Mae dros hanner y bobol yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg wedi derbyn gwybodaeth am eu gofal iechyd ar fformat nad ydyn nhw’n gallu ei ddarllen, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r ymchwil yn dangos bod un ym mhob tri o bobol ddall neu rannol ddall wedi methu apwyntiad iechyd, neu fod eu hapwyntiadau wedi cael eu heffeithio oherwydd eu bod nhw wedi derbyn gwybodaeth doedden nhw’n methu ei darllen.

Daw’r wybodaeth newydd drwy ymchwil Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobol Ddall Cymru (RNIB), ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu nawr er mwyn sicrhau gofal iechyd hygyrch i bobol ddall a rhannol ddall.

Mae’r ymchwil wedi canfod fod dros hanner yr ymatebwyr wedi derbyn gwybodaeth am eu gofal iechyd gan eu meddyg teulu (56%) neu ysbyty (54%) mewn fformat na allan nhw ei ddarllen.

Ar ben hynny, dydy meddygon teulu nac ysbytai ddim wedi holi bron i naw ym mhob deg ymatebwr am eu dewisiadau cyfathrebu.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i sicrhau bod anghenion mynediad a chyfathrebu pobol yn cael eu hateb.

‘Ddim yn teimlo’n deg’

Yn ôl RNIB Cymru, i rai, gall gohebiaeth hygyrch olygu derbyn gwybodaeth mewn e-bost neu neges destun yn hytrach na llythyr ysgrifenedig, fyddai’n golygu bod y peiriant yn gallu darllen y wybodaeth ar lafar iddyn nhw.

Mae eraill yn ffafrio derbyn llythyrau mewn ffont mwy o faint, neu ar ffurf braille.

Un sydd wedi cael trafferth wrth geisio derbyn gohebiaeth hygyrch yw Elin Williams o Eglwysbach yn Nyffryn Conwy.

Cafodd hi ddiagnosis o gyflwr llygaid dirywiol, Retinitis Pigmentosa, pan oedd hi’n ferch fach, a’i chofrestru’n ddall gyda nam ddifrifol ar ei golwg pan oedd hi’n ddeuddeg oed.

“Dw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi cael llythyr doctor neu lythyr apwyntiad neu ddiagnosis mewn fformat hygyrch,” meddai wrth golwg360.

“Does yna neb erioed wedi gofyn wrtha i’n uniongyrchol sut dw i eisiau iddyn nhw gyfathrebu efo fi.

“Mae o’n rywbeth dw i’n gorfod gofyn am, ond hyd yn oed ar ôl gofyn dydy o ddim wastad yn cael ei ddarparu.

“Yn anffodus, yn fwy aml na pheidio, mae o’n dod mewn fformat cyffredin.

“Dw i’n gorfod mynd ar eu hôl nhw’n aml i wneud yn siŵr eu bod nhw’n rhoi’r wybodaeth yn hygyrch i fi.

“Dydy o ddim yn teimlo’n deg iawn, oherwydd mae gwybodaeth iechyd yn un o’r pethau mwyaf personol a chyfrinachol all rhywun ei gael.

“Oherwydd bod y pethau yma ddim yn cael eu darparu mewn ffyrdd hygyrch, ti’n gorfod rhoi’r cyfrinachedd yna i ffwrdd fel person efo nam golwg.

“Mae o mor syml, ond eto i’r Llywodraeth neu i’r Gwasanaeth Iechyd mae o i’w weld yn lot fwy cymhleth nag ydy o.

“Rydan ni yn 2023, a dydyn ni dal heb wneud llawer o gynnydd yn y defnydd o’r ffyrdd gwahanol yma o dderbyn y wybodaeth, sy’n warthus, yn enwedig yn y byd digidol sydd ohoni.”

Diffyg datblygiadau technolegol yn y Gymraeg

Eglura Elin Williams fod ei rhieni neu ffrindiau fel arfer yn gorfod rhannu’r wybodaeth gan nad oes technoleg iaith Gymraeg sy’n gallu sganio’r testun a’i ddarllen yn uchel.

“Mae yna apiau ar gael rŵan ble ti’n gallu sganio dogfennau, ond wrth gwrs dydy hynna ddim ar gael yn y Gymraeg,” meddai.

“Fysa ti’n meddwl dyddiau yma bysa yna rywbeth ar gael yn y Gymraeg, ond nac oes.

“Maen nhw bach ar ôl eu hamser yn cynnwys yr iaith Gymraeg mewn apiau fel hyn.

“Mae yna lot o waith i’w wneud.”

Yn yr adroddiad, mae RNIB Cymru yn egluro bod hyn yn rwystr i ofal ond hefyd yn gost i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wrth i bobol fethu apwyntiadau.

Yn ôl amcangyfrifon, mae pob apwyntiad claf allanol, neu apwyntiad meddyg teulu, sy’n cael ei golli yn costio tua £160 yr un i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

‘Angen gwell ystyriaeth o hawliau pobol anabl’

Er mwyn gwella’r mater, mae Elin Williams yn teimlo bod angen gwell cyfathrebu rhwng gwasanaethau a phobol efo nam golwg.

“Mae angen iddyn nhw ofyn be ydyn ni angen a be ydy’r ffordd orau o gysylltu efo ni, oherwydd dydy o ddim yn fater o ffeindio un fformat a bod hwnna’n gweithio i bawb,” meddai.

“Mae gan bawb anghenion gwahanol.

“Ond yn gyffredinol, mae angen gwell ystyriaeth o hawliau pobol anabl.

“Mae yna lot o waith fysa’r Llywodraeth a’r Gwasanaeth Iechyd yn gallu ei wneud gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod yr hawliau yma’n gallu cael ei wneud yn realiti.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.