Stephen Cunnah yw Rheolwr Polisi a Materion Allanol Sustrans Cymru, sy’n hybu seiclo fel dull cynaliadwy o deithio ac o gysylltu cymunedau â’i gilydd. Yma, mae’n trafod y terfynau cyflymder o 20m.y.a. fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Medi, ei brofiadau personol o fyw yn un o’r parthau cyntaf o’r math yma yng Nghaerdydd ac fel tad i ddau o blant sydd wedi’i wreiddio yn ei gymuned.


Cyn 2017, nid oeddwn wedi rhoi llawer o ystyriaeth i derfynau cyflymder 20m.y.a. Newidiodd hynny pan gyflwynodd Cyngor Caerdydd barth 20m.y.a. yn Nhreganna, yr ardal lle rwy’n byw.

Rwy’ wedi treulio’r chwe blynedd ddiwethaf yn byw mewn cymuned 20m.y.a. efo fy nheulu ifanc fy hun, yn ogystal â chael sgyrsiau cyson efo cymdogion, ffrindiau, a rhieni eraill yn gwrando ar, ac yn dysgu oddi wrth eu profiadau.

Rwy’ wedi bod yn seiclwr brwd a hyderus am sbel, ond ers 2017 mae dau blentyn gyda fi ac mae hyn wedi newid fy ngolwg ar bethau’n sylweddol. Pan ddes i’n gyfrifol am edrych ar ôl dau o blant ifanc a bregus, cefais ganfyddiad cryfach o berygl. Mae plant yn arddangos ymddygiad lot mwy peryglus oherwydd maen nhw’n dal i ddysgu am y byd a sut maen nhw’n rhyngweithio ynddo.

Gwn i o brofiad pa mor ofnus ydyw i gael plentyn bach yn strancio ar ochr heol brysur! A hyd yn oed wrth iddyn nhw dyfu i fyny, mae peryglon yn parhau – rwy’n cofio pobol yn fy nheulu i’n cael eu hanafu ar heolydd lle tyfais i fyny yng ngogledd Cymru.

Dyna pam rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith fod fy mhlant i wedi ’nabod terfynau 20m.y.a. yn unig ar y ffyrdd o’u cwmpas wrth iddyn nhw dyfu lan.

Nid yw terfyniad cyflymder mwy tawel yn gwaredu’r holl beryglon yn gyfangwbl – does dim a all wneud hynny. Ond mae yna dystiolaeth gref sy’n dangos bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau.

Mae gwaith ymchwil gan y Transport Research Laboratory, mudiad preifat annibynnol, wedi dangos bod yna leihad cymedrol o 6% mewn gwrthdrawiadau am bob 1m.y.a. sy’n cael ei dorri mewn cyflymderau cyfartalog ar heolydd dinesig efo cyflymderau cymhedrol isel.

Rhesymau da i newid ein hymddygiad

Pan gafodd y parth 20m.y.a. ei gyflwyno’n gyntaf yn Nhreganna, arweiniodd y newid ei hun a’r angen i addasu i’r newid at hunanymwybyddiaeth o’n hymddygiadau gyrru. Rwy’n siŵr bod nifer o bobol eraill yn gyrru’n fwy gofalus ac yn fwy effro i’w cyflymder nhw pan fyddan nhw’n gyrru mewn parthau 20m.y.a.

Maen nhw hefyd wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus efo fy nheulu a’n harferion teithio ni.

Wnes i addasu fy meic efo seddi ar y blaen ac ar y cefn, a dechreuodd fy merch deithio efo fi ers iddi fod yn naw mis oed – rwy’n dal i gofio faint chwarddodd hi wrth i ni deithio o gwmpas ar y beic!

Nawr mae fy nau blentyn yn mynychu’r ysgol a’r feithrinfa, a dydw i erioed wedi teimlo’r angen i’w gyrru nhw i’r ysgol. Maen nhw’n cerdded efo fi neu eu mam, yn mynd ar feic, neu’n sgwtera i’r ysgol – nid yw’n hawdd cadw lan efo nhw!

Dros y misoedd diwethaf, mae fy mab wedi dechrau seiclo efo fi ar yr heol. Mae e’n wirioneddol fwynhau, mae’n rhoi hyder iddo i deithio’n weddol annibynnol, ac mae’n dod â ni’n agosach at ein gilydd gan wneud rhywbeth efo’n gilydd.

Addasu i 20m.y.a. fel cymuned

Yn y blynyddoedd ers i’r parth 20m.y.a. gael ei gyflwyno lle rwy’n byw, mae nifer y bobol sydd heb eu hargyhoeddi wedi bod yn eithriadol o fach.

Yn y cyfamser, rwy’ wedi synnu gan nifer y bobol sydd eisiau ehangu’r terfyniad, gwell seilwaith i’w amlygu, a mwy o weithgarwch i’w gorfodi. Mae’n ymddangos bod hyn wedi’i adlewyrchu mewn tystiolaeth ehangach hefyd, lle mae cefnogaeth gyhoeddus am derfynau is wedi cynyddu ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Mewn un astudiaeth, y gyfradd ddilysiant oedd 72% cyn, ac 80% chwe mis ar ôl, iddo gael ei gyflwyno.

Pan gafodd ei gyflwyno yn Nhreganna, roedd rhai trigolion yn siomedig na chafodd ei gyflwyno’n ddigon cyflym ar eu strydoedd nhw. Yn fy mhrofiad i, prin iawn yw’r bobol sydd eisiau cerbydau sy’n goryrru ar eu strydoedd. Maen nhw eisiau cymdogaethau sy’n fwy diogel ar eu cyfer nhw eu hunain, ond hefyd er lles y gymuned ehangach.

Heriau sy’n wynebu’r newidiadau

Ers y dechrau, y pryder mwyaf oedd y byddai pobol yn anwybyddu’r terfyniad cyflymder o 20m.y.a. Dymunodd pobl weld gorfodaeth yn fwy nag unrhyw beth arall. Roedd trigolion eisiau gweld camerâu cyflymder am derfynau 20m.y.a., rhywbeth rydym yn dal i ymgyrchu amdano.

O ran gorfodaeth bersonol, nid oedd Heddlu De Cymru’n gorfodi terfynau 20m.y.a. o gwbl yn 2017, gan ddweud bod hyn o ganlyniad i benderfyniad polisi. Mae hyn eisoes wedi newid ar ôl ymgyrchu cymunedol, ond gwyddom nad yw gorfodaeth ar ei phen ei hun yn gallu datrys popeth.

Mae’r heddlu’n dal i ddefnyddio meini prawf cyfyngedig ar ba hewlydd y bydden nhw’n darparu gorfodaeth, ac mae’r amodau yma’n diystyru llawer o heolydd dinesig. A hyd yn oed lle mae yna weithgarwch gorfodaeth dda gan yr heddlu, rydym yn dal i weld rhai gyrwyr sy’n dewis anwybyddu’r terfyniad.

Gwyddom o ddata bod terfyniad 20m.y.a. yn lleihau cyflymderau cymhedrol, hyd yn oed heb unrhyw ymyriadau eraill. Nid yw pethau’n berffaith efo’r parth 20m.y.a., a does neb yn ceisio dadlau ei fod am ddatrys pob problem, ond mae yna bethau pwysig i’w cofio.

Mae yna bryderon, sy’n hollol ddilys, efo gorfodaeth terfynau cyflymder 20m.y.a., ond ni ddylsem gymryd y rhain fel beirniadaethau o’r terfyniad ei hun. Caiff yr un problemau eu gweld o ran gorfodaeth mewn ardaloedd efo terfyniadau o 20m.y.a., 30m.y.a., 50m.y.a., neu 70m.y.a.!

Yr hyn mae eu cyflwyno yn Nhreganna wedi’i ddangos i mi, fy nheulu, a’r bobol sy’n byw yma yw fod cyflwyno terfyniad 20m.y.a. wedi golygu bod ein cymuned yn teimlo fel rhywle sy’n fwy diogel i fyw.

Gall newid fod yn rhywbeth sy’n codi ofn neu’n anodd addasu iddo weithiau, ond nid yw hyn yn rywbeth chwyldroadol – ydyn ni eisiau strydoedd mwy diogel ar gyfer ein plant neu beidio?