Ar Fehefin 10 ac 11, cafodd Uwchgynhadledd Ryngwladol dros Heddwch yn Wcráin ei chynnal yn Fienna. Pam Fienna? Mae Awstria yn wlad niwtral ac yn ‘ddinas y Cenhedloedd Unedig’, ac yn gartref i Ysgrifenyddiaeth yr OSCE (y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop) sydd wedi bod yn monitro’r sefyllfa yn y Donbas ers llofnodi cytundeb Minsk 11.

Am resymau oedd ddim yn glir, newidiwyd y lleoliad dau ddiwrnod o flaen llaw. Er hynny, llwyddwyd i gynnal Cynhadledd a lleisiwyd amrywiaeth o agweddau yn ymdrin â tharddiadau’r rhyfel a ffyrdd i’w datrys.

Condemniwyd goresgyniad anghyfreithlon Rwsia o Wcráin gan y Gynhadledd, ac ar yr un pryd, cydnabuwyd cyd-gyfrifoldeb NATO am y gwrthdaro hirdymor hwn fel un o lawer o enghreifftiau o dorri cyfraith ryngwladol. Mae’n dinistrio amgylchedd a seilwaith y wlad, yn achosi prisiau bwyd ac ynni cynyddol ledled y byd, yn gwaethygu tlodi a newyn – yn enwedig yn y De byd-eang – ac yn bygwth y byd i gyd â rhyfel niwclear.

Un o’r rhinweddau a ddaeth yn amlwg oedd diffyg chwant am heddwch yn y wasg. Mor glos lleisiau prif ffrwd y wasg yn America, Prydain, Rwsia ac Ewrop i’r lleisiau yn ein llywodraethau o flaid rhyfel ac arfau yn hytrach na galw am heddwch. Rydym i gyd yn ymwybodol bellach am gynhesu byd eang a’r her sy’n wynebu dynoliaeth; dyna’r pwynt a wnaethpwyd gan Noam Chomsky dros fideo i’r gynhadledd – peryg y bydd y rhyfel yma yn ein chwalu i gyd. Dros fideo hefyd, clywsom gynrychiolwyr mudiadau heddwch Rwsia a Belarws yn ogystal ag Wcráin.

Lleisiwyd y canlynol gan Dr. Yurii Sheliazhenko, cynrychiolwr Mudiad Heddwch Wcráin:

“Os nad ydych chi’n hoffi’r llu o gynlluniau heddwch a gynigir gan drafodwyr Wcreineg a Rwsiaidd ym Minsk ac Istanbul, gan y Fatican, Tsieina a llawer o wledydd y De Byd-eang, mae croeso i chi gynnig eich cynllun heddwch eich hun.”

Casgliadau’r gynhadledd

Ymysg prif gasgliadau’r Gynhadledd mae’r canlynol:

Mae trefnwyr yr Uwchgynhadledd Ryngwladol dros Heddwch yn Wcráin yn galw ar arweinwyr ym mhob gwlad i weithredu i gefnogi cadoediad uniongyrchol a thrafodaethau i ddod â’r rhyfel yn yr Wcrain i ben.

Gall llawer mwy o farwolaethau a dioddefaint ddigwydd eto os bydd y gwrthdaro’n dwysáu i’r defnydd o arfau niwclear, risg sy’n uwch heddiw nag ar unrhyw adeg ers argyfwng taflegrau Ciwba.

Wrth gondemnio goresgyniad anghyfreithlon Rwsia o’r Wcráin, cydnabuwyd methiant sefydliadau i sicrhau heddwch a diogelwch yn Ewrop, ac arweiniodd methiant diplomyddiaeth at ryfel. Nawr mae angen diplomyddiaeth ar frys i ddod â’r rhyfel i ben cyn iddo ddinistrio’r Wcráin a pheryglu dynoliaeth.

Rhaid i’r llwybr i heddwch fod yn seiliedig ar egwyddorion diogelwch cyffredin, parch at hawliau dynol rhyngwladol a hunanbenderfyniad pob cymuned.

Rydym yn cefnogi pob trafodaeth sy’n sefyll dros resymeg heddwch yn lle afresymeg rhyfel.

Rydym yn cadarnhau ein cefnogaeth i gymdeithas sifil Wcrain sy’n amddiffyn eu hawliau. Rydym yn ymrwymo ein hunain i gryfhau’r ddeialog gyda’r rhai yn Rwsia a Belarws sy’n peryglu eu bywydau, gan wrthwynebu rhyfel ac amddiffyn democratiaeth.

Rydym yn galw ar gymdeithas sifil ym mhob gwlad i ymuno â ni mewn wythnos o weithredu byd-eang (dydd Sadwrn, Medi 30 – dydd Sul, Hydref 8) ar gyfer cadoediad ar unwaith a thrafodaethau heddwch i ddod â’r rhyfel hwn i ben.