Mae’r ymgyrch rheilffordd Traws Link Cymru yn pryderu na fydd sawl un yn gallu cyrraedd maes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ar drên eleni.

Maen nhw wedi adnewyddu’r alwad i ailgyflwyno mwy o linciau rheilffyrdd ar draws gogledd a gorllewin Cymru.

Eu pryder yw y bydd yn rhaid i filoedd o ymwelwyr ddefnyddio ceir, bysus a thacsis i gyrraedd y maes gan fod yr orsaf drên agosaf pedair milltir i ffwrdd ym Mhwllheli.

Bangor yw’r ail orsaf drên agosaf, sydd 30 milltir i ffwrdd o Foduan.

Does dim trenau yn rhedeg yn uniongyrchol rhwng Bangor, Caernarfon a Pwllheli wedi i’r lein rhwng Caernarfon ac Afonwen gau yn ôl yn 1964.

Yn yr un modd, mae’r daith o Aberystwyth i Bwllheli, er enghraifft, yn cymryd oddeutu tair awr a hanner ar drên ond dim ond tuag awr a thri chwarter mae’n ei gymryd yn y car.

Deiseb yn arwain at drafodaeth bellach?

Yn ddiweddar, llwyddodd deiseb oedd yn galw am ailagor y rheilffordd rhwng Bangor, Caernarfon ac Afonwen yn ogystal â’r rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin i ddenu dros 11,000 o lofnodion mewn ychydig fisoedd.

Cwblhaodd Llywodraeth Cymru astudiaeth i mewn i’r rhwystrau a oedd yn gysylltiedig ag ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Caerfyrddin yn ôl yn 2018.

Ni ddaeth yr astudiaeth o hyd i unrhyw rwystrau sylweddol a fyddai’n atal y cynllun.

Felly’r gobaith yw y byddai trafod y pwnc yn y Senedd yn arwain at astudiaethau pellach, gan gynnwys un ynglŷn â’r goblygiadau sy’n gysylltiedig ag ailagor rhai o reilffyrdd y gogledd.

Dywed llefarydd ar gyfer Traws Link Cymru y byddai ailagor y traciau “yn gwella mynediad” i Ben Llŷn a Cheredigion yn sylweddol.

“Byddai adfer y trac i’r de o Gaernarfon yn gwella mynediad i Benrhyn Llŷn ac Arfordir y Cambrian yn fawr,” meddai.

“Byddai teithiau fel Pwllheli i Lundain yn bosib mewn llai na phedair awr trwy Gaernarfon o gymharu â’r chwe awr bresennol trwy Fachynlleth a Birmingham.

“Yn yr un modd byddai mynediad i lefydd fel Llanbedr Pont Steffan, Tregaron a Dyffryn Teifi yn llawer cyflymach trwy Abertawe nag sy’n digwydd ar hyn o bryd, gan agor Gorllewin Cymru a gwneud teithiau gogledd-de Cymru yn bosibl heb fynd trwy Loegr.”