Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig yn bryderus am amseroedd aros yn y dyfodol yng Nghymru, yn dilyn llythyr gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

Yn ei llythyr at Jane Dodds, Rhun ap Iorwerth a Russell George, dywed y gweinidog ei bod hi eisiau gweld gostyngiad yn yr amseroedd aros erbyn mis Medi.

Daw hyn wedi i Aelodau o’r Senedd godi eu pryderon am y pwnc yn ystod sesiwn yn y Senedd fis diwethaf.

“Wrth ganolbwyntio ar y targedau carreg filltir hyn, bydd fy swyddogion hefyd yn sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i leihau’r amseroedd aros hiraf yn gyntaf, sydd, mewn rhai achosion, dros dair blynedd, wrth ganolbwyntio hefyd ar leihau nifer yr arbenigeddau sy’n aros dros ddwy flynedd,” meddai Eluned Morgan.

“Disgwyliaf weld cynnydd yn erbyn y meysydd hyn yn nata mis Medi os nad ynghynt.”

Dywed fod targedau newydd wedi’u gosod er mwyn sicrhau bod 97% o gleifion yn aros llai na dwy flynedd rhwng cael eu cyfeirio a derbyn triniaeth erbyn diwedd Rhagfyr 2023.

Erbyn diwedd mis Mawrth 2024, hoffai weld y ffigwr hwnnw’n cynyddu, fel bod 99% o gleifion yn aros llai na dwy flynedd am driniaeth.

‘Hynod siomedig’

Fodd bynnag, mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu hyn gan ddweud nad yw’r ffigyrau’n ddigon da.

“Rwy’n hynod siomedig gyda’r llythyr a gefais gan Weinidog Iechyd Llafur yn cadarnhau fy ofnau na welwn ddiwedd ar arosiadau annynol o 2 flynedd eleni,” meddai.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol o ystyried y ffaith bod yr amseroedd aros hyn bron wedi’u dileu mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.”

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru fethu â chyrraedd eu targedau blaenorol o ddileu’r amseroedd aros o ddwy flynedd yn y mwyafrif o feysydd erbyn mis Mawrth.

Yn ôl StatsCymru, roedd 30,769 o bobol wedi bod yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth erbyn diwedd mis Mai.

‘Angen gweithredu’

“Heb brawf caled o gamau diriaethol yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth Lafur i leihau’r amseroedd aros hyn, sut all pobol Cymru fod yn hyderus y bydd hyn yn cael ei gyflawni?” meddai Russell George.

“Fe fethon nhw eu targed ym mis Mawrth, ac ar y gyfradd hon o ostyngiad, ni fydd targed newydd Llafur yn cael ei gyrraedd chwaith.”

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, dydy’r targedau newydd ddim yn ddigonol ac mae angen gweithredu.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur gyflwyno hybiau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig yn llawer cyflymach, canslo eu cynlluniau i recriwtio gwleidyddion mwy costus ac yn lle hynny ailadrodd cynllun gweithlu cynhwysfawr Rishi Sunak i ddod â mwy o feddygon a nyrsys i’n Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,” meddai.

“Nid yw gosod targedau newydd yn unig yn ddigon.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae amseroedd aros hir yn gostwng bob mis diolch i waith caled staff y Gwasanaeth Iechyd.

“Rydym wedi cyhoeddi cynllun i nodi sut y byddwn yn cynyddu gweithlu’r GIG Cymru i ateb y galw yn y dyfodol a delio â phrinder byd-eang o weithwyr meddygol ac rydym wedi cynyddu cyllideb hyfforddi’r GIG am y nawfed flwyddyn yn olynol i fwy na £280m, gan greu 527 o leoedd hyfforddi ychwanegol, gan gynnwys mwy na 380 yn fwy o leoedd hyfforddi nyrsys,” meddai.