Mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa pawb fydd yn mynd i fwynhau eu hunain ar y Maes, Maes B a gweithgareddau ymylol – yn enwedig yr hwyl gyda’r nos – i drefnu eu cludiant adref ymlaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

Mae trefniadau ar gyfer cludiant cyhoeddus ychwanegol ar gyfer rheini fydd yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ym mis Awst wedi eu cyhoeddi, yn dilyn cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd, trefnwyr yr Eisteddfod a’r gymuned leol.

Mae pobol yn cael eu hannog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus gymaint ag sy’n bosib, er mwyn lleihau tagfeydd yn yr ardal ac er budd yr amgylchedd.

Bws

Yn ogystal â’r gwasanaeth arferol, sef Bws Rhif 8 Pwllheli-Nefyn-Tudweiliog, bydd bysus gwennol ychwanegol yn rhedeg rhwng Pwllheli-Boduan-Nefyn (Bws 8E), ac rhwng Edern-Morfa Nefyn-Nefyn (Bws 8N), diolch i gydweithrediad â busnesau lleol yn ardaloedd Pwllheli a Nefyn.

Bydd y bysus yn rhedeg yn rheolaidd trwy’r dydd, ac mae’r amserlenni llawn ar wefan y Cyngor.

Bydd y bws arferol a’r bws gwennol yn cychwyn ac yn darfod o arosfannau bws arferol, ac mae’r manylion ar wefan TravelineCymru.

Mae modd dal cysylltiadau bws i drefi eraill yng Ngwynedd a thu hwnt o Bwllheli, ac mae’r orsaf drenau gerllaw.

Bws hwyr

Bydd tri gwasanaeth bws ychwanegol un-ffordd yn gadael Maes yr Eisteddfod am 11 o’r gloch bob nos i fynd i Nefyn (am £4), Porthmadog (ar hyd yr A497, am £5) a Chaernarfon (ar hyd yr A499, am £5).

Bydd y bysus hyn yn stopio yn llochesi bws swyddogol y Cyngor yn unig ar hyd y ffordd.

Rhaid archebu a thalu am le erbyn 12 o’r gloch canol dydd ar y diwrnod cyn teithio, a hynny drwy wefan yr Eisteddfod.

Bydd y drefn archebu yn weithredol yn fuan iawn.

Trên

Mae modd defnyddio’r gwasanaethau bws i gysylltu efo Rheilffordd y Cambrian (Gorsaf Pwllheli) neu Rheilffordd Arfordir y Gogledd (Gorsaf Bangor).

Mae modd cynllunio eich taith ar wefan Traveline Cymru.

Tacsi

Bydd safle tacsi pwrpasol wrth fynedfa’r Eisteddfod, lle gall Eisteddfodwyr ddal tacsi (cerbyd hacni) gartref neu i’w llety.

Dim ond cwmnïau tacsi sydd wedi cofrestru gyda threfnwyr yr Eisteddfod ymlaen llaw fydd â’r hawl i fod ar y safle.

Man gollwng a chasglu

Bydd man pwrpasol ar gyfer rheini sy’n cael eu gollwng neu eu casglu gan dacsi sydd wedi ei drefnu ymlaen llaw (tacsi hurio preifat), neu drwy drefniant gydag aelod o’r teulu neu ffrind.

Bydd arwyddion clir i gyfeirio gyrwyr o’r ffordd fawr.

Mae’r Cyngor yn galw ar fodurwyr i beidio gollwng na chodi pobol oddi ar y ffordd fawr.

‘Pawb yn cyrraedd adref yn saff’

Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Amgylchedd, wrth gael hwyl yn yr Eisteddfod mae’n bwysig gallu cyrraedd adre’n saff ar y diwedd.

“Mae cymaint o edrych ymlaen at yr Eisteddfod a’r holl hwyl fydd gan yr ŵyl i’w gynnig,” meddai.

“Ynghanol y miri, y peth pwysicaf oll ydi fod pawb yn cyrraedd adref yn saff ar y diwedd.

“Dwi’n erfyn ar bobol i wneud eu trefniadau o flaen llaw, yn enwedig os ydych yn bwriadu mwynhau’r cyngherddau, gigs a sioeau eraill fin nos.

“Mae llawer o opsiynau ar gael, gyda bysiau ychwanegol a mannau pwrpasol ar gyfer rheini sy’n cael pas adref.

“Rydw i’n ddiolchgar dros ben i fusnesau lleol sydd wedi ein cefnogi i fedru darparu’r bysys ychwanegol.”