Y ddiweddaraf mewn cyfres o erthyglau ar y Cyfrifiad a’r Gymraeg gan golofnydd gwleidyddol golwg360, sy’n edrych yr wythnos yma ar ardal yr Eisteddfod.


Mae’r Eisteddfod eleni’n ymweld ag un o gadarnleoedd pwysicaf a gwerthfawrocaf y Gymraeg, ac ardal sydd â gwir angen am fesurau cryfach i warchod ei Chymreictod.

Ar lawer ystyr, roedd cryn dipyn i fod yn galonogol yn ei gylch gyda chanlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg yn Llŷn ac Eifionydd, yn enwedig o gymharu â chymaint o ardaloedd eraill y Gymru wledig. Ar y llaw arall, mae hefyd yn cadarnhau tueddiadau niweidiol dros y degawdau diwethaf na ellir eu hanwybyddu.

Mae Llŷn ac Eifionydd, ynghyd ag Arfon a gogledd Meirionydd yng Ngwynedd, a de a chanolbarth Môn, yn ffurfio rhan ganolog o brif gadarnle’r Gymraeg yn y gogledd-orllewin. Cafodd pwysigrwydd y gogledd-orllewin ei amlygu ymhellach yn y Cyfrifiad diweddaraf fel cnewyllyn caletaf y Gymru Gymraeg, er bod arwyddion o fygythiad cynyddol i’w gweld yma hefyd.

Er bod hanes hir – sy’n mynd yn ôl ganrifoedd lawer – i’r enwau Llŷn ac Eifionydd, a hunaniaeth gref i’r ardaloedd o’r herwydd, nid ydynt yn ffurfio unrhyw unedau swyddogol ffurfiol bellach. Mae’r ystadegau canlynol felly yn ymwneud â rhanbarth Dwyfor yng Ngwynedd, sy’n cyfateb yn agos iawn â’r ardal, gan gynnwys y cyfan ohoni er yn ymestyn ychydig yn ehangach.

Prif ganfyddiadau’r Cyfrifiad

Allan o gyfanswm poblogaeth tair oed a throsodd o ychydig dros 25,000 yn ardal Dwyfor yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg drwch blewyn o dan 70%.

Mae’r ganran hefyd wedi dal ei thir yn weddol dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, gan gymharu â 71.2% yn 2011 a 72.9% yn 2001. Ar y llaw arall, roedd y ganran dros 80% o’r boblogaeth mor ddiweddar ag 1981.

Fel y gwelwn o’r map, mae pob cymuned yn y rhanbarth yn dangos mwy na hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, gyda’r canrannau isaf i’w gweld yn rhai o’r ardaloedd glan-môr fel Abersoch a Llanbedrog. Ar y llaw arall, mae tref Pwllheli a’r rhan fwyaf o gymunedau gwledig Llŷn yn dangos canrannau o dros 70%.

Yn ôl y ffigurau manylaf sydd ar gael gan yr ONS, mae’r canrannau hyn yn codi i dros 80% yn rhai o’r pentrefi gwledig, fel Aberdaron, Botwnnog, Tudweiliog, y Ffôr a Chwilog. Maen nhw’n tueddu er hynny i fod yn is yng nghefn gwlad ac yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell.

O edrych ar yr ardal gyfan gyda’i gilydd, mae hefyd ymhlith yr ychydig leoedd yng Nghymru lle mae’r gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg fymryn yn uwch na’r gyfran a aned yng Nghymru – 69.9% o gymharu â 67.2%. Mae hyn awgrymu bod o leiaf rywfaint o gymhathu newydd-ddyfodiaid yn digwydd.

O blith y bobol a aned yng Nghymru, roedd 92.3% y gallu siarad Cymraeg. O gofio y gallai’r rhain gynnwys pobol sydd wedi symud i mewn o rannau eraill, llai Cymraeg o bosibl, o Gymru, mae’n rhesymol tybio fod y ganran o frodorion cynhenid yr ardal sy’n gallu siarad yr iaith yn tynnu at 100%.

Mae bron i chwarter – 24.1% – o’r rheini a aned y tu allan i Gymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn ychydig yn uwch na chyfartaledd Gwynedd o 20.7%, ac yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 7.3% ar gyfer Cymru gyfan.

Ar yr olwg gyntaf, o leiaf, mae’r patrwm oedran yn ymddangos yn ffafriol, gyda chanrannau uwch yn gallu siarad Cymraeg ymysg cenedlaethau iau. Mae siaradwyr Cymraeg yn ffurfio dros 80% o bob grwp oedran o dan 50 oed, ond mae’r gyfran yn gostwng yn ddramatig i 62.4% ymysg pobol 50-64 oed a 56.3% ymysg pobol dros 65 oed. Arwyddocâd hyn, wrth gwrs, o gofio’r ganran uchel o’r bobol a aned yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg, ydi mai pobol sydd wedi symud i mewn i Gymru ydi cyfran helaeth iawn o’r grwpiau oedran hŷn.

Er cryfderau cymharol y Gymraeg yn yr ardal, mae angen nodi ystyriaethau eraill hefyd.

Y peth cyntaf sy’n rhaid ei gofio ydi i’r Cyfrifiad gael ei gyfnod yn ystod cyfnod clo, a gallai hyn fod yn esboniad bod poblogaeth rhai o’r lleoedd mwyaf twristaidd yn is na’r tro blaen. Mae’n debygol y byddai llawer o berchnogion ail gartrefi yn absennol, a gallai hefyd fod llai o weithwyr tymhorol o’r diwydiant gwyliau. Gall hyn i gyd fod wedi cyfrannu at roi darlun mwy calonogol na’r disgwyl o ganrannau’r siaradwyr Cymraeg.

Hyd yn oed wedyn, roedd y bobl a aned y tu allan i Gymru yn Llŷn ac Eifionydd – gyda thros 85% ohonyn nhw’n hanu o Loegr – yn dal i ffurfio canran uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan yn y Cyfrifiad.

Ar ben hyn, mae rhai ardaloedd wedi cael eu taro’n waeth na’i gilydd, gyda thref Porthmadog wedi gweld y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg ynddi yn gostwng o dri chwarter yn 2001 i ychydig dros ddau draean erbyn y Cyfrfiad diwethaf.

Colli 1,500 o Gymry

Mae’n debyg mai’r bygythiad mwyaf i Gymreictod yr ardal ydi’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg – hyd yn oed os yw gostyngiad yn y boblogaeth gyffredinol wedi cadw’r ganran yn weddol uchel. Mae rhanbarth Dwyfor wedi colli tua 1,500 o siaradwyr Cymraeg ers 2001, a’r rhan fwyaf o’r colledion wedi digwydd dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

Mae tystiolaeth benodol o golli pobol ifanc yn enwedig dros y ddau ddegawd ddiwethaf, ac mae hynny i’w weld yn glir os cymharwn nifer y plant yn 2001 a phobol ifanc yn 2021.

Yn 2001, roedd bron i 3,000 o blant 5-14 oed yn gallu siarad Cymraeg yn yr ardal – erbyn 2021, roedd niferoedd y genhedlaeth hon, a hwythau bellach yn 25-34 oed, wedi gostwng i ychydig dros 2,000. Mae’n cynrychioli colled o dros 30%.

O’u cymryd gyda’i gilydd, yr hyn mae’r holl ystadegau uchod yn ei amlygu ydi bod Llŷn ac Eifionydd ymysg cynefinoedd naturiol cyfoethocaf y Gymraeg, ond bod y cynefin hwnnw o dan fygythiad.

Blaenoriaeth genedlaethol

Wrth ymateb i’r bygythiad, mae angen mynd ymhellach na meddwl yn nhermau amddiffyn yn unig. Dyna union y math o ardal y dylai Llywodraeth Cymru ei chlustnodi fel ardal twf i’r Gymraeg.

Fel cam cyntaf, dylai fod targed penodol i godi’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg yn Llŷn ac Eifionydd yn ôl i’r hyn oedden nhw ar droad y ganrif, gyda nod o godi’r ganran yn ôl i dros 80% dros amser. Her fawr yn sicr, ond her fwy ystyrlon na thargedau cenedlaethol amwys fel miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae’n gofyn am weithredu penodol i anghenion yr ardal.

Rhaid deall o’r cychwyn y byddai unrhyw ymgais i gynyddu’r boblogaeth yn gyffredinol yn gwneud mwy o ddrwg nag o les oni bai bod y mwyafrif llethol o’r rhai fyddai’n symud i mewn yn gallu siarad Cymraeg. Eisoes gwelwyd yr ardal o dan warchae ar ddiwedd y cyfnod clo wrth i don o fewnfudo o ddinasoedd Lloegr godi prisiau tai o gyrraedd pobol leol.

Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi cyfraniad amhrisiadwy yr unigolion hynny sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru gan gyfoethogi’n diwylliant wrth wneud hynny. Mae’n wir hefyd fod y gyfran o bobol sy’n hanu o’r tu allan i Gymru sy’n gallu siarad Cymraeg yn Llŷn ac Eifionydd yn uwch nag yw yn y rhan fwyaf o Gymru. Ond y rheswm syml fod y gyfran hon mor uchel ydi cryfder y Gymraeg yn yr ardal ar hyn o bryd. Os bydd y canrannau’n parhau i ostwng oherwydd mewnfudo o Loegr, y lleiaf tebygol fydd newydd-ddyfodiaid o ddysgu Cymraeg. Mae tystiolaeth cyfrifiadau’n gwbl ddiymwâd ynglŷn â hyn.

O’r herwydd, ni all unrhyw strategaeth i gryfhau’r iaith yn yr ardal ddibynnu’n llwyr ar gael mwy o bobol i ddysgu Cymraeg. Mae am ddibynnu lawn gymaint ar alluogi, annog a denu mwy o Gymry i fyw yno.

Rhan gwbl allweddol, wrth gwrs, fydd ymyrraeth yn y farchnad dai gyda chynlluniau fel rhan-berchnogaeth. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod pobol leol yn cael y flaenoriaeth ddyladwy am unrhyw dai cymdeithasol a thai fforddiadwy.

Lawn cyn bwysiced fydd fod mwy Gymry’n dewis byw mewn ardaloedd o’r fath a’u bod yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd cynyddol i weithio o’u cartrefi. A mynnu bod cyrff cyhoeddus yn gwneud popeth yn eu gallu i’w galluogi i wneud hynny.

Tyngedfennol

Wrth drafod llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth bron i ganrif yn ôl, disgrifiodd Saunders Lewis Lŷn ac Eifionydd fel lle cwbl dyngedfennol i “einioes ein hiaith a’n diwylliant a’n bodolaeth fel cenedl”.

Hyd yn oed yr adeg honno, roedd arweinwyr y mudiad cenedlaethol yn sylweddoli’r gwir amlwg fod yna ardaloedd pwysicach na’i gilydd yng Nghymru lle mae dyfodol yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y cwestiwn. Mae’n fwy gwir fyth heddiw.

Mae harddwch diarhebol Penrhyn Llŷn eisoes yn cael ei gydnabod yn swyddogol gyda dynodiad fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae gwir angen i Lŷn ac Eifionydd gael yr un math o gydnabyddiaeth ac amddiffyniad fel ardaloedd o Gymreictod Eithriadol yn ogystal.

Mae gwarchod yr ardal rhag bygythiadau fel anrhaith gor-dwristiaeth yn gofyn am lawer mwy o flaenoriaeth genedlaethol mewn unrhyw ymdrechion i gynnal y Gymraeg. Heb fod y Gymraeg yn adennill a chryfhau ei goruchafiaeth mewn lleoedd fel hyn, llawer mwy anodd fydd unrhyw ymdrechion i’w gwreiddio mewn cynefinoedd llai ffafriol.

Mae’n sicr y bydd bwrlwm yr Eisteddfod yn ysbrydoliaeth sylweddol i’r iaith a’r diwylliant yn Llŷn ac Eifionydd a’r tu hwnt, a fydd, gobeithio yn parhau am flynyddoedd i ddod. Does dim amheuaeth, fodd bynnag, mai’r waddol fwyaf gwerthfawr y gallai’r Eisteddfod ei chyfrannu at yr ardal sy’n ei chynnal eleni fyddai pe bai’n gallu denu rhagor o Gymry yno i fyw.

  • Bydd Huw Prys Jones yn trafod mwy am sefyllfa’r Gymraeg yn ardal yr Eisteddfod mewn sgwrs yn stondin Dyfodol ar y Maes ddydd Sadwrn, Awst 5 am 12.00yp.