Bu farw cyn-Aelod Seneddol Cwm Cynon yr wythnos ddiwethaf yn 86 oed. Yma, mae cyn-Aelod Seneddol Llafur Conwy, Betty Williams, yn rhoi teyrnged i’w chydweithwraig a ffrind, Ann Clwyd.


Roedd Ann a minnau’n gymdogion yn Nhŷ’r Cyffredin gan fod swyddfa’r ddwy ohonom ar yr un coridor. Oherwydd hyn, hawdd oedd cael sgwrs ddydd neu nos ar wahanol faterion. Yn fy nyddiau cynnar yno, byddem weithiau yn ein swyddfa drwy’r nos yn pleidleisio ar wahanol Fesurau. Er ein bod yn adnabod ein gilydd cyn i mi gael fy ethol yn 1997, daethom yn agosach at ein gilydd o ganlyniad i hyn.

Ann oedd yr unig Aelod Seneddol benywaidd yn cynrychioli etholaeth o Gymru am flynyddoedd maith cyn i Julie Morgan, Jackie Lawrence a minnau gael ein hethol yn 1997.  Rhoddodd hyn foddhad a phleser mawr iddi. Yn dilyn y canlyniadau hyn, gwelwyd pennawd diddorol ar y stori yn un o bapurau dyddiol Cymru – “Now We are Four”. Does gen i ddim prawf, ond synnwn i ddim mai Ann oedd awdur y pennawd hwnnw!

Cyn iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Gwm Cynon, roedd wedi bod yn Aelod o Senedd Ewrop am bum mlynedd yn cynrychioli Canol a Gorllewin Cymru. Bu’n Aelod Seneddol dros Gwm Cynon rhwng 1984 a 2019. Gyda’r profiad eang hyn, hawdd yw deall paham yr oedd yn siarad efo’r fath awdurdod bob amser ar wahanol faterion, boed yn faterion lleol neu ryngwladol.

Oherwydd ei bod wedi cynrychioli dwy ardal enfawr o Gymru ar lefel Ewropeaidd a Phrydeinig, roedd yn adnabod pob cwr o Gymru, o Fôn i Fynwy, fel cefn ei llaw. Rheswm arall am ei hadnabyddiaeth o wahanol rannau o Gymru oedd bod ei theulu-yng-nghyfraith yn byw yn Ynys Môn, a byddai’n dod ar ei gwyliau i Aberdyfi’n rheolaidd.

‘Cydwybodol a phenderfynol, efo daliadau pendant’

Buaswn yn disgrifio Ann fel person cydwybodol a phenderfynol dros ben.

Roedd hi’n berson efo daliadau pendant ac yn fodlon mynd yr holl ffordd i wireddu’r daliadau hynny. Fe gofiwn ei hymdrechion dros y glowyr a’i chefnogaeth iddynt yn eu hymdrechion ym Mhwll Glo Y Tŵr. Cofiwn y lluniau ohoni’n cael ei chario ar gefn rhai o’r glowyr ar ôl iddi fod yn eu cynorthwyo tan ddaear.

Bu Ann yn gefnogol i’r rhyfel yn Irac. Doedd hi a minnau ddim yn cytuno ar hynny. Fe bleidleisiais i yn erbyn mynd i ryfel, ond oherwydd ei barn ar sut oedd y Cwrdiaid wedi cael eu trin, roedd Ann yn teimlo’n gryf ar fater y rhyfel. Byddai’n gadarn ei barn ond yn dyner hefyd wrth ddadlau ei chornel.

Doedd dim yn ormod ganddi pan oedd yn cynorthwyo pobol hefo’u problemau. Roedd wastad yn fodlon mynd y filltir ychwanegol. Cafwyd sawl cadarnhad o hyn gan ei hetholwyr.

Bu’n gefn mawr i’w hannwyl ŵr Owen a wynebodd anawsterau iechyd anodd cyn ei farwolaeth; enghraifft arall o galon fawr Ann a’i hymroddiad tuag at ei hanwyliaid.

Wedi i’r ddwy ohonom ymddeol, Ann yn 2019 a minnau yn 2010, byddem yn cael ambell sgwrs ar y ffôn.  Ganol Mehefin, fe ffoniais Ann i gael sgwrs am wahanol faterion gwleidyddol a’r sefyllfa yn San Steffan parthed Wcráin a Rwsia.  Doeddwn i ddim yn gwybod ei bod yn yr ysbyty. Hi ddywedodd wrthyf pan atebodd ei ffôn symudol. Yn ystod ein sgwrs, gofynnodd i mi sut oedd Huw, fy mab ieuengaf sydd hefo nifer o broblemau corfforol ac anawsterau dysgu. Dywedais wrthi bod Huw yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 mlwydd oed ymhen deuddydd. “O”, meddai, “wnei di gael cerdyn pen-blwydd iddo oddi wrthaf fi?”. Addewais wneud hynny. Ar y cerdyn, ysgrifennais: ‘Pen-blwydd Hapus iawn i ti Huw yn 50 oed oddi wrth Ann Clwyd (Caerdydd) – ffrind dy fam’.  Pan gawsom sgwrs ar y ffôn bythefnos yn ddiweddarach, dywedais wrthi fy mod wedi cario allan ei dymuniad a bod Huw wedi cael parti pen-blwydd da iawn. “Diolch i ti, dwi’n falch o glywed hynny,” meddai.

Roedd wedi dychwelyd gartref erbyn hynny. Cymerais yn ganiataol ei bod wedi gwella digon i adael yr ysbyty.

Sioc fawr i mi, felly, oedd clywed ar y cyfryngau ei bod wedi ein gadael.

Wrth edrych yn ôl, rwy’n meddwl yn ddifrifol am y ffordd y siaradodd Ann efo mi yn ein sgwrs ganol Mehefin pan ofynnodd i mi gael cerdyn pen-blwydd i Huw.  Er ei gwaeledd, roedd Ann yn meddwl am eraill fel yr oedd wedi ei wneud trwy gydol ei bywyd gwleidyddol. Dyna oedd ei natur, ac nid oedd am newid ei ffordd hyd yn oed ar ei gwely angau.

Yn ein sgwrs olaf, dywedodd wrthyf ei bod yn dioddef o niwmonia. Dywedais wrthi bod yn ddrwg iawn gen i glywed hyn ac y buaswn yn gweddïo drosti. Mewn llais oedd yn swnio dan deimlad, dywedodd: “Diolch yn fawr iawn i ti Betty, hwyl.”