Mae Heddlu’r De yn cynnal adolygiad fforensig i lofruddiaeth pâr priod gafodd eu llofruddio 30 mlynedd yn ôl.

Cafodd Harry a Megan Tooze eu darganfod wedi’u saethu’n farw yn eu ffermdy yn Llanhari ar Orffennaf 26, 1993.

Mae’r llu yn gweithio ochr yn ochr â’r gwyddonydd fforensig, Dr Angela Gallop.

Pwrpas yr adolygiad yw gweld a oes yna botensial ar gyfer gwneud rhagor o brofion fforensig gan ddefnyddio’r technegau diweddaraf.

Dywed y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis eu bod nhw’n gobeithio y bydd technegau fforensig modern yn gallu dod â rywfaint o gyfiawnder i’r ddau.

“Mae’r wythnos hon yn nodi 30 mlynedd ers llofruddiaethau Harry a Megan Tooze, achosion sydd dal heb eu datrys,” meddai.

“Fel sy’n arfer gyda’r math yma o adolygiadau, dydy hi ddim yn bosib rhoi sicrwydd y bydd datrysiad.

“Mae teulu Harry a Megan wedi cael gwybod am ein gwaith, a byddwn ni’n rhoi diweddariadau iddyn nhw.”

Yr achos

Ar Orffennaf 26, 1993, fe wnaeth Harry a Megan Tooze adael y fferm i ’nôl eu pensiynau yn Llanhari, a chawson nhw eu gweld yn dychwelyd am 11 o’r gloch y bore hwnnw.

Tua 1:30yp, clywodd y cymdogion sŵn saethu ddwywaith, ond doedd hynny ddim yn beth anarferol gan eu bod nhw ar fferm.

Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i’w merch geisio ffonio’r fferm a methu cael ateb.

Aeth swyddogion yr heddlu i’r fferm, a dod o hyd i gyrff ei rhieni mewn sied wartheg.

“Mae’r achos hwn wedi effeithio nifer o bobol dros y blynyddoedd ac ein nod ydy dod o hyd i atebion i’r cwestiynau am eu marwolaethau sydd dal heb eu hateb ar ôl 30 mlynedd,” meddai Mark Lewis.

“Hyd yn oed wedi’r holl amser, dw i’n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y llofruddiaethau i ddod ymlaen a siarad gyda’r heddlu.”