Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban yn rhybuddio am beryglon bwyta pysgod oer wedi’u mygu neu eu cochi.

Daw hyn ar ôl i asesiad risg gael ei gyhoeddi, sy’n dangos bod perygl penodol i fenywod beichiog, pobol â chyflyrau iechyd sy’n gwanhau eu systemau imiwnedd, a phobol oedrannus, a’r cyngor yw i gadw draw oddi wrth bysgod o’r fath oherwydd y perygl o listeriosis.

Mae cynnyrch pysgod oer wedi’u mygu neu eu cochi’n cynnwys eog, brithyll a gravlax.

Tra bod y tebygolrwydd y gallai pobol sydd â risg uwch gael listeriosis yn eithaf isel, mae difrifoldeb y salwch pe baen nhw’n ei gael yn sylweddol, ac mae perygl y byddai’n rhaid iddyn nhw dderbyn triniaeth yn yr ysbyty neu y gallen nhw farw, hyd yn oed.

“Os ydych chi yn y grŵp o bobol sydd â risg uwch o haint listeria, a’ch bod chi’n penderfynu bwyta’r cynnyrch yma, rydym yn argymell yn gryf eich bod chi’n eu coginio nhw’n gyntaf hyd nes eu bod nhw’n boeth drwyddyn nhw,” meddai’r Athro Robin May, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

“Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw listeria sy’n bresennol yn y cynnyrch yn cael ei ladd cyn ei fwyta.”

Listeria

Mae ymchwiliad ar y gweill i listeria a’i gysylltiad â physgod wedi’u mygu ers i’r achosion cyntaf gael eu crybwyll yn 2020.

Fe fu 19 achos o listeriosis ers hynny, a bu farw pedwar o bobol.

“Tra bod gan bysgod wedi’u mygu risg uwch o gario listeria, mae’r risg ar y cyfan i’r boblogaeth yn isel iawn,” meddai Dr Gauri Godbole, Microbiolegydd Ymgynghorol gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (UKHSA).

“Fodd bynnag, mae rhai pobol yn fwy tebygol o gael haint difrifol, gan gynnwys y rhai sy’n feichiog a’r rheiny sydd â system imiwnedd gwan.

“Mae’r risg hefyd yn cynyddu gydag oedran.

“Fydd y rhan fwyaf o bobol sy’n cael eu heffeithio gan listeriosis ddim yn cael unrhyw symptomau neu’n cael dolur rhydd cymhedrol sy’n lleihau ymhen ychydig ddiwrnodau.

“Gall y rhai mwy bregus fod mewn perygl o salwch difrifol megis meningitis a sepsis sy’n peryglu bywydau.

“Gall listeriosis yn ystod beichiogrwydd achosi salwch difrifol iawn i famau a’u babanod.”

Y cyngor diweddaraf

Mae’r cyngor diweddaraf yn berthnasol i fenywod beichiog a’r sawl sydd â system imiwnedd gwan.

Gall hynny gynnwys pobol â chanser, clefyd siwgr, afiechyd yr afu neu’r arennau, neu unrhyw un sy’n cymryd meddyginiaeth sy’n gwanhau eu himiwnedd.

Bydd lefel y perygl yn dibynnu ar unrhyw salwch arall sydd gan rywun, ac mae’r perygl yn uwch ymhlith pobol oedrannus a menywod beichiog.

Mae pysgod oer wedi’u mygu’n aml yn cael eu disgrifio fel pysgod wedi’u mygu yn unig ar becynnau.

Mae pysgod oer wedi’u mygu’n aml yn cael eu pecynnau mewn darnau bach, ac mae modd eu bwyta’n oer, ac maen nhw i’w cael mewn sushi.

Ar ôl eu coginio’n ofalus, bydd pysgod wedi’u mygu’n ddiogel i’w bwyta, ac mae modd eu gweini ar unwaith neu’n oer ar ôl eu rhoi yn yr oergell.

Mae modd ychwanegu pysgod oer wedi’u mygu at brydau megis pasta wedi’i goginio neu wyau wedi’u sgramblo, ond dylid eu coginio’n ofalus yn y lle cyntaf gan na fydd eu cynhesu’n unig yn lladd listeria.

Mae modd bwyta pysgod tun sydd wedi’u cynhesu yn ystod y broses gynhyrchu heb orfod eu coginio nhw eto.

Gall symptomau’r salwch gynnwys tymheredd uchel (dros 38 gradd selsiws), poen, teimlo’r oerfel, cyfogi neu ddolur rhydd.

Dylai unrhyw un sy’n teimlo’n sâl ffonio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar 111 neu’r meddyg teulu.