Mae “problemau rheolaethol o fewn gwasanaeth tân” y gogledd, a dydy eu Hadolygiad Darpariaeth Brys “ddim yn gweithio” oherwydd yr opsiynau sy’n cael eu cynnig, yn ôl cyn-ddiffoddwr tân sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Ar hyn o bryd, dim ond mewn wyth gorsaf tân, sy’n bennaf ar goridor yr A55 mae darpariaeth frys wedi’i gwarantu.
Mewn mannau eraill yn y gogledd, maen nhw’n dibynnu ar ddiffoddwyr tân rhan amser neu ar-alwad (sy’n gweithredu’r system dyletswydd rhan-amser) – ac mae’n anodd sicrhau bod y rhain ar gael yn ystod y dydd.
I wneud y mwyaf o’u hadnoddau, maen nhw’n ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â pha opsiwn sydd orau i’r gogledd, ond yn ôl un cyn-ddiffoddwr tân dydy’r opsiynau ddim yn ddigon da oherwydd bod pob opsiwn yn golygu cau gorsafoedd tân a chael gwared ar 68 o swyddi.
Ym marn y cyn-ddiffoddwr, mae “problemau rheolaethol o fewn y gwasanaeth tân” sydd wedi arwain at y sefyllfa yma.
Pam ymgynghori?
Yn ôl gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, maen nhw’n “gweithio’n galed i recriwtio a chadw’r diffoddwyr tân hyn, ond mae angen i ni gael darpariaeth frys wedi’i gwarantu mewn ardaloedd mewndirol, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu criw ymateb o fewn yr amser ymateb gorau posib ym mhob rhan o Ogledd Cymru”.
“Rydyn ni felly wedi bod yn archwilio senarios ar gyfer darparu darpariaeth frys yn y dyfodol – gyda’r bwriad o wella’r ddarpariaeth bresennol tra hefyd yn cydnabod yr heriau ariannol presennol,” meddai’r gwasanaeth.
“Gan weithio gydag arbenigwyr annibynnol, rydyn ni wedi bod yn modelu’n union sut y gallem wneud y gorau o’n hadnoddau ac ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.
“Gwyddom fod nifer y digwyddiadau yr ydyn ni’n mynd iddynt yn cynyddu trwy gydol y dydd, gan gyrraedd uchafbwynt yn gynnar gyda’r nos ac yna gostwng yn y nos.
“Gallem felly edrych ar gyfateb y galw hwn trwy newid y ffordd y mae rhai o’n criwiau’n gweithio mewn rhai ardaloedd.”
Yr opsiynau
- Opsiwn 1:
Cynnal model ymateb 24 awr yn ein gorsafoedd amser cyflawn presennol, gyda gorsafoedd tân y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn newid i system dyletswydd criw dydd.
Ychwanegu tair gorsaf dân staff dydd yng Nghorwen, Porthmadog a Dolgellau, gan adleoli diffoddwyr tân amser cyflawn yn dilyn newidiadau yn y Rhyl, Glannau Dyfrdwy a’r System Dyletswydd Amser Cyflawn Wledig.
- Opsiwn 2:
Model ymateb lle mae gorsafoedd tân y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn newid i system dyletswydd staff dydd.
Cael gwared ar drydydd peiriant tân Wrecsam, gan gadw un peiriant tân wedi’i staffio gan ddiffoddwyr tân amser cyflawn ac un peiriant tân wedi’i staffio gan ddiffoddwyr tân ar-alwad.
Mae adleoli staff o orsafoedd tân Wrecsam, y Rhyl a Glannau Dyfrdwy a’r System Dyletswydd Amser Cyflawn Wledig yn caniatau ychwanegu tair gorsaf staff dydd, wedi’u lleoli yng Nghorwen, Porthmadog a Dolgellau a chael gostyngiad o 22 yn nifer y diffoddwyr tân amser cyflawn.
- Opsiwn 3:
Model ymateb lle mae gorsafoedd tân y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn newid i system dyletswydd staff dydd.
Cael gwared ar drydydd peiriant tân Wrecsam, gan gadw un peiriant tân wedi’i staffio gan ddiffoddwyr tân amser cyflawn ac un peiriant tân wedi’i staffio gan ddiffoddwyr tân ar-alwad.
Mae adleoli staff o orsafoedd tân Wrecsam, y Rhyl a Glannau Dyfrdwy a’r System Dyletswydd Amser Cyflawn Wledig yn caniatau ychwanegu dwy orsaf staff dydd, wedi’u lleoli ym Mhorthmadog a Dolgellau a chael gostyngiad o 36 yn nifer y diffoddwyr tân amser cyflawn.
Cau pum gorsaf dân ar-alwad yn Abersoch, Biwmares, Cerrigydrudion, Conwy a Llanberis, gan arwain at ostyngiad o 38 yn nifer y diffoddwyr tân ar-alwad
Yn ôl y cyn-ddiffoddwr tân, dydy’r opsiynau ddim yn ddigonol, gyda phob opsiwn yn golygu colli staff a chau gorsafoedd yn lle rhoi opsiwn lle mae blaenoriaeth i bob un.
Colli staff
Mae’r cyn-ddiffoddwr yn cwestiynu sut mae cynnig y gwasanaeth gorau efo staff yn cael eu colli ac injanau tân yn gorfod teithio’n bell.
“Beth mae’r gwasanaeth tân wedi rhoi ymlaen yn yr ymgynghoriad yma ydy, mae yna dri opsiwn,” meddai.
“Un o’r opsiynau ydy cau Abersoch, Llanberis, Biwmares, Conwy a Cerrigydrudion.
“Maen nhw hefyd yn tynnu pobol o’r Rhyl, Glyndyfrdwy a Wrecsam.
“Rhai o’r rheini, maen nhw’n mynd i wneud shifft ddydd yng Nghorwen.
“Yr hyn maen nhw’n bwriadu, felly, yn Nolgellau ac ym Mhorthmadog, dydy hynny ddim yn gweithio.
“Os maen nhw eisiau rhoi gwell cover, medri di ddim ei wneud efo llai o bobol.
“Yn y diwedd, mae o’n golygu colli tua 70 o swyddi – 68, ond wnawn ni alw fo’n 70.
“Dyna’r opsiynau maen nhw’n rhoi ymlaen.
“Fel ydw i’n dweud, sut fedri di roi gwell gwasanaeth efo llai o bobol?
“Ar y funud, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar ei ben olaf.
“Does yna ddim ffordd well o ddisgrifio’r sefyllfa maen nhw ynddi.
“Mae yna ardaloedd o ogledd Cymru sydd ddim efo cover tân yn ystod y dydd.
“Rhan fwyaf o Ynys Môn, Pen Llŷn, De Gwynedd – yr hen Sir Feirionydd.
“Mae yna gaps anferth.
“Rydym yn gwybod am y problemau sydd gennym efo’r gwasanaeth ambiwlans; maen nhw’n dweud, ‘Byddan ni yna mewn tair awr’, neu ddeuddeg awr neu beth bynnag.
“Dydy o ddim cweit mor ddrwg efo’r Gwasanaeth Tân.
“Os ti’n gwneud galwad brys, ti’n mynd i gael ymateb.
“Yr unig beth yw nad ydym yn gwybod lle mae’r ymateb yna’n mynd i ddod.
“Yn ddyddiol, fel rwy’n deall gan gyn-gydweithwyr i mi, mae yna lai na threian o beiriannau tân gogledd Cymru ar gael yn ystod y dydd, bob dydd o’r wythnos.
“Mae yna 54 o beiriannau tân yng ngogledd Cymru ar y funud.
“Mae yna gwestiynau mawr i gael eu hateb yma.
“Y ffordd maen nhw wedi rhoi’r ymgynghoriad yma ymlaen, maen nhw’n rhoi opsiynau a beth maen nhw’n ei ofyn i’r sawl sy’n ateb yw blaenoriaethu’r gwahanol faterion.
“Dydy o ddim yn rhoi’r cyfle i chdi flaenoriaethu’r un fath i bob un.
“Fedri di ddim eu rhoi nhw i gyd yn rhif un, neu fedri di ddim eu rhoi nhw i gyd yn rhif dau, rhaid i chdi roi nhw ar sliding scale.
“Dydy hynny ddim yn deg yn ei hun nac’di?”
Teithio’n bell “ddim yn dderbyniol”
Yn ôl y cyn diffoddwr tân dydy diffoddwyr tân yn gorfod teithio o bell ddim yn dderbyniol o ran diogelwch.
“Maen nhw wedi trio beio llefydd fel Aberdyfi a Thywyn, eu bod nhw’n fyr o ddiffoddwyr tân a bod yna ormod o dai haf yna,” meddai.
“Un peth sy’n hollol glir, rwy’n meddwl os bysen nhw’n talu ychydig mwy i’r bobol yma, bysen nhw’n gallu recriwtio a dal eu gafael arnyn nhw.
“I gau Abersoch, mae poblogaeth Pen Llŷn yn chwyddo faint? Deg gwaith yn ystod yr haf, efallai mwy.
“Roeddwn yn siarad efo rhywun sy’n byw yn Aberdaron y diwrnod o’r blaen am ba mor hir fysa’n cymryd i injan dân o Bwllheli fynd i Aberdaron.
“Bydd y tân wedi llosgi allan erbyn iddyn nhw gyrraedd yna.
“Rwy’n gwybod fel ffaith fod criw llawn amser sy’n gweithio yng Nghaernarfon, lle roeddwn i’n gweithio ers talwm, maen nhw’n mynd ar alwad i Borthmadog nifer o weithiau bob wythnos am fod neb ar gael ym Mhorthmadog.
‘Maen nhw’n gyrru injan dân o Fangor i Benllech am nad oes dim cover yn Ynys Môn.
“Rwy’ wedi clywed yn ddiweddar am dân ar yr A55 yn Gwalchmai, injan dân o Gaergybi, yr ail injan dân o Gaernarfon.
“Wel dydy hynny ddim yn dderbyniol.
“Lle roedd y peiriannau eraill i gyd? Ddim ar gael.
“Byswn i’n dweud, yn fy marn i, fod problemau rheolaethol o fewn y gwasanaeth tân, dim jyst bod nhw methu recriwtio.
“Mae yna rywbeth yn bod ar y ffordd mae’r peth i gyd yn cael ei reoli.
“Rhaid iddyn nhw edrych mewn ar eu hunain yn lle gofyn i’r cyhoedd.
“Dydw i ddim yn meddwl bod gan y cyhoedd wybodaeth dechnegol o sut mae’r system yn gweithio.
“I ofyn i’r cyhoedd am farn, rydyn ni eisiau i bobol wybod beth yw’r broblem.
“I gau’r safle ac i downgrade-io llefydd fel y Rhyl a Glannau Dyfrdwy, dydy hynny ddim yn ateb.
“Mae llefydd fel y Rhyl am gael gwaeth gwasanaeth.”
Difrifoldeb y sefyllfa
Yn ôl y cyn-ddiffoddwr tân, mae’r gwasanaeth dan bwysau aruthrol ac mae’n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa.
“Y cwestiynau sy’n rhaid cael eu gofyn ydy, sut maen nhw wedi cyrraedd y sefyllfa yma,” meddai.
“Sut, dros nifer fawr o flynyddoedd, mae ffigyrau diffoddwyr tân ar alwad wedi jyst dirywio a dirywio a dirywio i’r pwynt lle mae wedi bod yn critical?
“Pan ti’n gweld gorsafoedd tân rhan amser yma, lle efallai ti angen 14 o ddiffoddwyr i gadw’r peiriant yna ar gael 24 awr y dydd.
“Pan mae’r ffigyrau yn dod lawr i chwech neu saith o ddiffoddwyr, ti’n gweld lle mae’n mynd.
“Mae’n rhoi mwy o bwysau ar y bobol yma.
“Mae’r gofynion tua 120 o oriau bob wythnos ar alwad, yn ogystal â nhw’n gwneud eu swyddi eu hunain.
“Pam maen nhw wedi gadael iddo fynd fel yna?
“Pwy sydd am ateb y cwestiynau yma? Y pennaeth? Y Prif Swyddog?
“Mae yna rywun eisiau ateb y cwestiwn.
“Pam ein bod ni yn y sefyllfa yma i ddechrau efo hi?”
Ymateb
“Rydym yn annog pawb – staff a’r cyhoedd – i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad a lleisio eu barn fel y gellir eu bwydo’n ôl yn briodol cyn i’r Awdurdod Tân gyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn i wneud penderfyniad am ddyfodol darparieth brys yng ngogledd Cymru,” meddai’r gwasanaeth tân.
“Ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud hyd nes y daw’r ymgynghoriad i ben ym mis Medi.
“Mae digwyddiadau ymgysylltu hefyd yn cael eu cynnal ar draws gogledd Cymru a gall staff hefyd adrodd eu barn yn ôl yn fewnol os yw’n well ganddynt.
“Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan yma Adolygiad Darpariaeth Brys – Amdanom Ni – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (gov.wales).”