Bydd miloedd o bobol ledled Cymru a thu hwnt yn heidio i faes y Sioe Frenhinol am bedwar diwrnod o ddathliadau amaethyddol dydd Llun (Gorffennaf 24).

Dros yr wythnos bydd maes y digwyddiad yn Llanfair-ym-muallt yn gartref i amryw o gystadlaethau, crefftau a chwaraeon o bob math.

Ond, yn fwy na hynny, yn ôl llefarydd materion gwledig Plaid Cymru mae’n gyfle i ffermwyr ddod at ei gilydd i drafod bywoliaeth a allai ar adegau fod yn un unig.

Dywedodd Llŷr Gruffydd ei fod yn gyfle “pwysig i’r diwydiant ddod at ei gilydd”.

“Mae’r flwyddyn yn hir ac mae ffermio yn waith anodd, mae o’n waith unig ac mae o’n gallu bod yn waith heriol mewn sawl ffordd,” meddai wrth golwg360.

“Felly mae’r Sioe Frenhinol yn gyfle i unigolion a theuluoedd a chymunedau i ddod at ei gilydd a rhannu profiadau ac i siarad.”

‘Denu cynulleidfa ehangach’

Ynghyd â bod yn gyfle gwerthfawr i gymdeithasu, dywedodd bod y sioe yn dod a buddiannau ariannol sylweddol i economi cefn gwlad.

Er i’r sioe fod yn adnabyddus am ei ffocws amaethyddol, dywedodd bod bron i hanner rheiny sydd yn mynychu’r sioe o gefndiroedd sydd ddim yn gysylltiedig â’r diwydiant.

“Mae’r sioe yn bwysig ar sawl lefel, wrth gwrs mae’n dod â degau o filiynau o bunnoedd i mewn i’r economi wledig yng nghanolbarth Cymru,” meddai.

“Fel digwyddiad, mae’n denu rhyw 220,000 o ymwelwyr bob blwyddyn a 40% o rheiny â dim cysylltiad â’r diwydiant amaeth.

“Felly mae’n bwysig fel llwyfan er mwyn sicrhau bod cynulleidfa ehangach yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad pwysig mae ffermio yn ei wneud yng nghefn gwlad Cymru ac yn wir yng Nghymru yn gyffredinol.”

Fel llefarydd materion gwledig, dywedodd Llŷr Gruffydd bod hefyd y sioe hefyd yn gyfle i “gwrdd â nifer fawr o rhanddeiliaid mewn un man.”

“Rydw i’n cyffroi bob blwyddyn ac mae’r flwyddyn rhwng bob sioe yn teimlo’n hir yn aml iawn,” meddai.

“Rydw i wedi derbyn gwahoddiadau i fod yn rhan o sgyrsiau a fforymau a chyfarfodydd gyda phob math o rhanddeiliaid yn y sector.

“Felly, mae’n bwysig ar sawl lefel ac mae’n sicr yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i fi fel y mae i nifer o bobol eraill sy’n byw mewn ardaloedd trefol a gwledig.”