Byddai 53% o bobol ifanc rhwng 18-24 oed yn pleidleisio o blaid refferendwm annibyniaeth pe bai’n cael ei gynnal ar unwaith, yn ôl pôl piniwn diweddar.
Dywed 52% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed y bydden nhw hefyd o blaid annibyniaeth.
Daw’r data gan bôl Redfield and Wilton Strategies, sydd wedi cynnal cyfres o arolygon tebyg.
Ar y cyfan, byddai 32% yn pleidleisio o blaid annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal ar unwaith, sydd 2% yn uwch na ffigwr yr un pôl piniwn fis diwethaf.
Felly, mae’r gefnogaeth wedi aros o gwmpas rhyw draean o’r boblogaeth.
Dywed 58% eu bod nhw yn gwrthwynebu annibyniaeth, tra dywed 10% nad ydyn nhw’n siŵr pa ffordd y bydden nhw’n pleidleisio.
Byddai 33% o boblogaeth Cymru yn cefnogi cynnal refferendwm o fewn y flwyddyn nesaf, tra byddai 39% yn gwrthwynebu hynny.
Rhaid i’r genhedlaeth hŷn fod yn “uchelgeisiol”
Y grŵp oedran sydd lleiaf tebygol o gefnogi annibyniaeth yw’r rheiny dros 65 oed, gyda 70% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio ‘Na’ mewn refferendwm.
Yn yr un modd, dywed 55% o rheiny rhwng 35 a 44 oed, 66% o’r rheiny rhwng 45 a 54 oed, a 55% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed eu bod nhw yn erbyn y syniad.
Yn ôl Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, mae’n rhaid i’r genhedlaeth hŷn fod yn “uchelgeisiol”.
“Mae polau piniwn diweddar yn dangos symudiad cyson a dyfnach tuag at annibyniaeth i Gymru,” meddai.
“Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, rydym wedi gweld mwyafrif o bobol ifanc 18-34 oed o blaid annibyniaeth. Nhw yw’r dyfodol.
“Mae’n bryd i’r genhedlaeth hŷn hefyd fod yn uchelgeisiol, yn ddewr ac yn hyderus. Mae’n bryd edrych ar ddyfodol mwy disglair, gwell a mwy beiddgar fel cenedl annibynnol.”
Yn ôl y pôl, mae 35% yn credu na ddylai’r refferendwm gael ei gynnal os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gefnogi.
Ond mae 34% yn credu y dylai refferendwm gael ei gynnal, waeth beth yw’r farn yn San Steffan.
“Ailddarganfod yr hyder”
Yn flaenorol, dywedodd Gwern Gwynfil wrth golwg360 fod angen annibyniaeth ar Gymru er mwyn “ailddarganfod yr hyder ac ailddarganfod ein huchelgais” wrth wthio am bwerau a hawliau.
“Mae’n ddiddorol iawn o ran yr hyder, oherwydd petaen ni’n wlad annibynnol byddai’r hyder yna’n gynhenid,” meddai.
“Mae unrhyw wlad annibynnol â hyder cynhenid.
“Os wyt ti erioed yn cwrdd â rhywun o Wlad yr Iâ neu o Iwerddon neu Slofenia neu Estonia, mae eu hyder nhw yn eu gwlad ac yn eu gallu nhw i reoli eu gwlad yn hollol amlwg i’w weld, ond wrth gwrs fel gwlad sydd wedi bod o dan sawdl gwlad arall am saith canrif, dyw e ddim cweit yr un peth.
“Mae’n rhaid newid yr agwedd a bod ar y droed flaen, a mynnu ein hawliau ni bob dydd, bob awr o bob dydd, saith diwrnod yr wythnos.”