Mae gweithwyr cyngor yng Nghymru a Lloegr wedi pleidleisio o blaid cynnal streiciau.

Bydd hyn yn rhan o weithredu diwydiannol cydgysylltiedig “anochel”, wrth i brisiau cynyddol a degawd o ostyngiad mewn cyflogau gael effaith.

Mae bron i 3,000 o weithwyr mewn 16 o gynghorau ar draws Cymru a Lloegr wedi pleidleisio dros streicio dros gyflogau, yn ôl Uno’r Undeb, prif undeb y Deyrnas Unedig.

Bydd pleidleisiau pellach hefyd yn cau yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda hyd yn oed mwy o weithwyr cyngor yn pleidleisio dros streicio dros gynnig cyflog o ddim ond £1,925 – sy’n cyfateb i gynnydd rhwng 4% a 9% yn dibynnu ar raddau unigol.

Mae hyn yn doriad cyflog mewn termau go iawn i bob gweithiwr.

Mae cyflogau gweithwyr cyngor wedi gweld gostyngiad o dros chwarter mewn termau go iawn ers 2010, a hynny o ganlyniad i rewi cyflogau a chodiadau cyflog islaw chwyddiant.

Prisiau cynyddol a chyflogau yn gostwng

Yn ôl Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb, mae prisiau yn cynyddu tra bod cyflogau yn gostwng, a byddan nhw’n brwydro dros y gweithwyr mae hyn yn cael effaith arnyn nhw.

“Dros y ddegawd ddiwethaf, mae gweithwyr llywodraeth leol wedi gweld eu cyflog yn gostwng yn sylweddol mewn termau real,” meddai.

“Mae prisiau cynyddol wedi gwthio llawer at y dibyn – mae angen codiad cyflog iawn arnynt nawr.

“Ni fydd Unite yn rhoi’r gorau i ymladd i amddiffyn a gwella swyddi, tâl ac amodau gweithwyr ac mae gan ein haelodau llywodraeth leol gefnogaeth ddiwyro eu hundeb.”

Cynnal pleidlais

Mae Unite wedi cynnal pleidlais ymhlith miloedd o aelodau sy’n gweithio i awdurdodau lleol, gyda gweithwyr yn darparu gwasanaethau cyngor yng Nghaerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, Caerdydd, Chesterfield, Cernyw, Coventry, Cumberland, Cwm Cynon, Darlington, Derby a Gogledd Tyneside, Gwynedd, Ispwich, Plymouth, Sefton, Warrington, Wigan a Wrecsam ymhlith y cyntaf i bleidleisio dros streicio.

Yr wythnos nesaf, bydd uwch gynrychiolwyr undebol o gynghorau ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cyfarfod i benderfynu ar gynllun gweithredu ynglŷn â’r pleidleisiau i streicio.

Yn ôl Clare Keogh, Swyddog Cenedlaethol Uno’r Undeb, dydy’r cynnig cyflog ddim yn ddigon da.

“Mae gweithredu diwydiannol cydgysylltiedig mewn cynghorau ledled Cymru a Lloegr yn anochel a bydd gweithwyr mewn mwy o awdurdodau lleol yn ymuno â’r rhai sydd eisoes wedi pleidleisio i streicio yn fuan,” meddai.

“Mae hyn oherwydd y cynnig cyflog cwbl annigonol gan gyflogwyr awdurdodau lleol.

“Mae angen i’r cyflogwyr ddod yn ôl gyda chynnig y gall ein haelodau ei dderbyn.”