Me bron i hanner miliwn o lyfrau a thocynnau llyfr wedi cael eu rhoi i blant yng Nghymru fel rhan o gynllun i annog darllen.

Wrth i wyliau’r haf ddechrau, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi rhoi bron i 300,000 o lyfrau i blant am ddim, a 170,000 o docynnau llyfr.

Mae’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion yn darparu llyfrau a thalebau llyfrau i ysgolion, plant ysgol unigol, a chymunedau Cymreig, er mwyn sicrhau bod llyfrau ar gael i bawb.

Ers mis Ebrill 2022, mae 53,075 o lyfrau am ddim wedi’u dosbarthu i fanciau bwyd lleol a grwpiau cymunedol hefyd.

‘Hybu dychymyg’

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Cymru, bod hon yn “garreg filltir wych” i’w chyrraedd.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i danio angerdd am ddarllen,” meddai.

“Mae llyfrau yn agor y drws i sgiliau newydd, yn hybu dychymyg ac yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad plentyn.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod plant yn mwynhau darllen ac yn parhau i wneud hynny. Mae ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yn rhoi cyfle gwych i ledaenu llawenydd darllen.”

‘Cysylltu â’r gymuned’

Trwy gydol 2023, bydd pob ysgol yng Nghymru’n derbyn bocs o 50 o lyfrau fel bod disgyblion yn gallu mwynhau llyfrau newydd.

Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst newydd dderbyn eu bocs fel rhan o’r cynllun, a dywedodd llefarydd ar ran yr ysgol ei bod hi’n fraint cael yr awdur Bethan Gwanas yn ysbrydoli’u disgyblion.

“Roedden nhw wrth eu boddau yn archwilio’r ystod amrywiol o lyfrau o’n siop lyfrau leol,” meddai.

“Aethon ni â’r disgyblion hefyd i Lyfrgell Llanrwst a’r siop lyfrau Cymraeg leol. Roedd yn hyfryd gweld pob un ohonyn nhw’n dychwelyd gyda llyfr roedden nhw wedi’i ddewis gyda’u taleb.

“Roedd yr ymweliadau hyn nid yn unig yn meithrin cariad at ddarllen ond hefyd yn ein cysylltu â’r gymuned.

“Rydym wedi gallu rhannu’r llawenydd hwn o ddarllen gyda myfyrwyr o Golombia ar daith gyfnewid, yn ogystal â’n disgyblion blwyddyn 7, 8, a 9.

“Mae’r fenter hon wedi tanio diddordeb newydd mewn darllen personol ymhlith ein disgyblion.”

‘Gwelededd’ 

Prif nod ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yw annog darllen er pleser o oedran ifanc.

I ledaenu’r neges, mae’r ymgyrch wedi ennyn cefnogaeth nifer o unigolion adnabyddus o Gymru, gan gynnwys James Hook, Steffan Powell, a Bethany Davies.

Yn ei darn hi, mae pêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Jess Fishlock, yn amlygu pwysigrwydd cynrychioli cymunedau amrywiol mewn llyfrau sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc.

“Mae gwelededd gwahanol gymunedau a hunaniaethau o fewn llyfrau mor bwysig. Cefais drafferth yn yr ysgol gyda bwlio a dod i delerau â fy rhywioldeb.

“Dw i’n meddwl pe bai llyfrau wedi bod ar gael i mi bryd hynny, i’m helpu i ddeall yr hyn yr oeddwn yn ei feddwl a’i deimlo, yna efallai na fyddwn wedi mynd trwy’r hyn yr es i drwyddo.

“Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i addysgu dysgwyr am y byd o’u cwmpas, a’u harfogi â gwybodaeth am bobl o bob cefndir, mae hyn yn cynnwys cynrychioli pobl o’r gymuned LHDTC+ mewn llenyddiaeth neu hyd yn oed werslyfrau ysgol.”

‘Pwysigrwydd i iechyd meddwl’

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Cynhaliwyd ein mentrau rhoi llyfr yn anrheg yn gyntaf yng Ngheredigion a Merthyr Tudful yn ystod haf 2020 ar anterth y cyfyngiadau clo, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael gafael ar lyfrau pan oedd llyfrgelloedd a siopau ar gau, oherwydd mae darllen mor bwysig i’n hiechyd meddwl a’n lles.

“Credwn y dylai pawb gael mynediad at lyfrau, waeth beth fo’u gallu i’w fforddio.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg am rannu’r weledigaeth hon ac am ariannu Caru Darllen Ysgolion er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn mewn ysgol wladol yng Nghymru lyfr eu hunain.

“Hoffem weld rhoddion llyfrau i ysgolion yn dod yn weithgaredd rheolaidd ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru.”