Mae Daniel Jones, drymiwr y band Wigwam, bellach yn bencampwr dawnsio’r byd, ac mae o a’i frawd Morus hefyd wedi ennill y drydedd wobr mewn cystadleuaeth i ddeuawdau ym Mhortiwgal.

Graddiodd Daniel Jones, sy’n 22 oed, mewn ffisiotherapi ym Mhrifysgol Birmingham y llynedd.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dal yn byw yn Birmingham, lle mae’n gweithio mewn ysbyty.

Mae Morus Jones yn 17 oed, a newydd gwblhau ei arholiadau Uwch Gyfrannol yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, lle bydd yn mynd i mewn i Flwyddyn 13 ym mis Medi.

Mae’r brodyr wedi bod yn cystadlu gyda’i gilydd mewn deuawd ers blynyddoedd, ac hefyd yn erbyn ei gilydd fel unigolion.

Dangos traddodiad Cymreig i’r byd

“Mae’n neis gallu dangos i’r byd ein traddodiad ni yng Nghymru fach o ddawnsio gwerin, a bod dawnsio gwerin wedi dod i’r brig ar ben yr holl fathau o ddawnsio eraill o wledydd gwahanol yn fraint,” meddai Daniel Jones wrth golwg360, ac yntau’n angerddol am ddawnsio gwerin ac am ei rhannu hi â’r byd.

Mae hefyd ar ben ei ddigon o gael y drydedd wobr yn y gystadleuaeth i ddeuawdau gyda’i frawd.

Doedd Daniel Jones ddim yn disgwyl ennill o gwbl, meddai, ac roedd y fuddugoliaeth yn siom ar yr ochr orau.

“Hwn yw’r tro cyntaf i ni fynd allan i gystadlu yng Nghwpan Dawns y Byd,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl cael unrhyw wobr o gwbl, i fod yn onest.

“Roedd dod ’nôl gyda’r wobr aur ac efydd yn rywbeth doeddwn ddim wedi disgwyl.

“Mae dawnsio gwerin yn draddodiad sy’n rili pwysig i ni fel Cymry.

“Mae rhaid i ni weithio’n galed i gadw’r traddodiad yn mynd.

“Mae rhaid i ni rannu fe ar draws Cymru gymaint ag yr ydym yn gallu, trio dod â’r ieuenctid mewn i’r traddodiad, a gwneud yn siŵr ei fod am barhau am flynyddoedd i ddod.

“Mae wedi rhoi Cymru ar y map ychydig bach yn cystadlu ym Mhortiwgal.

“Mae pobol efallai wedi clywed am Cymru am y tro cyntaf a wedi dysgu am ein diwylliant ni a gweld ein dawns traddodiadol ni.

“Mae e’n arbennig i allu rhannu hwnna.

“Mae pawb yn adnabod dawnsio Gwyddelig.

“Mae’n bwysig gallu rhannu bod gennym ni’r math yna o ddawnsio hefyd.”

Hyfforddi i ddawnsio gwerin

Ac yntau’n gwneud dawnsio gwerin ers blynyddoedd maith, mae Daniel Jones yn pwysleisio bod ochr bositif iddi o ran ffitrwydd a chymdeithasu.

“Fi wedi bod yn dawnsio gwerin efo adran Bro Taf ers roeddwn yn saith mlwydd oed,” meddai.

“Ers ymuno gyda Bro Taf, rwy’ wedi gwneud gymaint mwy o ffrindiau ar draws Caerdydd ac ar draws Cymru.

“Mae e’n ffordd rili da o allu cymdeithasu.

“Mae e’n ffordd dda i fi gadw lan gyda fy ffitrwydd.

“Rwy’n gwneud llawer o ffitrwydd, yn chwarae rygbi a phêl-droed.

“Mae’r clocsio yn helpu gyda hwnna hefyd.

“Mae’r elfen o gystadlu a pherfformio o flaen cynulleidfa yn dod â theimlad anhygoel, boed yn gystadleuaeth neu ddigwyddiad byw arall.”

Yn ôl Daniel Jones, mae ennill fel brodyr “wastad yn deimlad da, ac mae gwneud hynny ar blatfform rhyngwladol yn deimlad anhygoel rili”.

Wigwam

Ac yntau’n adnabyddus am chwarae’r drymiau i Wigwam, dechreuodd Daniel Jones ac aelodau eraill y band chwarae yn eu dyddiau ysgol uwchradd, ac mae’r band yn mynd o nerth i nerth.

“Criw o ffrindiau ddaeth at ei gilydd,” meddai am sefydlu’r band.

“I ddechrau, jyst i wneud one-off gig oedd o, digwyddiad cymdeithasol yn y chweched.

“Gwnaethon i gyd fwynhau chwarae gyda’n gilydd, jamio.

“Digwyddiad cymdeithasol yng Nghlwb Ifor Bach oedd o.

“Gwnaethon ni benderfynu cario ymlaen, dal ati gydag ymarfer, wedyn gwnaethon ni ddechrau ysgrifennu cerddoriaeth efo’n gilydd.

“Erbyn hyn, rydym wedi rhyddhau albwm a phedair sengl.

“Mae’n sengl ddiweddaraf ni, ‘Billy’, allan ers pythefnos nawr, ac mae ar bob platfform.

“Mae hefyd fideo cerddoriaeth allan i gyd fynd gyda’r sengl, mae hwnna allan ar YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol i gyd.

“Rydym dal i berfformio, dal i chwilio am gigs, dal i recordio ac rydym yn gobeithio rhyddhau EP erbyn diwedd y flwyddyn nawr.”