Byddai annibyniaeth i Gymru’n gyfle i atal yr “awyrgylch elyniaethus gynyddol tuag at ymfudwyr”, medd ffoadur mewn llyfr newydd.
Mae’r ymgyrchydd Joseph Gnagbo yn cyflwyno’r dadleuon mewn casgliad o erthyglau gan Melin Drafod, grŵp polisi sy’n dweud bod angen llunio agenda flaengar ar gyfer Cymru annibynnol.
Fe fydd y llyfr, (Rhagor o) Ddychmygu Cymru Annibynnol, yn cael ei gyhoeddi cyn i Fil Mewnfudo Anghyfreithiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddod i rym.
Yn ôl Cyngor y Ffoaduriaid, gallai’r ddeddfwriaeth arwain at hyd at 190,000 o fudwyr yn cael eu dal neu eu gorfodi i fyw’n amddifad.
Ymysg y bobol eraill sydd wedi cyfrannu at y gyfrol, fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Naomi Hughes, sy’n aelod o Fwrdd YesCymru; yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Sioned Williams; y bardd Eric Ngalle Charles; yr hanesydd LHDTC+ Norena Shopland; y gwleidydd a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price; y cyfreithiwr Emyr Lewis; a’r actores Carys Eleri.
‘Dewis uchelgeisiol a hanesyddol’
Yn ei erthygl yn y llyfr, dywed Joseph Gnagbo bod “… cylch dieflig rhwng yr awyrgylch elyniaethus gynyddol tuag at ymfudwyr a thuedd llunwyr polisi i weithredu rheolau mudo llymach”.
“Mae Cymru drwy weithredu ei gweledigaeth o Genedl Noddfa, a gallaf gadarnhau hynny ar sail fy mhrofiad personol, yn parhau i fod yn eithriad yn y rhanbarth Ewropeaidd o ran lletygarwch,” meddai.
“Mae’r dewis hwn yn uchelgeisiol ac yn hanesyddol mewn byd lle mae cyni economaidd a phwysau cymdeithasol yn cynyddu’n barhaus ac nid yw Cymru yn eithriad yn hyn o beth.
“Tlodi plant, heneiddio’r boblogaeth, anghyfartaledd o ran mynediad at wasanaethau ysbyty ac anghyfartaledd rhanbarthol sy’n achosi ymadawiad gwledig, mae’r heriau yn niferus.”
‘Cartref i bawb’
Yn ei herthygl, dywed Naomi Hughes fod byw mewn cenedl oddefgar, deg ar frig ei rhestr o ddymuniadau ar gyfer y wlad.
“Gwlad lle nad yw lliw, rhyw, hunaniaeth, crefydd neu dim arall yn eich rhwystro nac yn cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei gyflawni neu ddylanwadu’r ffordd yr ydych yn cael eich trin,” meddai.
“Dylai Cymru fod yn gartref i bawb sy’n dewis ei wneud yn gartref iddynt a hwythau yn perthyn i’r genedl a’r genedl yn perthyn iddyn nhw.
“Hefyd, credaf yn gryf bod dyletswydd ar Gymru annibynnol i fynd i’r afael ag anghyfiawnder economaidd yn ein gwlad.
“Nid am fyw mewn gwlad ag ardaloedd lle mae dros 40% o’n bobl ifanc yn byw mewn tlodi ydw i, a dyma ble dw i’n gweld uchelgais yn graidd i’n dyfodol.
“Mae angen creu gwlad gyda chyfleoedd i’n pobol ifanc ar draws ystod o feysydd gwahanol.
“Dylem werthfawrogi’r gallu a chyfraniadau ein pobol ifanc, boed yn y byd cerddorol, ym myd y celfyddydau, gwyddoniaeth, chwaraeon neu’r byd economaidd.
“Mae gan wlad aeddfed a hyderus weledigaethau llydan o’r hyn sy’n cynrychioli llwyddiant ac mae’n rhaid i Gymru beidio â dilyn llwybrau meddwl cul sy’n cyfyngu potensial y wlad.”
‘Dyfodol iach’
Wrth siarad am y gyfrol, dywed Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod, fod yr erthyglau’n dangos “ysfa glir am ymgyrch dros annibyniaeth gynhwysol, flaengar”.
“Efallai nad oes enghraifft gliriach o greulondeb undeb y Deyrnas Gyfunol na’i pholisïau mewnfudo presennol.
“Fel mae Joseph yn dadlau mor rymus, mae cyfle gennym mewn Cymru annibynnol i lunio polisi hollol wahanol a seilir ar y gwaith sydd ar y gweill yn barod o greu Cenedl Noddfa.
“Mae’r cyfranwyr i’r gyfrol hon yn tynnu sylw yn llawer manylach at natur y goblygiadau penodol yr undeb, sy’n difrodi nid yn unig Cymru ond pob un trigolyn ohoni, sef y Cymry, yn ddiwylliannol a, dadleuir, yn foesol.
“Mae llywodraethiant presennol Cymru’n peri anghydraddoldeb cymdeithasol sydd wastad yn dyfnhau ac yn achosi tlodi a dioddefaint, sy’n galluogi hiliaeth a senoffobia, ac sy’n difrodi eiddo amgylcheddol y wlad a’i dyfodol.
“Ni fedrwn barhau fel hyn. Os cariwn ymlaen fel hyn, ni fydd na Chymru na phobol lwyddiannus, iach ar ôl lle bu hi. Yn lle hynny, yn y gyfrol hon, amlinellwn ddyfodol iach i’r wlad fach hon a’i phobol.”
- Bydd y gyfrol yn cael ei lansio ar stondin Awen Meirion ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Iau, Awst 10 am 2:30yp.