Fydd Goruchaf Lys Sbaen ddim yn cyhoeddi gwarant i arestio Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia, hyd nes bod Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd wedi penderfynu a fyddan nhw’n clywed ei apêl.
Mae’r achos yn ymwneud â cholli imiwnedd seneddol, allai gael ei ailgyflwyno dros dro.
Daeth cadarnhad o’r sefyllfa gan y barnwr ddiwedd yr wythnos hon, ar ôl i erlynydd cyhoeddus Sbaen ofyn am gyhoeddi gwarant newydd i arestio Carles Puigdemont – oedd yn arlywydd adeg refferendwm annibyniaeth 2017, oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen – a Toni Comín, cyn-weinidog iechyd Catalwnia.
Mae’r ddau aelod seneddol o blaid Junts per Catalunya yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg ers 2017.
Mae ganddyn nhw tân Fedi 15 i gyflwyno’u hapêl ac os byddan nhw’n colli eu himiwnedd, mae disgwyl i warant i’w harestio gael ei chyhoeddi.
Mae’r ddau wedi’u cyhuddo gan erlynwyr o gamddefnyddio arian cyhoeddus ac o anufudd-dod am eu rhan yn refferendwm 2017.
Mae un arall, y cyn-weinidog addysg Clara Ponsatí, wedi’i chyhuddo o anufudd-dod ac felly dydy hi ddim yn wynebu cyfnod o garchar.
Cafodd Carles Puigdemont ei gyhuddo o annog gwrthryfel yn y gorffennol, ond dydy’r drosedd hon ddim bellach yn bodoli yn ôl cod troseddol Sbaen.