Mae Liz Saville Roberts wedi ychwanegu ei llais at yr ymgyrch i labelu cig Cymreig yn well wrth siopa ar-lein.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth i’w phlaid ymgyrchu i wneud dewis cig Cymreig yn haws wrth siopa am fwyd ar-lein.

Mae Llŷr Gruffydd, llefarydd amaeth Plaid Cymru, yn galw am osod rheoliadau sy’n gorfodi archfarchnadoedd i alluogi siopwyr i ddewis bod eu cig yn dod o Gymru wrth siopa ar-lein.

Mae hefyd eisiau gweld gwasanaethau siopa bwyd ar-alw yn labelu’n glir o le mae eu cig yn dod.

Dywed Liz Saville-Roberts fod y rheolaeth dros darddiad cig “wirioneddol angen ei gwestiynu”.

“Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod mwy a mwy o bobol yn prynu bwyd ar-lein,” meddai wrth golwg360.

“Pan ydych chi’n prynu cig o rywle sy’n arbenigo mewn gwerthu cig, yn aml iawn bydden nhw’n rhoi’r dewis i chi, a fyddech chi’n gwybod yn iawn os ydych chi’n prynu cig o’r Alban neu o Gymru.

“Ond ar hyn o bryd, os ydych chi’n prynu rhywbeth fel pryd o fwyd parod, er enghraifft, trwy’r archfarchnad dydych chi jest ddim yn gwybod o le mae’r cig wedi dod.”

Wrth siopa mewn archfarchnad, gall siopwyr weld y label yn glir ar y cynnyrch ar y silffoedd, ond y pryder yw fod y gallu i weld o le mae’r cig yn tarddu yn amrywio o un wefan i’r llall.

“Os yw pobol eisiau dewis eu bod nhw’n prynu eu cig o Gymru, dylai hynny fod yn glir iawn wrth iddyn nhw brynu bwyd yn ddigidol,” meddai Liz Saville Roberts.

“Rydyn ni’n gwybod bod yna lawer iawn mwy o bobol yn prynu eu bwyd nhw’n arferol ar-lein.

“Felly, rydyn ni angen gwneud yn siŵr bod gan ffermwyr Cymru’r gefnogaeth y bydden ni’n ei ddisgwyl gan archfarchnadoedd, a bod y cyhoedd yn ymwybodol beth maen nhw’n ei brynu ar-lein hefyd.”

‘Tanseilio gwaith caled ffermwyr Cymru’

Mae Llŷr Gruffydd a Ben Lake, llefarydd amaeth Plaid Cymru yn San Steffan, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’w hannog i gyflwyno rheoliadau fyddai’n cynnig fwy o dryloywder.

Maen nhw’n dweud bod cyflwyno’r rheoliadau yn gynyddol bwysig wrth i’r Cytundeb Masnach Rydd ei gwneud hi’n haws prynu cig o Awstralia a Seland Newydd yn y Deyrnas Unedig.

Y pryder yw y bydd hyn yn cael effaith ar ffermwyr Cymru.

“Wrth brynu yn y siop, bydd llawer ohonom yn dewis cig Cymreig, sy’n aml yn hawdd ei adnabod ar y silffoedd,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Mae realiti ein bywydau prysur yn golygu bod mwy a mwy yn dewis siopa ar-lein, lle mae diffyg system hidlo hawdd yn golygu nad yw hi mor hawdd dewis cig Cymreig.

“Mae hyn yn tanseilio gwaith caled ffermwyr Cymru sy’n ymfalchïo mewn cynhyrchu cig o’r safon uchaf.

“Drwy gyflwyno rheoliadau newydd sy’n gorfodi archfarchnadoedd i’w gwneud yn bosibl hidlo cig yn hawdd fesul gwlad wreiddiol, gallwn rymuso siopwyr i gefnogi ffermwyr lleol a chryfhau’r sector amaethyddol yng Nghymru.”

“Gorfodwch archfarchnadoedd i’w gwneud hi’n hawdd dewis cig Cymreig”

Daw’r alwad gan Blaid Cymru ar ddechrau Sioe Llanelwedd