Mae Sosialwyr Sbaen yn rhybuddio’r blaid annibyniaeth Junts per Catalunya fod rhaid iddyn nhw weithredu’n gyfansoddiadol os ydyn nhw am gydweithio er mwyn ffurfio llywodraeth a sicrhau mai Pedro Sánchez fydd y prif weinidog.
Daeth y sylwadau gan y gweinidog María Jesús Montero yn ystod cyfweliad â gorsaf radio Cadena SER, wrth iddi ddweud bod y Sosialwyr “wedi bod yn glir erioed” eu bod nhw’n ffyddlon i’r cyfansoddiad ac y byddai gweithredu y tu allan i’r cyfansoddiad yn golygu “symud oddi wrth realiti’r Sosialwyr”.
Eu nod fel plaid yw gweithredu trwy drafodaethau, meddai, ac mae ei sylwadau wedi’u hategu gan Lywodraeth Sbaen, wrth i lefarydd ddweud fod yna “le i weithio o fewn fframwaith cyfansoddiadol yn unig”.
Ychwanegodd y llefarydd ar ôl etholiadau Sbaen ei bod hi’n “ymddangos fel pe bai trigolion Catalwnia wedi croesawu” bod yn rhaid gweithredu’n gyfansoddiadol er mwyn ceisio annibyniaeth.
‘Camgymeriad enfawr’
Yn y cyfamser, mae prif ymgeisydd Plaid y Bobol yn dweud y byddai’n “gamgymeriad enfawr” pe bai Sbaen dan reolaeth pleidiau annibyniaeth.
Daw sylwadau Alberto Núñez Feijóo wrth iddo gyfeirio at y pleidiau y byddai angen eu cefnogaeth ar Pedro Sánchez er mwyn ffurfio llywodraeth.
Un o’r ffigurau allweddol mewn unrhyw drafodaethau er mwyn ffurfio llywodraeth fyddai Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia sy’n byw’n alltud yng Ngwlad Belg ers refferendwm annibyniaeth 2017 roedd Sbaen yn ei ystyried yn anghyfansoddiadol.
Y bleidlais i ethol prif weinidog
Mae angen 176 o bleidleisiau ar y cynnig cyntaf ar unrhyw ymgeisydd i fod yn brif weinidog.
Ar hyn o bryd, byddai 122 pleidlais Pedro Sánchez, ynghyd â 31 Yolanda Díaz o blaid Sumar, saith pleidlais Esquerra, chwe phleidlais EH Bildu a phump PNV o Wlad y Basg yn cyfateb i 171 o bleidleisiau.
Mae gan Junts per Catalunya saith sedd, felly gallen nhw sicrhau’r fuddugoliaeth iddo ar y cynnig cyntaf, neu ymatal rhag pleidleisio a symud y bleidlais i’r ail rownd lle mai mwyafrif clir yn unig fyddai ei angen.
Fyddai gan Blaid y Bobol ddim digon o gefnogaeth i ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain (136), na chwaith pe baen nhw’n derbyn 33 pleidlais gan Vox ac un gan UPN, gan mai 170 yn unig o bleidleisiau fyddai ganddyn nhw.
Dydy hi ddim yn debygol y byddai plaid annibyniaeth yn eu cefnogi nhw, ac mae Carles Puigdemont wedi mynegi pryder fod cynnal trafodaethau wedi gwanhau’r mudiad annibyniaeth, gan gyfeirio’n benodol at blaid Esquerra sydd wedi bod yn barod i drafod gyda’r Sosialwyr.