Mae un o gynghorwyr Gwynedd yn dweud ei bod hi’n credu ei bod yn bwysig bod pobol ifanc yn cymryd y cyfle i ehangu ar eu profiadau o’r byd, cyn belled â’u bod yn dychwelyd i’w milltir sgwâr yn y pen draw.

Yr wythnos hon, bu i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan lansio ymchwiliad er mwyn canfod pam fod pobol ifanc yn symud allan o’u cymunedau.

Yn ôl y pwyllgor, mae hyn yn broblem sydd yn effeithio ar gadarnleoedd y Gymraeg, ac yn enwedig Gwynedd a Cheredigion.

Mae Elin Walker Jones yn aelod o Gabinet Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd, ac fel mam i bedwar o blant, mae ganddi hi brofiad personol o weld pobol ifanc yn symud i ffwrdd.

Dywed fod dau o’i phlant yn byw yng Nghaerdydd, tra bod un newydd gychwyn swydd yn Llundain a’r llall mewn prifysgol oddi cartref.

“Yn amlwg, mae rhywun yn poeni bydden nhw ddim yn dod yn ôl ac rydw i’n ymwybodol o blant ac oedolion ifanc eraill sydd hefyd wedi symud i ffwrdd,” meddai wrth golwg360.

“Beth rydw i yn ei weld ydy eu bod nhw’n dod yn ôl, ac mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu – bod pobol ifanc yn cymryd y cyfle i ehangu eu profiad o’r byd,” meddai.

“Ond, yn amlwg rydyn ni eisiau gweld pobol ifanc yn dod yn ôl i’w bröydd Cymraeg er mwyn magu teulu, a manteisio ar bopeth sydd gan Wynedd i’w gynnig.

“Mae cefn gwlad Cymru yn le arbennig i fagu teulu.”

‘Gymaint o swyddi’n wag’

Yn ôl Elin Walker Jones, mae digonedd o swyddi ar gael yn y sir i ddenu pobol ifanc yn ôl, yn enwedig swyddi iaith Gymraeg.

“Mae yna lwyth o swyddi gyda ni, ac mae gennym ni ymgyrch i recriwtio pobol i weithio yn y gwasanaeth gofal – mae pob math o swyddi ar gael yno,” meddai.

“Mae yno gymaint o swyddi’n wag yn y gwasanaeth iechyd, er enghraifft, neu mewn addysg ac rydym ni’n awyddus i’w llenwi nhw.

“Os wyt ti’n siarad Cymraeg, mae hynny’n andros o help er mwyn gallu darparu triniaeth gofal a chefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywed fod cynlluniau megis ARFOR yn gweithio gyda chynghorau Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin i gefnogi cymunedau Cymraeg.

Bwriad y cynllun yw cynnig swyddi lleol i bobol ifanc a’u helpu i gychwyn eu busnesau eu hunain.

Dywed fod llawer o fusnesau bach lleol wedi cychwyn ers Covid yn sgil y cynllun, a bod hynny “yn rhywbeth i’w ddathlu”.

@golwg360

Yr wythnos hon, bu i Bwyllgor Materion San Steffan lansio ymchwiliad er mwyn canfod pam fod pobol ifanc yn symud allan o’u cymunedau 👤 Fel person ifanc o ardal Gwynedd sydd eisoes wedi symud i Gaerdydd, mae Lleucu Bebb yn mynegi ei barn hi #tiktokcymraeg #cymru

♬ original sound – golwg360

Marchnad dai ‘yn bryder’

Fodd bynnag, mae’r cynghorydd yn bryderus am y sefyllfa tai sy’n wynebu pobol ifanc – yng Ngwynedd ac ar draws y wlad.

Mae’r nifer uchel o dai haf yn bryder sy’n wynebu Gwynedd yn enwedig.

“Os nad wyt ti’n gallu prynu neu rentu tŷ yn dy ardal gynhenid, dwyt ti ddim yn mynd i allu byw yno,” meddai.

Yn ôl ystadegau, mae gan Abersoch ac Aberdaron ym Mhen Llŷn 153 o ail gartrefi fesul 1,000 o gartrefi – dyma’r ffigwr uchaf yng Nghymru.

Er hynny, mae hi’n ddiolchgar am y gwaith sydd eisoes wedi cychwyn i fynd i’r afael â’r broblem.

“Rydw i mor falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar yr ymchwil sydd wedi mynd ymlaen, gan gynnwys yng Ngwynedd, er mwyn gweld sut fedrwn ni newid y farchnad dai fel bod cartrefi fforddiadwy i bobol ifanc,” meddai.

Dywed yr hoffai weld mwy o bobol ifanc yn dychwelyd i’r ardal.

“Os oes gan bobol syniadau o beth allwn ni ei wneud fel Cyngor y tu hwnt i beth sy’n cael ei wneud yn barod, rydyn ni’n sicr yn barod i wrando,” meddai.