Mae achos Daran Hill, sydd wedi’i garcharu am greu a dosbarthu lluniau anweddus o blant mor ifanc â thair oed, “yn codi cwestiynau difrifol”, yn ôl cyn-Aelod o’r Senedd.
Yn Llys y Goron Casnewydd, cafodd Daran Hill, 52, ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis, a bydd yn rhaid iddo dreulio hanner ei ddedfryd dan glo cyn cael ei ryddhau ar drwydded.
Cafwyd hyd i 62 o ddelweddau anweddus, gan gynnwys wyth yn y categori mwyaf difrifol, yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Dorcyfraith Genedlaethol yn 2021.
Roedd wedi bod yn rhannu nifer o’r delweddau gyda phobol eraill dros y cyfrwng cymdeithasol Kik, sy’n ap cyffredin ar gyfer rhannu delweddau anweddus, a WhatsApp.
Clywodd y llys ei fod e wedi defnyddio’i e-bost gwaith er mwyn cofrestru ar gyfer Kik.
Roedd y rhan fwyaf o’r delweddau’n Gategori A, ac yn ymwneud â phlant saith i ddeuddeg oed.
Roedd e mewn “lle tywyll iawn”, meddai ei gyfreithwyr, a hynny yn dilyn marwolaethau ei fam a ffrind agos.
Dywedodd ei gyfreithiwr fod Hill “wedi ffieiddio” ynghylch yr hyn roedd e wedi’i wneud.
Bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am bymtheg mlynedd.
‘Cywilydd’
Roedd Daran Hill yn ffigwr allweddol fel trefnydd yr ymgyrch ‘Ie’ yn y refferendwm datganoli yn 1997, a’r ymgyrch tros ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad yn 2011.
Fe fu’n rheolwr-gyfarwyddwr Positif, cwmni oedd yn darparu cyngor i gwmnïau sy’n lobïo gwleidyddion.
Un sydd wedi ymateb i’r achos yw Nerys Evans, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Cynulliad, sydd bellach yn Gyfarwyddwraig cwmni Deryn.
“Mae hyn yn fy ngwneud i’n sâl yn fy stumog ac yn gwneud i’m gwaed ferwi,” meddai.
“Dylai’r dyn mileinig hwn, ei droseddau, ei ymddygiad, a’r bobol o’i gwmpas oedd wedi ei alluogi, ei gefnogi ac wedi cadw’n dawel amdano yng ngwleidyddiaeth Cymru a’r cyfryngau Cymreig deimlo cywilydd.
“Efallai nad ydych chi i gyd yn gwybod am ei droseddau, ond roeddech chi’n sicr yn gwybod am ei wreig-gasineb, ei fwlio a’i ymddygiad drwg ac wedi penderfynu peidio’i herio.
“Mae hyn bellach yn codi cwestiynau difrifol ynghylch pwy oedd yn gwybod beth, pryd a sut wnaethon nhw ymateb?”
‘Teimlo’n sâl i’r asgwrn’
Dywed Bethan Sayed, un arall o gyn-Aelodau Plaid Cymru o’r Cynulliad a’r Senedd, ei bod hi’n “teimlo’n sâl i’r asgwrn” o fod “wedi cael pedoffil yn fy mywyd”.
“Am wn i, mae hyn yn un arall o’r pethau does neb o fewn y sefydliad yn siarad amdano,” meddai.
“Roedd rhywun wedi trydar yn dweud nad oedd e’n mynd i ddweud wrtha’ i.
“Wel, dw i’n dal i deimlo’n ofnadwy. Dydy e ddim yn newid hynny.
“Dw i’n poeni mwy am y plant roedd e’n creu delweddau ohonyn nhw, ond dal i deimlo mor grac,” meddai wedyn, wrth ymateb i neges arall.