Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthwynebu’r galwadau i ddatganoli’r system gyfiawnder, gan ddweud bod angen i’r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, ganolbwyntio ar broblemau eraill.

Daw sylwadau David TC Davies wrth iddo ymateb i lythyr gan Mick Antoniw yn gofyn am gael cywiro’r cofnod, wedi i gyn-aelod o’r llywodraeth, y Farwnes Bloomfield, awgrymu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais ffurfiol i ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru.

Yn ôl Mick Antoniw, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud sawl cais i ddatganoli’r maes.

Yn ei ymateb i lythyr Mick Antoniw, wnaeth David TC Davies ddim crybwyll y cais i gywiro’r cofnod.

‘Creu anawsterau enfawr’

“Rwy’n synnu braidd eich bod wedi cyflwyno’r cais hwn, yn enwedig pan fo’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wynebu pwysau difrifol, diweithdra yng Nghymru wedi codi, a sgiliau darllen a rhifedd myfyrwyr yn parhau i fod yr isaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

Dywed ei fod yn anghytuno â’r awgrym y byddai’r system gyfiawnder yn fwy effeithlon yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac awgryma y dylai Mick Antoniw ganolbwyntio ar faterion eraill.

“Y ffordd orau o ddarparu cyfiawnder yng Nghymru yw drwy system gyfiawnder sengl Cymru a Lloegr,” meddai David TC Davies.

“Yn benodol, mae Cymru’n elwa ar yr arbedion a wnaed a’r adnoddau a rennir wrth fod yn rhan o system gyfiawnder fwy, gan gynnwys mynediad i’r ystâd carchardai.

“Byddai datganoli cyfiawnder yn golygu newid sylweddol yn y systemau presennol ac yn creu anawsterau enfawr.”

Yn yr un modd, dywed fod Llywodraeth Cymru wedi methu wrth ateb cwestiynau ehangach am ymarferoldeb datganoli cyfiawnder.

“Siom” Mick Antoniw

Mae Mick Antoniw wedi rhannu ei ymateb i sylwadau’r Ceidwadwr ar Twitter.

“Siomedig eich bod wedi dewis anwybyddu pwrpas fy llythyr a oedd mewn gwirionedd yn ymwneud â chywiro’r cofnod seneddol,” meddai.

“Yn amlwg nid yw cywirdeb seneddol yn bwysig i chi.

“Roeddwn i’n meddwl efallai bod gennych fwy o onestrwydd na gwneud ystumiau plentynnaidd o’r fath.”