Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi croesawu’r sicrwydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch dyfodol Ysbyty Dolgellau.

Daeth y sicrwydd gan gadeirydd y bwrdd iechyd, sy’n dweud y bydd yn chwarae rhan allweddol yn y ddarpariaeth gofal iechyd ym Meirionnydd yn y dyfodol.

Fe fu Mabon ap Gwynfor yn cyfarfod â Dyfed Edwards ac uwch reolwyr a staff yr ysbyty’n ddiweddar i drafod rôl yr ysbyty a’r pryderon ynghylch gwasanaethau iechyd cymunedol yn ne Meirionnydd.

Dioddef yn anghymesur

Mae Mabon ap Gwynfor yn ymgyrchu i wella mynediad at wasanaethau iechyd yn ne Meirionnydd a Bro Dysynni, sy’n dioddef yn anghymesur o ran cael mynediad at feddygon teulu, deintyddion a gwasanaethau iechyd eraill.

“Croesewais y cyfle i drafod dyfodol Ysbyty Dolgellau gyda Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac uwch reolwyr yn ystod ymweliad â’r safle yr wythnos diwethaf,” meddai.

“Roeddwn am bwysleisio pa mor bwysig yw’r ysbyty i’r gymuned.

“Roedd pryderon yn y gymuned bod cynlluniau ar y gweill i israddio’r ysbyty. Ni fyddai hyn wedi bod yn dderbyniol, a gwneuthum y pwynt hwnnw’n gryf mewn cyfathrebu rheolaidd â’r Bwrdd Iechyd.

“Gwahoddais gadeirydd newydd y bwrdd i’r ysbyty er mwyn iddo weld pwysigrwydd y lle.

“Roedd Dyfed Edwards yn adnabod yr ysbyty’n dda o’i ddyddiau yn byw ym Meirionnydd, a gwnaeth hi’n glir ei fod am weld mwy o fuddsoddiad mewn darpariaeth iechyd cymunedol a bod dyfodol Ysbyty Dolgellau yn cael ei sicrhau.

“Croesawyd y sicrwydd hwn yn fawr.

“Mae Ysbyty Dolgellau yn ased meddygol a werthfawrogir ac y dibynnir yn fawr arno ar gyfer pobl yn ne Meirionnydd ac mae’n hanfodol ei fod yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon i’w lawn botensial mewn modd sy’n gwasanaethu cleifion orau mewn ardal wledig.

“Gwyddom fod recriwtio a chadw staff gofal iechyd yn broblem ddifrifol yn ne Meirionnydd, ond rwyf am gofnodi fy niolch i’r holl staff sy’n gweithio yn Ysbyty Dolgellau am eu gwasanaeth diwyro a’u hymrwymiad.

“Mae gwasanaethau iechyd ar draws Cymru yn gwegian, ond mae’r sefyllfa mewn cymunedau gwledig fel Dwyfor Meirionnydd yn argyfyngus.

“Byddaf yn parhau â’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r gwelliannau y mae cymaint eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau iechyd penodol a wynebir gan fy etholwyr ac eraill sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.”