Bydd prosiect cerddorol newydd yn anelu at gysylltu cymunedau Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot gyda’u hanes a’u treftadaeth.
Nod y cynllun fydd gwneud hynny drwy archwilio traddodiad cerddoriaeth werin Cymru er mwyn ysbrydoli caneuon newydd sy’n adrodd straeon am fywyd cyfoes.
Mae Trac Cymru, sefydliad celfyddydau gwerin cenedlaethol Cymru, wedi derbyn cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynnal y prosiect, ‘Cân y Cymoedd’.
Fel bwrdeistrefi sirol cymharol newydd a gafodd eu hailddiffinio’n helaeth gan ail-gyflunio ardaloedd egwyddor awdurdodau lleol ym 1996, mae Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot yn wynebu’r her o dynnu ymdeimlad unedig o hunaniaeth hanesyddol at ei gilydd o fewn eu ffiniau presennol, medd Trac Cymru.
Mae ‘Cân y Cymoedd’ yn ceisio mynd i’r afael â hyn drwy gydweithio â nifer enfawr o ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws y cymoedd dros nifer o flynyddoedd, gan ddarparu cyfleoedd newydd i ymchwilio i straeon treftadaeth eu hardaloedd.
Gyda chymorth tîm o arbenigwyr a gwirfoddolwr bydd y grwpiau’n mynd ar daith ymchwil fanwl gan ymweld â safleoedd treftadaeth lleol ac amgueddfeydd yn eu hardaloedd.
Bydd yr ymweliadau’n helpu i ddatgelu straeon a chaneuon cynhenid, a gan weithi â cherddorion byddan nhw’n cael eu hannog i gyfansoddi a pherfformio caneuon gwerin fodern yn seiliedig ar eu hymchwil.
Fe fydd y caneuon terfynol yn cael eu rhyddhau ar albwm.
‘Hanes cryf o draddodiad’
Y gymuned gyntaf yn Rhondda Cynon Taf i gymryd rhan fydd pentref Ynysboeth yng Nghwm Cynon, lle bydd Trac Cymru yn gweithio gyda’r ysgol gynradd leol a thrigolion hŷn yng nghanolfan gymunedol Feel Good Factory.
Dywedodd Nina Finnigan, gweinyddwr y ‘Listening Project Programme’ yn y ganolfan: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect newydd arloesol ‘Cân y Cymoedd’, sef prosiect newydd arloesol Trac Cymru a fydd yn dod â cherddoriaeth werin, y gorffennol a’r presennol yn fyw, o’n hardal.
“Mae gan Gwm Cynon hanes cryf o draddodiad a diwylliant, ac rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio cerddoriaeth i gysylltu ein cymunedau ar draws y cenedlaethau.”
‘Amddifadedd ariannol a chyfleoedd’
Yng Nghastell-nedd Port Talbot bydd rhan o’r cynllun yn cael ei gynnal ym mhentref Cwmgors.
Bydd y gweithdai yno’n cael eu cynnal yng nghanolfan gymunedol newydd Hwb y Gors, sy’n cael ei datblygu o fewn hen adeilad ysgol gynradd gan yr elusen gymunedol Awel Aman Tawe.
Dywedodd Louise Griffiths, swyddog ymgysylltu Awen Aman Tawe bod gallu cynnig cyfle i’n cymuned fod yn rhan o brosiect Trac Cymru “mor gyffrous”.
“Rydym yn byw mewn ardal nid yn unig o amddifadedd ariannol ond hefyd amddifadedd cyfleoedd.
“Mae pobol naill ai’n gorfod teithio neu golli allan ar gymaint o weithgareddau diwylliannol ond eto mae’r awydd a’r dalent yn doreithiog.
“Mae gan y gymuned hon dreftadaeth gyfoethog o gerddoriaeth a chân draddodiadol Gymreig, a byddai’n hyfryd gweld hyn yn ffynnu eto gyda bywyd modern newydd gyda phob oedran a gallu yn cydweithio.”