Mae cwmni sy’n creu adnoddau dysgu ar-lein yn awyddus i wneud iawn am y diffyg darpariaeth i ddisgyblion Cymraeg.
Y Gymraeg yw’r iaith gyntaf, tu hwnt i Saesneg, i gwmni Carousel Learning ymestyn iddi.
Mae’r cwmni, sydd wedi bod yn darparu adnoddau Saesneg i ysgolion dros wledydd Prydain cyn hyn, yn cynnig platfform i athrawon allu gosod gwaith cartref ar-lein i ddisgyblion.
Drwy’r wefan, gall athrawon osod cwestiynau i ddisgyblion ar ystod o bynciau, a nawr mae modd i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael y cwestiynau’n Gymraeg diolch i bartneriaeth rhwng Carousel Learning a Chyngor Sir Benfro.
Mae’r holl blatfform ar gael i ddisgyblion yn Gymraeg, a ddechrau 2024 bydd pen yr athrawon i gyd ar gael yn Gymraeg hefyd.
‘Lleihau’r bwlch’
Defnyddwyr sy’n creu banciau o gwestiynau, a bydd athrawon ledled Cymru’n gallu defnyddio’r cwestiynau Cymraeg, fydd yn cyd-fynd â chwricwlwm CBAC, o’r banciau.
“Yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol fel platfform yw bod gennym ni gymdeithas frwdfrydig iawn o ddefnyddwyr sy’n creu eu banciau cwestiynau eu hunain,” eglura Chris Connolly, Pennaeth Cwsmeriaid Carousel Learning, wrth golwg360.
“Pan wnaeth Cyngor Sir Benfro gysylltu efo ni gyda diddordeb cydweithio fel rhan o’u cynllun gwella ysgolion yn y sir, roedden ni’n gallu cynnig ymrwymiad i greu’r interface ar gyfer disgyblion yn Gymraeg – sy’n golygu bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu gosod cwestiynau ar gyfer Hanes, Gwyddoniaeth, Cymraeg… beth bynnag yw’r pwnc.
“Byddan nhw’n gallu sgrifennu’r cwestiynau yn Gymraeg, a bydd disgyblion yn defnyddio’n platfform yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg.
“Mae’r cwestiynau’n ymddangos ym mha bynnag fformat ac iaith mae’r athrawon wedi’u sgrifennu, mae hwnnw’n fyw nawr.”
Mae tua 3,000 o fanciau o gwestiynau’n bodoli mewn Saesneg ar hyn o bryd, a defnyddwyr mewn ysgolion ledled gwledydd Prydain a thu hwnt, yn eu defnyddio.
“Bydd athrawon yng Nghymru’n creu banciau o gwestiynau Cymraeg sy’n cyd-fynd â chwricwlwm CBAC ar gyfer ystod o bynciau,” eglura Chris Connolly.
“Bydd athrawon yn Sir Benfro ar flaen y gad efo hynna, a bydd y llwyth gwaith yn llai i athrawon yn y dyfodol.
“Gobeithio y bydd yn lleihau’r bwlch o ran beth sydd ar gael o ran technoleg addysg i ddisgyblion yng Nghymru sy’n cael eu haddysg drwy Gymraeg o gymharu â’u cyfoedion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”
‘Marchnad cyfrwng Cymraeg’
Roedd gan Chris Connolly, sy’n Wyddel yn byw ym Melffast, syniad o ymestyn i’r Gymraeg ers ychydig amser pan ddigwyddodd Cyngor Sir Benfro gysylltu.
“Fe wnaeth sefyllfa ffodus, serendipaidd godi – roedd gen i hyn mewn golwg eisoes,” eglura.
“Oherwydd fy mod i’n Wyddel, dw i’n meddwl fy mod i’n gallu gweld bod yna farchnad oedd ddim yn cael digon o sylw yng Nghymru o ran bod y sector cyfrwng Cymraeg yn sylweddol ac iach ond ddim yn cael ei wasanaethu’n ddigonol.
“Roeddwn i’n gallu gweld y gallai ein cynnyrch ni gyd-fynd a chael ei addasu i’r cyd-destun hwnnw’n eithaf hawdd.
“Roedd hynny yn fy mhen ar gyfer prosiect yn 2024, ond ar ddiwedd 2022 fel wnaeth Cyngor Sir Benfro gysylltu.
“O’u safbwynt nhw, y gallu i’w wneud yn Gymraeg oedd y prif beth wrth ddechrau’r bartneriaeth.”
Mae’r platfform yn gallu adrodd y cwestiynau hefyd, a throsi’r testun yn llais.
“Mae’n golygu nad oes rhaid gallu darllen i ymarfer efo’r adnoddau,” meddai Chris Connolly.
“Mae gennym ni ddisgyblion ifanc iawn sydd methu darllen eto’n gallu clicio ar y sgrin ac mae’r cwestiwn yn cael ei ddarllen iddyn nhw, ac yna maen nhw’n nhw’n gallu dewis yr ateb.
“Gall fod yn gwestiwn llafar yn unig, sy’n gallu cael ei ddefnyddio i brofi sillafu rhywun.
“Un o’r pethau oedd y tîm yn Sir Benfro wedi cyffroi yn ei gylch oedd bod disgyblion mewn ysgolion Cymraeg sydd ddim o reidrwydd yn clywed Cymraeg adref yn gallu clywed mwy o Gymraeg drwy’r system testun i lais.
“Rydyn ni wedi cyffroi am y peth.
“Fyswn i wir yn hoffi gweld fersiwn Wyddeleg ar gael ar gyfer ysgolion Gwyddeleg yn fan hyn, ar ôl y cam yma.
“Gobeithio y gellir lleihau’r bwlch o ran mynediad i adnoddau yma hefyd.”