Mae Cymru’n allforio mwy o fwyd a diod nag erioed o’r blaen, yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig.

Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru’n werth £797m yn 2022, yn ôl Lesley Griffiths.

Roedd hyn yn gynnydd o 24.5%, neu £157m, o gymharu â’r ffigwr ar gyfer y flwyddyn gynt, ac yn uwch na’r cynnydd o 21.6% ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi’r Cynllun Arloesi Strategol yr wythnos hon, er mwyn darparu gwasanaethau cymorth busnes i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru.

Yn rhan o’r cymorth hwnnw, bydd Prosiect Helix yn cynnig cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru hyd at fis Mawrth 2025.

“Ers i’r cwmni cyswllt ymuno â’r busnes trwy Brosiect Helix mae ein trosiant wedi tyfu dros 65% ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y strwythurau technegol mwy cadarn hynny sydd ar waith,” meddai Mike Woods, Prif Weithredwr Just Love Food Company.

“Mae Prosiect Helix wedi helpu’r busnes i dyfu ac mae wedi helpu i osod sylfaen fydd yn helpu i barhau i dyfu.”

Ffrainc yn brif farchnad

Yn ôl ystadegau, Ffrainc yw’r gyrchfan gwerth uchaf o ran allforion bwyd a diod o Gymru, ar £150m.

Mae Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Almaen hefyd ymysg y cyrchfannau sydd â’r gwerthoedd uchaf ar gyfer allforion, ac yn amrywio o £145m i £151m.

Aeth gwerth £594m i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, tra aeth £203m i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Cig a chynnyrch cig oedd y categori allforio â’r gwerth uchaf yn 2022 (£265m) – 42% yn uwch na’r ffigwr ar gyfer 2021.

Yn ail roedd grawnfwyd a pharatoadau grawnfwyd, gyda chynnydd o 16% i £160m.

“Mae allforion bwyd a diod o Gymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan sicrhau bod pobol mewn llawer o wledydd dramor yn gallu mwynhau cynnyrch o ansawdd uchel o Gymru,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae sgiliau, brwdfrydedd ac angerdd y sector i ddarparu’r cynnyrch gorau posibl yn glir o’r canlyniadau heddiw.

“Rwy’n falch o allu gwneud y cyhoeddiad hwn yn Sioe Frenhinol Cymru sy’n rhoi cyfle i gwmnïau o bob cwr o Gymru arddangos eu bwyd a’u diod gwych, ac rwy’n siŵr bod ymwelwyr o bell ac agos yn mwynhau.”