Mae podlediad newydd yn gobeithio llenwi bwlch a dechrau trafodaeth ynglŷn ag anableddau ymysg pobol ifanc.

Yn ôl cyflwynydd Unbalaced, y gobaith yw codi ymwybyddiaeth a gwneud i eraill sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd deimlo nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

Mae gan Cerys Davage, sy’n 21 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, nychdod cyhyrol (muscular dystrophy), a byddai hi wedi elwa ar gael trafodaeth am anableddau ymysg pobol ifanc pan oedd hi’n iau.

Er bod gwahanol fathau o nychdod cyhyrol, mae’r cyflwr yn achosi i gyhyrau wanhau’n raddol dros amser.

Bydd y podlediad yn cael ei ryddhau bob yn ail ddydd Sul, ac yn trafod sut beth yw bywyd bob dydd yn eich ugeiniau gydag anabledd.

@golwg360

Mae Cerys Davage yn lansio podlediad newydd yn y gobaith o lenwi bwlch a dechrau trafodaeth ynglŷn ag anableddau ymysg pobl ifanc Bydd y podlediad yn cael ei ryddhau bob yn ail ddydd Sul, ac yn trafod sut beth yw bywyd bob dydd yn eich ugeiniau gydag anabledd #tiktokcymraeg #cymru

♬ original sound – golwg360

‘Codi ymwybyddiaeth’

Saesneg fydd y podlediad, fydd yn holi pobol ifanc eraill sydd â gwahanol anableddau, ond mae Cerys Davage yn awyddus i greu penodau Cymraeg hefyd.

“Sa i’n meddwl bod lot o bobol ifanc yn sôn am [anabledd], yn ystrydebol dw i’n meddwl bod lot o bobol yn meddwl bod bod mewn cadair olwyn neu gael crutches neu gael anabledd jyst yn rhywbeth mae pobol hŷn yn mynd drwyddo a dyw e ddim wir yn effeithio ar bobol ifanc,” meddai Cerys Davage, sy’n gweithio i dîm digidol Boom Cymru, wrth golwg360.

“Sa i’n meddwl bod lot o bobol ifanc yn codi’u llais amdano fe, sa i’n gweld lot ar y cyfryngau amdano fe.

“Dw i’n meddwl bod yna fwlch yn y farchnad, fel petai, i gael rhywun ifanc sydd yn eu hugeiniau sydd efo anabledd ac sy’n gallu siarad amdano fo’n agored ar bodlediad.

“I godi ymwybyddiaeth, a hefyd i wneud i bobol eraill ddim teimlo ar ben eu hunain a sicrhau bod pobol yn teimlo fel bod yna gymuned allan yna.

“Ond hyd yn oed os oes dim anabledd gyda chi, a dydych chi ddim yn adnabod unrhyw un gydag anabledd, mae’n gyfle i ddysgu bach mwy amdano fo achos mae’n siŵr ar ryw bwynt yn eich bywyd byddwch chi’n dod ar draws rhywun sydd efo anabledd neu anabledd cudd.

“Mae yna lot o bodlediadau allan yna gan bobol ifanc o’m oedran i, merched, yn sôn am eu bywydau ond sa i wedi dod ar draws lot sy’n anabl ac yn gorfod delio gyda bywyd bob dydd gydag anabledd hefyd.

“Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth bach yn wahanol, a gobeithio bydd pobol yn mwynhau gwrando arno fo hefyd.”

‘Siarad dros Gymru’

Yn ystod ei harddegau, bu Cerys Davage yn gwneud rhaglen radio wirfoddol ar blatfform radio ieuenctid ar-lein oedd yn cael ei recordio yng Nghanolfan y Mileniwm.

“Dw i wedi bod eisiau gwneud podlediad ers amser hir,” meddai.

“Fe wnes i sylwi fy mod i’n dda am siarad yn fyw a siarad dros radio neu bodlediad, a bod e’n swydd, oherwydd fy nghyflwr, y bysen i’n gallu gwneud hyd yn oed pan dw i’n gwaethygu.

“Mae’r cyflwr sydd gen i’n mynd i waethygu wrth i fi fynd yn hŷn, mae rhywbeth fel cyflwyno ar y radio neu wneud podlediad yn rhywbeth fedra i gario ymlaen i wneud achos mae e’n job eistedd lawr a siarad.

“Dw i’n gallu siarad dros Gymru, felly beth well i’w wneud na phodlediad.”

‘Cysur’

Byddai cael podlediad neu drafodaeth o’r fath yn “bendant” wedi helpu Cerys Davage i wybod beth i’w ddisgwyl wrth iddi fynd yn hŷn ac wrth i’w chyflwr waethygu, ac i “wybod bod rhywun arall allan yna’n mynd drwy rywbeth tebyg”.

“Bydda i’n rhannu straeon gwahanol am bethau sydd wedi digwydd i fi, rhannu tips, cyngor i unrhyw un arall sy’n mynd drwy rywbeth fel fi,” meddai.

“Bydd rhai penodau eithaf dwfn a siarad am bethau eithaf dwys, a bydd rhai hwyl a mwy doniol. Bydd pobol yn gallu chwerthin gyda fi gobeithio.

“Bysa hynny wedi helpu fi pan oeddwn i’n iau, a dw i’n gobeithio fydd hwn yn gallu actio fel ryw fath o gysur i rywun sy’n mynd drwy rywbeth fel yna a ddim yn gwybod lle i droi.

“Mae gen i lot o bobol cŵl efo anableddau gwahanol [ar y podlediad], dyw e ddim o reidrwydd angen bod yn anabledd corfforol.

“Mae gen i gwpwl o bobol gydag anableddau’n ymwneud ag iechyd meddwl neu ryw fath o rwystr.

“Dyw e ddim o reidrwydd angen bod yn anabledd, ond rhwystr yn eu bywyd sydd efallai’n gallu actio fel ffordd o stopio nhw rhag gallu byw eu bywyd i’w lawn botensial ond dydyn nhw ddim gadael iddo fo wneud hynny.

“Rhywbeth i ysbrydoli ac ysgogi i ddweud wrth bobol nad ydy’r anabledd neu beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo yn diffinio chi fel person, ond yn hytrach mae modd byw bywyd i’w lawn botensial drwy gydweithio gyda’r anabledd neu’r cyflwr.”

  • Mae’r cyflwyniad allan nawr, a bydd penodau Unbalanced with Cerys Davage ar gael i’w ffrydio bob yn ail ddydd Sul, gyda’r cyntaf allan ar Awst 6.