Mae disgwyl i adeilad gwag yng nghanol Bethesda ddod yn ofod creadigol ar gyfer y celfyddydau, bwyty a lleoliad i hybu treftadaeth leol.

Mae cynllunwyr Gwynedd wedi derbyn cais i drawsnewid hen adeilad Spar ar y Stryd Fawr.

Mae’r cais wedi’i gyflwyno gan Meleri Davies o’r fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen.

Roedd yr adeilad gwag wrth galon y dref yn hen siop Spar, a chyn hynny câi ei adnabod fel yr hen swyddfa bost, gan roi i’r prosiect newydd yr enw Yr Hen Bost.

Y cynlluniau

Mae’r cais yn galw am greu gofod manwerthu, lle gallai artistiaid lleol werthu eu gwaith, a chanolfan dreftadaeth.

Byddai’r cynllun yn ailddefnyddio hen adeilad y Spar, a hefyd yn adeiladu estyniad tri llawr.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu pum uned fusnes sydd ar gael i artistiaid a phobol greadigol eraill eu rhentu, a gofod croesawu gyda gwybodaeth am yr ardal leol.

Ar hyn o bryd, mae fflat ar gyfer tenant lleol Partneriaeth Ogwen ar y llawr cyntaf, a honno’n cael ei chynnal a’i chadw.

Mae’r gofod drws nesaf i’r Spar hefyd yn cael ei ddefnyddio gan BT ar gyfer swyddfa docynnau.

Byddai’r cynllun yn ymgorffori fflat hunangynhaliol ar gyfer preswylydd lleol, sy’n ei defnyddio ar hyn o bryd, a byddai’n cynnwys datblygu gweithdy i bobol greadigol ei ddefnyddio, neu fel ystafell amlbwrpas i’w llogi.

O fewn adeilad newydd, byddai canolfan groeso a threftadaeth yn cael ei chreu, gyda byrddau dehongli, gwybodaeth i dwristiaid ac ardal arddangosfeydd.

Mae bwyty neu ofod arlwyo sy’n agor allan i ardaloedd allanol â seddi awyr agored hefyd yn cael ei gynnig ar y safle 750 metr sgwâr.

Byddai arddull yr adeilad yn adlewyrchu’r deunyddiau yn yr ardaloedd lleol, ac yn ymgorffori waliau brics a cherrig, a thoeon llechi.

Dywed y cynlluniau mai’r gobaith yw y byddai’r datblygiad yn cynnig “cyfle i greu ased fasnachol a diwylliannol” ar Stryd Fawr Bethesda.

Y gobaith hefyd yw y byddai’r ganolfan ddiwylliannol yn helpu i ddenu mwy o dwristiaeth i ganol Bethesda.

Partneriaeth Ogwen

Yn wreiddiol, roedd Partneriaeth Ogwen yn gydweithrediad rhwng Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clerc i’r tri chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.

Yn ôl y wefan, ers ei sefydlu yn 2013, mae Partneriaeth Ogwen wedi agor swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda.

Maen nhw hefyd yn rheoli eiddo, gan gynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen.

Maen nhw hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol ac wedi arwain ar ddatblygu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.