Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at eu hymrwymiad i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar reilffyrdd.

Ers i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ddod dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2021, maen nhw’n ddarostyngedig i Safonau Iaith Gweinidogion Cymru, ac mae disgwyl Safonau Iaith penodol yn y sector trafnidiaeth cyn diwedd y tymor Seneddol.

Mynychodd Cymdeithas yr Iaith gyfarfod calonogol gyda Thrafnidiaeth Cymru yr wythnos hon, lle amlinellodd Trafnidiaeth Cymru amserlen i ehangu defnydd y cwmni o’r Gymraeg yn y dyfodol agos.

Ymysg yr ymrwymiadau, daeth addewid i gynyddu’r cyhoeddiadau Cymraeg ar drenau a gorsafoedd rheilffordd, cyflwyno meddalwedd cyfieithu newydd ar ap Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â darparu cyrsiau Cymraeg a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ymysg eu gweithwyr ymhellach.

Ers hynny, daeth i’r amlwg fod nifer o gwynion am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi derbyn cwynion ynglŷn â’r Gymraeg ar fyrddau gwybodaeth a gallu staff gyda’r iaith.

‘Gallai’r gwasanaeth trenau drefnu darpariaeth ehangach o’i wirfodd’

Dywedodd Sian Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:

“Yr hyn ddaeth yn glir yn y cyfarfod yw bod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cymryd camau i gynyddu ei ddarpariaeth Gymraeg, ond bod angen i’r Llywodraeth osod Safonau ar y sector trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd,” meddai Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg.

“Mae oedi mawr wedi bod wrth osod Safonau ar gyrff newydd, gan gynnwys y sector trafnidiaeth, felly byddwn ni’n pwyso ar Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, i osod y Safonau hynny yn sydyn.

“Er i swyddogion Trafnidiaeth Cymru ddweud bod rhai cwynion a gyflwynwyd am wasanaethau Cymraeg Trafnidiaeth Cymru tu hwnt i’r hyn sydd i’w ddisgwyl trwy’r Safonau, gallai’r gwasanaeth trenau drefnu darpariaeth ehangach o’i wirfodd.

“Mae’r ffaith bod nifer o gwynion wedi dod i law am wasanaethau Cymraeg Trafnidiaeth Cymru felly yn pwysleisio bod angen gosod Safonau yn y sector trafnidiaeth cyn gynted â phosibl.”

Bydd y Gymdeithas yn cadw golwg i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cadw at yr ymrwymiadau a’r amserlen arfaethedig, a bod Llywodraeth Cymru’n gosod Safonau ar gwmnïau trafnidiaeth cyn gynted â phosibl.

“Mae’r Mesur yn galluogi gosod Safonau ar gwmnïau telathrebu a gwasanaethau post, does dim sôn bod y Llywodraeth yn bwriadu rhoi Safonau yn y meysydd hynny felly byddwn ni’n pwyso hefyd ar y Llywodraeth i osod Safonau yn yr holl feysydd sy’n bosibl trwy Fesur y Gymraeg 2011,” meddai Siân Howys wedyn.

“Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod eto gyda Thrafnidiaeth Cymru yn y dyfodol i drafod diweddariadau.”

Mae’r gwaith o roi safonau ar waith i ddod â chyrff a sectorau newydd o dan y drefn safonau yn ystod 2023 i 2024, a hynny yn unol â’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Bydd rheoliadau’n cael eu cyflwyno erbyn 2024 i ddod â chwmnïau dŵr o dan y drefn safonau, cyn symud ymlaen i baratoi safonau ar gyfer cyrff cyhoeddus sy’n dal y tu allan i’r drefn safonau ar hyn o bryd, ac wedyn bydd y Llywodraeth yn dechrau ar y gwaith o baratoi safonau ar gyfer cymdeithasau tai a chwmnïau rheilffyrdd.