Mae Noson Lawen, y sioe adloniant ysgafn sydd wedi rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop, wedi cyrraedd carreg filltir fawr arall.

Mae’r rhaglen bellach wedi cael ei gwylio ddeg miliwn o weithiau ar ei sianel YouTube.

Fe wnaeth y rhaglen ddathlu ei phen-blwydd yn ddeugain oed y llynedd – dim ond Rhaglen Silvio Santos ym Mrasil sydd wedi bod yn rhedeg am fwy o amser na hi, a honno wedi bod yn cael ei darlledu’n barhaus ers 1963.

Dros y blynyddoedd, mae Noson Lawen wedi rhoi hwb i yrfaoedd newydd rhai o sêr disgleiriaf a mwyaf Cymru, gan gynnwys perfformwyr fel Katherine Jenkins a Bryn Terfel.

Yn y dyddiau cynnar, byddai’r rhaglen yn cael ei recordio mewn ysguboriau fferm, gyda’r artistiaid yn perfformio ar drelars amaethyddol a’r gynulleidfa yn eistedd ar fyrnau gwellt.

Y dyddiau hyn, mae’r gynulleidfa yn eistedd ar seddi cyfforddus mewn theatrau, stiwdios teledu a neuaddau ledled Cymru.

Er bod gwedd a naws y rhaglen wedi newid, mae’r fformat wedi aros yr un fath i raddau helaeth, gan roi llwyfan i nifer di-ri o ddoniau Cymreig, gyda chantorion, corau, cerddorion a chomediwyr yn cyflwyno adloniant o’r radd flaenaf.

Ers 2007, mae Noson Lawen wedi’i chynhyrchu gan y cwmni cynhyrchu nodedig o Gaernarfon, Cwmni Da.

Yr eitemau mwyaf poblogaidd

Cafodd y sianel YouTube ei sefydlu degawd yn ôl, er mwyn sicrhau bod y caneuon sy’n cael eu canu ar y rhaglen ar gael i gynulleidfa ehangach.

Yn ôl y cynhyrchydd Olwen Meredydd, fideo mwyaf poblogaidd y sianel yw Dafydd Iwan yn canu ei anthem enwog, ‘Yma o Hyd’, sydd wedi cael ei gwylio 350,000 o weithiau.

Y fideo cyntaf ar y sianel oedd y tenor operatig Aled Hall o Bencader, Sir Gaerfyrddin yn canu’r gân, ‘Noson Fel Hon’.

Y gân sydd wedi’i threfnu amlaf gan artistiaid amrywiol yw ‘Anfonaf Angel’ gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn sydd wedi cael ei pherfformio droeon dros y blynyddoedd.

Fersiwn y tenor Rhys Meirion yw’r mwyaf adnabyddus o bell ffordd, ac mae wedi cael ei gwylio dros 250,000 o weithiau.

Ymhlith y ffefrynnau eraill ar y sianel YouTube mae ‘Y Weddi’, ‘Ysbryd y Nos’ a’r gân serch enwog deimladwy, ‘Myfanwy’.

Helpu i ddatblygu talent a sicrhau cynulleidfa

“Mae pob rhaglen Noson Lawen yn cynnwys naw cân ac mae’r rhain i gyd yn cael eu rhoi ar sianel YouTube, felly bydd pob cyfres yn gweld tua 100 o ganeuon yn cael eu hychwanegu,” meddai Olwen Meredydd.

“Mae llawer o’r rhain gan gantorion a grwpiau addawol ac rydym yn teimlo ei fod yn helpu i ddatblygu eu talent a rhoi cynulleidfa ehangach iddynt.

“Mae sianel YouTube Noson Lawen hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn strategaeth S4C i estyn allan a dod o hyd i gynulleidfaoedd newydd ar lwyfan digidol. Mae’n un o’r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd!

“Mae’n amlwg o’r sylwadau ar y sianel YouTube bod llawer o’r bobol sy’n gwylio’r fideos yn ddi-Gymraeg yn byw y tu allan i Gymru ac sydd ddim yn wylwyr cyson ar S4C.”

Cyfres newydd

Mae tîm cynhyrchu Cwmni Da newydd orffen ffilmio’r gyfres nesaf o Noson Lawen fydd yn cael ei darlledu yn yr hydref.

Bydd yn cynnwys rhaglenni sy’n amlygu doniau’r rhai sy’n hanu o siroedd Môn, Conwy a Dinbych.

Bydd rhaglen hefyd yn cynnwys caneuon y diweddar Alun ‘Sbardun’ Huws, gyda threfniannau arbennig o rai o’i ganeuon mwyaf adnabyddus yn cael eu perfformio gan Bryn Fôn, Pedair, Elidyr Glyn a Lleucu Gwawr.

Bydd rhaglen arall yn y gyfres yn dathlu’r Nadolig, gyda chast rhaglen arall ar S4C, y gyfres sebon boblogaidd Rownd a Rownd.

“Rydym yn hynod falch o gario’’r fflam ar ran rhaglen deledu mor enwog â Noson Lawen,” meddai Llion Iwan, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Da.

“Mae’n gyfres eiconig ac yn rhaglen sy’n apelio at bobl o bob cefndir a phob oed.

“Tra bod edrychiad y sioe wedi esblygu, mae’r tîm yma yn Cwmni Da wedi llwyddo i gadw hanfod hudolus y fformat i sicrhau ei fod yn parhau mor boblogaidd ag erioed gyda’r gynulleidfa draddodiadol.

“Ond yn fwy na hynny mae Noson Lawen nawr hefyd yn estyn allan i wylwyr newydd ac mae wedi llwyddo i gael ei gwylio hyd at ddeg miliwn o weithiau ar ein sianel YouTube yn llwyddiant anhygoel.

“Mae’r ffaith mai Noson Lawen yw’r ail raglen adloniant ysgafn mwyaf hirhoedlog sy’n cael ei darlledu unrhyw le yn y byd ar hyn o bryd yn dyst i’w phoblogrwydd parhaus. Hir y parhao!”

Dywed Elen Rhys, Pennaeth Adloniant S4C, fod y sianel “mor falch o’r gyfres hon”.

“Dyma un o frandiau mwyaf poblogaidd a chyfarwydd y sianel sy’n rhoi llwyfan i ddoniau cyfarwydd a newydd ledled Cymru,” meddai.

“Mae’r newyddion hyn yn wych ac yn adnodd mor bwysig i Gymru a thu hwnt.”