Bydd Pentref Garddwriaeth newydd yn cael ei sefydlu yn y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf.

Cafodd cynlluniau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer Adran Arddwriaeth newydd eu rhannu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd heddiw (Gorffennaf 25).

Bydd y pentref yn “dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru”, gan gynnwys tyfu cymunedol a masnachol, a chystadlaethau ac arddangosfeydd garddwriaethol.

Ynghyd â hynny, bydd yr adran yn hyrwyddo buddion iechyd a buddion cymdeithasol garddio a’i fwriad fydd ysbrydoli, addysgu a hybu cydweithredu.

Gweledigaeth

Yn ystod y lansiad amlinellodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, y weledigaeth newydd ar gyfer y Pentref Garddwriaethol.

Bydd yr ardal yn cynnwys llwyfan ar gyfer sgyrsiau, lle i stondinau i arddangos, a gofod cystadlu, eglurodd.

“Rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â’r cynlluniau hyn ac rydym am i’r lle fod yn gynhwysol ac i apelio at bawb, o deuluoedd i dyfwyr masnachol,” meddai Aled Rhys Jones.

“Rydym yn dal yng nghyfnodau cynnar datblygu’r cysyniad hwn ac rydym yn gweld hyn fel prosiect cydweithredol ble gall gwahanol bartneriaid cyflenwi, noddwyr a rhanddeiliaid ein helpu i gyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol hon.

“Mae arnom eisiau i’r pentref garddwriaethol newydd hwn fod yn un o destunau trafod mwyaf Sioe Frenhinol Cymru 2024.”