Gallai’r cynlluniau ar gyfer adeilad ysgol newydd hirddisgwyliedig gwerth £49m ym Machynlleth gael eu cyflwyno’n ffurfiol i Gyngor Sir Powys mor fuan â mis Medi.

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru a chadeirydd llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen, dywed penaethiaid addysg fod y prosiect yn “dod yn ei flaen yn dda”.

“Gyda’r cynllun pwysig hwn i gael ysgol newydd ym Machynlleth ar y gweill ers blynyddoedd, pryd fydd y cais cynllunio’n cael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio fel bod modd gweld bod y cynllun yn symud yn ei flaen ar fyrder?” gofynnodd.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol ac Aelod Cabinet dros Addysg fod “prosiect ailadeiladu Ysgol Bro Hyddgen yn dod yn ei flaen yn dda, wrth gwblhau cyfnod dylunio’r cysyniad”.

“Bydd y tîm nawr yn bwrw ymlaen â cham nesa’r dyluniad, gyda’r bwriad o gyflwyno’r cynllun ar gyfer caniatâd cynllunio yn ystod tymor yr hydref,” meddai.

“Unwaith mae’r cyfnod dylunio nesaf ar ben, bydd proses dendr yn cael ei chwblhau er mwyn caffael contractiwr i gwblhau’r prosiect.”

Problemau

Cafodd y cynnig ar gyfer campws ysgol newydd ei gynnig am y tro cyntaf yn 2017, ond fe fu nifer o broblemau.

Roedd y prosiect gwreiddiol yn Ysgol Bro Hyddgen wedi cael ei effeithio wrth i’r cwmni adeiladu Dawnus fynd i’r wal yn 2019, ac arweiniodd hynny at ddiwygio a chreu cynigion mwy o faint.

Fis Hydref y llynedd, penderfynodd y Cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol/Llafur leihau’r cynnig ar gyfer campws ysgol newydd Machynlleth.

Roedd disgwyl i’r campws newydd gynnwys llyfrgell a chyfleusterau hamdden, a’r amcangyfrif yn 2020 oedd y byddai’n costio £48m.

Ond erbyn Hydref 2022, roedd y gost wedi codi i £66m.

Bydd tynnu’r ganolfan hamdden allan o’r prosiect yn golygu bod y gost yn cwympo i £49.12m, gyda 65% o’r arian yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr achos busnes diwygiedig ei gytuno gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr.

Ymgynghori

Fel rhan o’r penderfyniad newydd, cytunodd cynghorwyr i ofyn i drigolion beth oedden nhw eisiau ei wneud am y llyfrgell.

Cafodd “ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd” ei chynnal fis Chwefror, gan ofyn i bobol Machynlleth a Bro Ddyfi am eu barn am gynnig i adleoli’r llyfrgell ar safle’r ysgol unwaith y caiff ei adeiladu.

Yn ôl canlyniadau’r ymgynghoriad, roedd 89.5% o’r rheiny gymerodd ran naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y dylid symud y llyfrgell o’i lleoliad presennol ar Heol Maengwyn i’r adeilad ysgol newydd.

Y gobaith yw y bydd yr ysgol yn agor i ddisgyblion yn 2026.