Mae’r diffyg gweithredu gan gyrff cyhoeddus dros y ganrif ddiwethaf, gwthio’r Gymraeg ymhellach a phellach tua’r gorllewin efo hanes Epynt yn esiampl glasurol, y dirywiad oherwydd dallineb, twpdra, diffyg cynllunio, a llestri gweigion oll wedi cyfrannu at y dirywiad, medd Cynghorydd Plaid Cymru tros ardal Glantwymyn ym Mhowys…


Anghofiwch Harry Potter, Lord of the Rings a Game of Thrones, roedd hanesion Y Mabinogi y cynta i gofnodi anturiaethau Arthur, ei gleddyf enwog a’r tywysogion.

Mae hyd yn oed yr iaith ‘Elvish’ siaredir yn Lord of the Rings wedi’i seilio ar y Gymraeg, ac mae nifer o gymariaethau wedi’u nodi rhwng Game of Thrones a hanesion mytholegol Cymraeg.

Y Mabinogi ydy’r storiau llenyddol cynharaf ym Mhrydain. Fe’u llunwyd yn y deuddegfed a’r drydedd ganrif a’r ddeg o’r traddodiad llafar cynharaf. Mae’r llyfr yn cynnwys casgliad o unarddeg stori o wahanol fathau, yn cynnyws drama, rhamant, athroniaeth, trasiedi, ffantasi ac hiwmor.

Casgliad o bedair chwedl yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw’r Mabinogi. Eu henw traddodiadol yw Pedair Cainc y Mabinogi.

Llyfr Coch Hergest

Fe’u ceir yn gyflawn yn Llyfr Coch Hergest yn unig, gyda darnau o rai chwedlau yn unig mewn llawysgrifau eraill.

Llawysgrif hynafol yn yr iaith Gymraeg, a ysgrifennwyd tua 1382-1410, yw Llyfr Coch Hergest. Mae’n un o’r prif ffynonellau ar gyfer chwedlau’r Mabinogi a cheir ynddi hefyd sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol arall, ac adran bwysig o gerddi. Mae’r gwaith wedi’i osod yn drefnus iawn ac yn cynnwys rhyddiaith, barddoniaith, gweithiau brodorol, addasiadau o ieithoedd eraill a chyfieithiadau, yn pwysleisio y cysylltiadau Ewropeaidd cynnar gan Gymru – yn rhan o brif ffrwd meddyliol Ewrop.

Un o’r rhai fu’n gyfrifol am y llawysgrif oedd Hywel Fychan fab Hywel Goch o Buellt – Sir Frycheiniog bellach.

Cyfeiriwyd ati fel “y crynhoad llawysgrif sengl cyfoethocaf o lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol”.

Daw’r enw am ei fod wedi’i rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas Hergest yn Swydd Henffordd. Cyn hynny, roedd ym meddiant John Vaughan o Dre-twr, Sir Frycheiniog, yn 1465. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau’r ail ganrif a’r bymtheg a dyna pam y cafodd yr enw.

Breuddwyd Rhonabwy

Yr olaf o’r chwedlau yw Breuddwyd Rhonabwy, stori lenyddol wedi’i llunio gan ŵr eglwysig, tybir o Bowys, ond a oedd yn sicr yn gysylltiedig ag abaty Ystrad Marchell.

Cwmwd hynafol oedd Ystrad Marchell ym Mhowys – sy’n cyd-fynd heddiw yn fras efo plwy’ Trallwng.

Chwedl Gymraeg ganoloesol sy’n perthyn i Gylch Arthur yw Breuddwyd Rhonabwy, stori am deulu brenhinol Powys yn y ddeuddegfed ganrif.

Fe’i lleolir yn hen deyrnas Powys yn amser Madog ap Maredudd fu farw yn 1160.

Ceir yr unig gopi canoloesol o Freuddwyd Rhonabwy yn Llyfr Coch Hergest.

Be’ mae hyn yn ei amlygu ydy pwysigrwydd anhygoel hanesyddol, diwylliannol a threftadaeth Llyfr Coch Hergest a’i gynnwys i Gymru gyfan, a bod hyn i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi’i leoli ym Mrycheiniog!

Yn ychwanegol at hyn, adnabyddir rhan o Swydd Henffordd fel Archenfield sy’n hannu o hen deyrnas Gymreig Ercic.

Roedd Archenfield yn ddigon Cymraeg yng nghyfnod Elizabeth I i Esgob Henffordd gael y cyfrifoldeb efo pedwar arall o Gymru i gyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi i’r Gymraeg. Siaradwyd Cymraeg yn ddigon cyffredin yno fel bo wardeiniaid eglwysi yn rhoi hysbysebion fyny yn Gymraeg a Saesneg hyd at ryw 1860.

Hyd yn oed yng Nghyfrifiad 1879, dangoswyd cryfder y Gymraeg yn Mrycheiniog. Roedd poblogaeth o 59,901 efo 6,340 yn uniaith Gymraeg a 33,530 pellach yn ddwyieithog. Dros 66% yn gallu siarad Cymraeg tra, bellach, cwta 16% a thua 20,000 sydd ym Mhowys gyfan!

Canlyniadau’r ymdrechion cyntaf i gyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg (gan y daearyddwr EG Ravenstein yn 1879, yn seiliedig ar ymholiadau lleol yn hytrach na Chyfrifiad llawn)

Diffyg gweithredu

Y pwynt ydy, mae yna gyfoeth o’r Gymraeg yn perthyn i Frycheiniog, ac mae’r diffyg gweithredu gan gyrff cyhoeddus dros y ganrif ddiwethaf, gwthio’r Gymraeg ymhellach a phellach tua’r gorllewin efo hanes Epynt yn esiampl glasurol, y dirywiad oherwydd dallineb, twpdra, diffyg cynllunio, a llestri gweigion oll wedi cyfrannu at y dirywiad.

Yn union yr un fath ag annog cynaladwyedd natur, rhaid gweithredu i sicrhau amddiffyn y gwan a’r bregus – y Gymraeg. Yn lle gweld problem, dylid gweld cyfle – a gwneud y mwyaf o’r cyfoeth anhygoel a threftadaeth sy’n bodoli ym Mrycheiniog.

A dyna pam y dylid diolch i’r cynghorwyr hynny bleidleisiodd o blaid y gweithredu cadarnahol gan y Parc Cenedlaethol – yn eu mysg, Huw Williams, Gareth Ratcliffe, William Powell… ac Iain Macintosh.

A dyw hi ddim ond yn deg i mi wneud rhywbeth dwi ddim yn ei wneud yn aml, sef llongyfarch y Toris am ddangos y ffordd i’r Parc Cenedlaethol efo cynnig yn 2014 a basiwyd gan y Cyngor yma i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig ar lefydd.

Mae’r Cyngor wedi datgan pwysigrwydd cynaladwyedd sawl tro, ac felly yn nodi ac yn llongyfarch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar fabwysiadu Bannau Brycheiniog fel term swyddogol, gan adlewyrchu pwysigrwydd y Gymraeg a breuder cynaladwyedd yr iaith fel iaith gymunedol, a thrwy hynny efelychu polisi’r Cyngor yma.

Nodwn fod cynifer o fentrau ym maes twristiaeth yn Ne Powys, efo cefnogaeth Ceidwadwyr amlwg, wedi datgan yn ddiweddar eu bod am weld gweithredu dwyieithog yn ardal y Bannau Brycheiniog. Serch hynny, nodwyd nad oes dim un ohonynt efo’r Gymraeg ar eu gwefannau nac efo cynlluniau i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Cyngor eisioes yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yn ein cymunedau, a bod ein henwau Cymraeg lleol yn adlewyrchu’r cyfoeth hanesyddol, ein treftadaeth, ein cynefin, a’n blaenoriaethau cynaladwyedd presennol, ac yn rhoi Naws am Le i ardal. Credwn fod angen cynorthwyo’n ymarferol y mentrau yma, felly, i ddefnyddio’r Gymraeg ac i allu bod yn ddwyieithog yn lle gweiddi o’r cyrion.

Yn y Mabinogi, mae Blodeuwedd yn adlewyrchu gwahanol flodau – briallu, derw, banadl, erwain, ac fe’i hadnabyddir fel tywysoges y blodau am ei bod yn gallu edrych tua’r haul, efo’r enw Blodeuwedd yn dod o ‘blodeu’ – yn golygu blodeuo – a ‘gwedd’ yn golygu ‘wyneb/aspect’.

Gadewch i ni, ganrifoedd yn ddiweddarach, allu gwthio negyddiaeth wrth-Gymraeg rhai unigolion i’r tywyllwch, gan adael i oleuni flaguro bywyd newydd a rhoi cynaladwyedd y Gymraeg a rhoi Naws am Le ar waith unwaith eto ym Mannau Brycheiniog.