achos rydyn ni’n ymwybodol ein bod ni heb lwyddo i gyrraedd y targedau roedden ni wedi’u rhagweld yn y strategaeth flaenorol, i raddau oherwydd effaith covid,” meddai wrth golwg360.
“Wnaeth e effeithio ar ein partneriaid ni, megis y Mentrau Iaith, oherwydd doedd ddim modd iddyn nhw gynnal eu gwasanaeth a gweithgareddau arferol am gyfnod eithaf helaeth.
“Felly, mae’n gyfle da i edrych ar beth sydd ei angen ac rydyn ni’n gobeithio bod yn bositif ynglŷn â chynyddu’r math o weithgareddau fydd yn hybu’r defnydd o’r iaith yn ein gwahanol gymunedau ni ar draws y sir.”
‘Microcosm o sefyllfa Cymru’
Yn ôl Alun Llewelyn, mae sefyllfa’r iaith yn y sir yn adlewyrchu’r sefyllfa ehangach yng Nghymru, wrth i niferoedd siaradwyr ostwng ac amrywio’n sylweddol o un ardal i’r llall.
“Mae’n ardal eithaf eang ac mae’r sir yn cynnwys rhai o’r cymunedau gyda’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ynghyd ag ardaloedd ble mae’r niferoedd yn isel iawn,” meddai.
“Mae hyn yn rhannol yn batrwm hanesyddol ac yn rhannol yn adlewyrchu’r hyn sydd wedi digwydd o ran defnydd yr iaith yn ddiweddar, mae o’n ficrocosm o sefyllfa Cymru mewn ffordd.”
Er mwyn gwella’r sefyllfa, dywed ei fod e eisiau gweld mwy o weithgareddau’n cael eu cynnal yn y Gymraeg ynghyd a gwasanaethau dwyieithog cynhwysfawr gan y cyngor.
“Rydym yn falch fod yna bwyllgor trawsbleidiol wedi cefnogi’r argymhellion hyn, a bod yna lawer o frwdfrydedd amdanyn nhw,” meddai.
“Nid yn unig ar gyfer y Cyngor mae’r strategaeth, ond ar gyfer cymunedau cyfan.
“Felly, byddwn ni’n annog mudiadau a busnesau yn y gymuned i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn trio codi proffil yr iaith, ac annog pobol i’w defnyddio nid yn unig yn yr ysgol ond tu allan i’r ysgol hefyd.”
Cynyddu addysg Gymraeg
Dywed Alun Llewelyn fod cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg hefyd wedi cael ei adolygu’n ddiweddar, ac felly fod bwriad i ddatblygu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg sydd ar gael yn y sir.
“Rydyn ni wedi agor yr ysgol gynradd Gymraeg gafodd ei chomisiynu gan Gastell-nedd Port Talbot eleni, ac rydyn ni’n gweithio ar gynyddu’r nifer o ysgolion cynradd Cymraeg yn y sir dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.
Mae’r Cyngor yn bwriadu adolygu’r strategaeth iaith yn flynyddol o hyn allan, meddai, gan fod “llawer o waith i’w wneud.”
Y gobaith yw y bydd hynny’n eu galluogi i gyrraedd mwy o’r targedau iaith sydd yn eu lle.