Gyda’r tymor pêl-droed ar ddechrau i Wrecsam wedi iddyn nhw gael dyrchafiad i’r Ail Adran, mae Geraint Lovgreen ar fin cyhoeddi cyfrol o’i atgofion am y clwb pêl-droed dros bron i drigain mlynedd.

Cafodd y cerddor ei eni a’i fagu yn Wrecsam, ac er ei fod wedi symud o’r dref yn 13 oed i’r Drenewydd, a’i fod erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon ers dros ddeugain mlynedd, mae o wedi dilyn y clwb pêl-droed drwy’r da a’r drwg.

Ei gofnod personol o hanes y clwb yw Mae‘r Haul Wedi Dod i Wrecsam, o iselfannau’r 1960au i uchelfannau oes aur diwedd y 1970au.

Mae hyn yn cynnwys cyrraedd ail adran Cynghrair Lloegr a llwyddiannau hanesyddol yng nghwpanau Lloegr ac Ewrop.

Ac yn y mileniwm newydd, y daith o waelodion pêl-droed non-league i’r cyfnod newydd dan reolaeth y sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Oes aur newydd

Dechreuodd Geraint Lovgreen fynd i wylio gemau Wrecsam ar y Cae Ras gyda’i dad yng nghanol y 1960au.

Ers hynny mae ganddo “atgofion hapus a llai hapus” am y clwb pêl-droed sydd wedi bod mor agos at ei galon.

“Pan wnes i ddechrau gwylio Wrecsam, roedden nhw ar waelod y gynghrair,” meddai Geraint Lovgreen wrth golwg360.

“Yn 1965 wnaethon nhw orffen ar waelod y gynghrair, ond adeg hynny doedd y tîm ar y gwaelod ddim yn mynd allan o’r gynghrair.

“Be roedden nhw’n gwneud oedd cael pleidlais ar ddiwedd y tymor bob blwyddyn gyda’r clybiau eraill i gyd yn pleidleisio dros y tîm ar y gwaelod i aros yn y gynghrair neu adael.

“Wrth gwrs, roedd pawb yn pleidleisio i gadw Wrecsam mewn rhag ofn mai nhw fysa yn y sefyllfa yna y tro nesaf – the old pals act.

“Wedyn aethon nhw fyny yn y 1970au a chael llwyddiant mawr a mynd i fyny i’r hen Ail Adran, sef jest o dan y premiership heddiw.

“Roedd ennill y bencampwriaeth i fynd i fyny i’r Ail Adran yn ddiwrnod reit gofiadwy.

“Ac oherwydd eu bod nhw’n ennill Cwpan Cymru, roedden nhw’n cael chwarae mewn gemau mawr yn Ewrop.

“Roedd hi’n oes aur go iawn tua diwedd y 1970au.”

Ac er bod lwc y tîm wedi dechrau troi, daeth eto haul ar fryn wrth i Wrecsam chwarae yn erbyn Arsenal yn 1992.

“Erbyn hyn os oeddet ti’n gorffen yn y gwaelod, roeddet ti’n mynd i lawr [yn y gynghrair].

“Ond roedd yna un tymor lle roeddet ti’n cael peidio mynd i lawr.

“Felly yn swyddogol, roedden nhw’r tîm gwaethaf yn y gynghrair a ddaru nhw chwarae yn erbyn Arsenal, y tîm gorau yn y gynghrair, a oedd wedi ennill y bencampwriaeth.

“Wedyn ers 15 mlynedd maen nhw wedi bod allan o’r gynghrair yn gyfan gwbl.

“Ond dyna ni, rydyn ni’n dechrau rhyw oes aur newydd rŵan.”

Cefnogaeth drwy genedlaethau

Mae Geraint Lovgreen hefyd wedi gwahodd cefnogwyr i rannu eu hatgofion yn cefnogi’r clwb.

“Mae’r atgofion o fynd efo fy nhad wedi aros efo fi,” meddai’r awdur.

“Ti’n dechrau mynd efo dy dad ac mae’r holl beth yn perthyn i ti wedyn ac yn rhan o be wyt ti’n ei wneud efo dy fywyd.

“Mae gan un o fy meibion diddordeb mewn pêl-droed felly mae o’n mynd â’i feibion o rŵan sy’n saith ac yn bump oed, felly mae o’n cario ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth.

“Mae yna ddarn gan Penri Roberts yn y llyfr lle mae o’n sôn ei fod o’n teimlo’n euog ei fod o wedi pasio’r baich yma o gefnogi timau sy’n eithaf gwael ymlaen i’w blant.

“Ond o’r diwedd mae o’n teimlo’n fod ei blant yn cael rhywbeth da allan o’r peth.”

‘Perchnogion perffaith’

Yn ôl Geraint Lovgreen, fyddai yna ddim perchnogion gwell i’r tîm na’r sêr Hollywood.

“Maen nhw’n berchnogion perffaith, dweud y gwir.

“Dydw i ddim yn meddwl bod perchnogion cystal â nhw mewn unrhyw glwb ym Mhrydain, achos maen nhw wedi rhoi’r pres mewn ond hefyd wedi rhoi’r gefnogaeth mewn a chael y sylw byd-eang yma.

“Efo’r diddordeb sydd yn America a gwledydd eraill rŵan, mae’r pres yn dod mewn drwy werthu crysau a phobol yn dod draw i Wrecsam i weld gêm.

“Mae’r holl beth yn bizarre iawn ond lot fwy cynaliadwy na pherchennog sydd efo lot o bres yn dod mewn, sc wedyn mae’r pres yn rhedeg allan.

“Dydy’r pres ddim yn mynd i redeg allan achos mae gen ti’r cefnogwyr newydd yma o bob rhan o’r byd.

“Ond hefyd mae’r ddau [Rob a Ryan] wedi cymryd at bobol y lle ac yn cefnogi timau bach lleol.

“Maen nhw wedi syrthio mewn cariad efo’r clwb, felly maen nhw mewn yn y peth dros eu pen a’u clustiau dw i’n meddwl.”

Sengl newydd

Yn ogystal â chyhoeddi’r llyfr, bydd Geraint Lovgreen yn rhyddhau sengl dan yr enw i gyd-fynd â’r gyfrol.

Bydd y sengl yn cael ei chyhoeddi ar label Sain gyda’i grŵp, yr Enw Da, i ddathlu cyfraniad Rob McElhenney a Ryan Reynolds.

“Mae’r gân yn diolch i’r ddau am achub y clwb,” meddai.

“Wedyn mae yna glip o’r gân ‘Babi Tyrd i Mewn o’r Glaw’, lle mae yna lein yn dweud: ‘Babi, mae yna sêr yn ein gwarchod ni. Maen nhw wedi rhoi man gwyn, man draw.’

“Felly Rob a Ryan ydy’r sêr sy’n gwarchod ni rŵan.”

  • Bydd y gân a’r llyfr allan ddydd Llun, Gorffennaf 31.