Mae’r Ceidwadwyr wedi colli dwy sedd a chadw un mewn isetholiadau mewn tair etholaeth yn Lloegr.

Wedi’r bleidlais ddoe (Gorffennaf 20), fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol gipio sedd Somerton a Frome gyda mwyafrif o fwy na 19,000 o bleidleisiau.

Draw yng ngogledd Swydd Efrog yn etholaeth Selby ac Ainsty, fe wnaeth y Blaid Lafur gipio’r sedd, tra bod y Ceidwadwyr wedi dal gafael ar sedd y cyn-Brif Weinidog Boris Johnson yn Uxbridge.

Cafodd yr isetholiadau eu cynnal gan fod tri Aelod Seneddol Ceidwadol y tair etholaeth wedi ymddiswyddo.

‘Dwysáu anobaith mewn gwleidyddiaeth’

Roedd y Blaid Lafur yn gobeithio ennill hen sedd Boris Johnson yn Uxbridge a De Ruislip, ac yn ôl Plaid Cymru maen nhw wedi methu gwahaniaethu eu polisïau rhag rhai’r Ceidwadwyr.

“Er bod ganddo wynt teg yn ei hwyliau, mae’r polisïau mae Keir Starmer wedi’u menthyg gan y Torïaid a’i wrthwynebiad at obaith wedi arwain at ganlyniadau cymysg,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Fydd polisïau Torïaidd Llafur wedi’u lapio mewn coch ond yn dwysáu’r anobaith mae nifer o bobol ifanc yn ei deimlo tuag at wleidyddiaeth.

“Mae mwyafrif o bobol ifanc nawr yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

“Wrth iddi ddod yn anoddach gwahaniaethu rhwng Llafur a’r Torïaid, Plaid Cymru yw’r ateb i adeiladu Cymru deg, ffyniannus ac uchelgeisiol.”

Dangosa pol diweddar gan Redfield a Wilton bod 53% o bobol rhwng 18 a 24 oed Cymru’n cefnogi annibyniaeth, tra bod 52% o bobol rhwng 25 a 34 oed o blaid.

Mae Keir Starmer yn dadlau na wnaethon nhw gipio sedd Uxbridge oherwydd bod Maer Llafur Llundain, Sadiq Khan, wedi ehangu’r Ardal Allyriadau Isel Iawn i gynnwys rhannau o’r etholaeth.

Yn ôl y Prif Weinidog Rishi Sunak, mae’r canlyniadau dros nos yn dangos nad ydy trywydd yr etholiad cyffredinol nesaf, fydd yn cael ei gynnal dim hwyrach na mis Ionawr 2025, yn bendant naill ffordd.

Gorymdaith dros annibyniaeth yn Wrecsam

Y galw am annibyniaeth ymysg pobol ifanc yn cynyddu

Gyda thros hanner pobol ifanc yn cefnogi annibyniaeth, dywed Prif Weithredwr YesCymru fod angen i’r “genhedlaeth hŷn hefyd fod yn uchelgeisiol”