Wrth i bryderon dros ffliw adar gynyddu mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio pobol i beidio â chyffwrdd adar wedi marw.

Ymwelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ag Ynys Dewi ac Ynys Gwales oddi ar arfordir Sir Benfro i asesu graddfa’r ffliw adar pathogenig iawn.

Ar hyn o bryd mae nythod adar môr gwyllt ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu heffeithio gan y clefyd.

Daw’r ymweliad, a drefnwyd gan RSPB Cymru, wedi adroddiadau bod carcasau adar wedi cael golchi ar draethau Sir Benfro.

Mae amheuon mai’r ffliw adar oedd wedi achosi marwolaethau’r adar hyn.

Yn ôl RSPB Cymru, ymysg yr adar sydd wedi eu canfod yn farw mae môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid y Gogledd, gwylanod a phalod.

Maen nhw wedi cael eu canfod yn arnofio mewn dyfroedd o amgylch Ynysoedd y Moelrhoniaid a Rhosneigr ar Ynys Môn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â rhanddeiliaid yn wythnosol drwy Grŵp Ymateb i Argyfwng Adar y Môr er mwyn cadw golwg ar y sefyllfa wrth iddo esblygu.

Gan fod ffliw adar yn cael ei ledaenu drwy disian, baw adar, dŵr ac adar ysglyfaethus gallai ledaenu’n gyflym drwy’r boblogaeth adar ac achosi niwed mawr i’r rhywogaeth.

Ym mis Hydref, oherwydd y risg cynyddol, rhoddodd Llywodraeth Cymru Parth Atal Ffliw Adar ar waith a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid dofednod gydymffurfio â mesurau bioddiogelwch llym.

‘Torcalonnus’

Disgrifiodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, y sefyllfa fel un “dorcalonnus.”

“Hoffwn ddiolch i’r RSPB a’n holl asiantaethau sy’n gweithio’n ddiflino i fonitro’r sefyllfa, a’n hawdurdodau lleol, y gwirfoddolwyr ac APHA,” meddai.

“Rwy’n gofyn i bawb yng Nghymru ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd a gwrando ar gyngor hefyd – peidiwch â chodi unrhyw adar sâl neu farw a chadwch gŵn ar dennyn i atal cyswllt.”

Dylai’r rheiny sydd yn dod ar draws adar sâl neu farw mynd ar wefan neu ffonio Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar 03459 335577.

‘Dinistriol’

Dywedodd Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr RSPB Cymru, bod ffliw adar “wedi bod yn ddinistriol.”

“Mae’n pentyrru’r pwysau ar boblogaethau bregus ac mae’n ychwanegu at frys cynyddol cadwraeth o ran adar y môr,” meddai.

“Yn anffodus, nid ffliw adar yw’r unig her sy’n wynebu adar y môr yng Nghymru.

“Mae effaith newid hinsawdd a gweithgareddau dynol ar y môr hefyd yn gofyn am ymdrechion brys i gynyddu cydnerthedd adar y môr, boed hynny drwy gynllunio morol, bioddiogelwch a rheoli pysgodfeydd.”