Fis Awst bob blwyddyn, mae digrifwyr yn heidio i Gaeredin ar gyfer yr Ŵyl Gomedi fyd-eang – ym mhob tywydd. Ar ôl haf mor gynnes a sioeau rhagflas mewn ystafelloedd twym, mae’r tywydd bellach yn troi ac felly mae’n bosib na fydd rhaid i’r digrifwr o Abertawe boeni’n ormodol am y gwres wedi’r cyfan…


Gas gen i ormod o wres.

“Ti wedi bod yn cwyno bod hi’n rhy oer, a wedyn ti’n cwyno bod hi’n rhy boeth!” Ydw. Rwy’n cwyno am unrhyw dywydd sy’n dechrau gyda’r gair “rhy”.

Does gen i ddim yn erbyn y rhai ohonoch sy’n cyffroi pan ddaw’r haul. Ond! Rwy’n ddigrifwr proffesiynol. Mae fy mywoliaeth i’n dibynnu ar awydd y cyhoedd i heidio i nosweithiau comedi ledled Prydain, drwy gydol y flwyddyn. Ac mae effaith yr haul ar y nosweithiau hynny yn amlwg.

Dros y mis diwethaf, daeth hi’n dymor Ymddiheuriadau’r Haf. “Ddrwg gen i orfod dy rybuddio di,” fydd dechrau’r e-bost. “Ond dydyn ni ddim wedi gwerthu cystal ag arfer.” Perfformio i 30 mewn ystafell sy’n ffitio 150! Mae hynny’n sioc i gigs yn Lloegr. Mae gigs Cymraeg yn wahanol, wrth gwrs, lle mae pob stafell gomedi naill ai’n llawn dop, neu’n cynnwys wyth person. Dim mwy, dim llai.

Ond rhaid cyfaddef – y gynulleidfa sy’n dod i wylio comedi pan fo’r tywydd yn heulog? Nhw yw’r gynulleidfa orau yn y byd. Nid fel y gweddill ohonoch, gyda’ch sbectols haul a’ch barbeciws a’ch siorts mewn gardd gwrw. Na! Y gîcs gwelw llipa, yn gadael y tŷ ar nos Sadwrn, yn dilyn diwrnod o wylio ffilm Star Wars gyda’r llenni ar gau. Fy mhobol i! Yn cuddio rhag y gwres, ond hefyd yn cuddio rhag goleuni’r haul!

Yn fuan, bydda i’n hedfan i’r Alban ar gyfer Gŵyl Gomedi Caeredin, i berfformio fy sioe newydd bron bob diwrnod ym mis Awst. “Free Standup Will Blow Your Mind” os byddwch chi’n dod. Ymddiheuraf fod y teitl yn yr iaith fain. Anodd yw cyfaddef fod yr un peth yn wir am y cynnwys.

Ond, wel – does neb erioed wedi profi gwres go iawn tan iddyn nhw eistedd yn rhai o ystafelloedd Caeredin i wylio sioe gomedi.

Mae miloedd o sioeau comedi yn rhan o’r ŵyl, heb son am sioeau theatr, cerddoriaeth, dawns, syrcas ac ati – felly rhaid dod o hyd i le iddyn nhw i gyd. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gwylio sioeau comedi mewn darlithfeydd, tafarndai, bwytai, clybiau nos, mewn pebyll dros dro, mewn siop lyfrau, a hyd yn oed ar fws! Ydych chi’n gweld y broblem? Dyw llawer o’r mannau hyn ddim yn rai cyfforddus i ffitio dwsinau o bobol ar y tro, yn eistedd ochr yn ochr, tra’n gwylio digrifwr chwyslyd yn ceisio yfed digon o ddŵr i adrodd pob joc cyn llewygu.

Rwy’ wedi bod yn weddol ffodus dros y blynyddoedd, yn perfformio mewn ystafelloedd mymryn yn fwy cyfforddus na hyn. Ond un flwyddyn – 2018 – ro’n i mewn ystafell i 60, lan llofft mewn siop anrhegion. Roedd hi’n flwyddyn lwyddiannus iawn i fi. “Free Standup Will Never Die” oedd ei theitl yng Ngharedin, ac yna “S Club Steffan” pan aeth y sioe ar daith. Peth braf yw llwyddiant, sy’n rhoi teimlad cynnes i fi. Ond rhy gynnes efallai oedd gweld pob sedd yn llawn, mewn adeilad â’i furiau perffaith i frwydro gaeafau Caeredin. Ganol haf, roedd yr ystafell yn dwymach na’r blaned Mercher. Prynon ni wyntyllau trydan. Gyda phob un ymlaen, roedd yr ystafell yn dal i fod yn llethol.

Yr unig opsiwn arall oedd agor y ffenestri. Ond dyna achosi problem arall. Am 4pm oedd fy sioe i bob dydd. Drwy agor ffenest o gwbl, byddai’r ystafell wedi’i boddi â golau ddydd. Byddai modd i fi weld i fyw llygad pob aelod o’r gynulleidfa.

Felly byddwn i’n rhoi’r dewis i’r gynulleidfa. Bob dydd, byddwn i’n cynnal pleidlais. Rhy boeth neu rhy olau? Gyda’r gwres mor ddifrifol, ro’n i’n disgwyl i bob cynulleidfa ethol ffenest agored. Ro’n i’n anghywir! Bob dydd, pleidleisiodd bron pawb i gadw’r ffenestri ynghau!

Efallai bod gwerth meddwl yn ddwys – pam bod pobol mor fodlon a pharod i doddi am awr, jyst er mwyn atal digrifwr rhag gallu eu gweld? Ai dyna mor frawychus yw digrifwr i bobol?!

Ac eto…

Wrth berfformio mewn nosweithiau comedi, fy swydd yw diddanu pawb yn yr ystafell – o bob cefndir, o bob chwaeth. Rhaid i bawb chwerthin! Wel, bron pawb. Does dim plesio rhai pobol!

Ond yng Nghaeredin – mae miloedd o sioeau. Gall cynulleidfaoedd ddod o hyd i’r sioeau sy’n eu siwtio nhw orau.

Felly roedd pawb yn fy nghynulleidfaoedd i yn bobol ddewisodd ddod i fy ngweld i, er gwaetha’r opsiynau eraill. Fy mhobol i. Y rhai, mae’n siŵr, hoffai fod yn oerach o lawer. Ond hefyd – y rhai oedd am osgoi’r goleuni.